Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Ar y Fordaith

Oddi ar Wicidestun
Penillion Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Ebrill

XVII.
AR Y FORDAITH.

Ai helbul a siom ac adfyd
Yw'r cyfan sydd ar fy rhan?
Tu hwnt i ystormydd bywyd
Onid oes gilfach a glan?

Er lleidio'r dwr mae'n treiglo
I buro ei hun o hyd;
A genir y blodau amryliw
Ym marw bridd y byd.

O ddyfnder y caddug oesol
Y pefria'r seren uwchben;
A chysgod y cwmwl duaf
Yw cartref y fellten wen.

Fy llygaid fydd ar y seren
I'm harwain i ben y daith;
A llewyrch y fellten lachar
Gaiff ddangos fy llwybyr llaith.


Nodiadau

[golygu]