Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Ar Lannau'r Tawelfor
Gwedd
| ← Blodau Galar | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
Penillion → |
XV.
AR LANNAU'R TAWELFOR.
Ar lannau'r Tawelfor eang gwyrdd,
Lle'r heria bywyd ormes y bedd,
Lle tyfa'r palmwydd yn fil a myrdd
Heb hydref blwng i heneiddio'u gwedd.
Eisteddaf a theimlaf ar fy ngrudd
Freuddwydiol gusan y chwa ddi-lef;
A gwelaf y nos yn gorchfygu'r dydd,
A gwaed y machlud ar odreu'r nef.
Copäu'r Sierras ymgyfyd draw
Dan goron oesol o eira claer,
Lle llifa afonydd di-rif, di-daw,
Tros lydain welyau o dywod aur.
'Rwy'n llesg ac unig a phell o'm bro,
Ar draeth anghysbell fy ngwallgof hynt;
Ond egyr anian drysorau'r co,—
Melusfwyn brofiadau'r dyddiau gynt.