Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Ben Bowen

Oddi ar Wicidestun
Cerdd yr Ysbryd Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Cerdd yr Hydref

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ben Bowen
ar Wicipedia

XI.
BEN BOWEN.
[IN MEMORIAM.]

Wylo wna'r awen ar fin ei hawenydd
Am gau'r gloewon lygaid lle flachiai ei thân:
Angau ddistawodd felysdon llawenydd,
A thorrodd y delyn yng nghanol y gân.

Anadlodd y barrug ar obaith ei flwyddyn;
Cusanodd y dail a gysgodai ei rudd;
Gwridasant, a lleithder yr hydref aeth trwyddyn':
Machludodd yr haul yn ieuenctyd y dydd!

A minnau, ei gyfaill, alaraf gymeryd
O angau 'nghydymaith a heriai ei fraw:
Y fynwes a'm carai sy'n oer yn y gweryd,
A marw yw'r bysedd a wasgai fy llaw.


Nodiadau

[golygu]