Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Blodau Galar
Gwedd
| ← In Tir-na'n-Og | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
Ar Lannau'r Tawelfor → |
XIV.
BLODAU GALAR.
Yma mae blodau'n gwywo,
A rhywun o hyd yn glaf;
Tu hwnt i'r glyn blodeuo
Mae'r dwyfol haf.
Gwywodd lili ddaearol
Yn oerion awelon y byd;
Blagurodd lili nefol
Yr un pryd.
Torrodd telyn fach beraidd
A ganai'n felus mewn poen,
Chwanegwyd telyn euraidd
Yng nghôr yr Oen.
Dros dywyll derfyngylch amser
Machludodd seren fach wen,
I wasgar ei goleu tyner
Mewn gloewach nen.
Wylo dagrau hiraethlon
Gawn ni ar raian dy fedd;
Cei dithau byncio alawon
Bro'r oesol hedd.
Ond wedi'r hiraeth a'r galar
Cawn eto gyfarfod i fyw;
Cyfannir rhwygiadau'r ddaear
Yng ngwynfa Duw.
