Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Cariad Ysbryd y Mynydd
| ← Gweledigaeth Olwen | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
Glan y Môr → |
VIII.
CARIAD YSBRYD Y MYNYDD.
Fe garai ysbryd y mynydd
Frenhines y tylwyth teg;
A mynnai groesawu beunydd
Ei dlws ar ei fynwes freg;
Heb newid na chysgod eiddigedd
Y carai'r fireinfun lon;
A hyawdl fudandod unigedd
Oedd iaith cyfrinach ei fron.
Preswyliai'r forwyn frenhinol
Wyryfol briflys y llyn;
A gwisg ei harddwch cyfriniol
Oedd sidan y nifwl gwyn;
Lluniasai Gwener ei bronnau,
Cyn wynned a blaenion y lli;
A gwamal fel tyniad y tonnau
Oedd traserch ei mhynwes hi.
Cusanodd wefusau'r blodau
A dawnsiodd yng ngerddi swyn;
Gwirionodd ym melus nodau
Sibrydol serchiadau'r llwyn;
Gadawodd ei brenin tawel
Ym meddwol ledrith yr haf,
Ar fraich ddiofal yr awel
Dan wên y melyndes braf.
Pan wywodd y blodau brig dansi
Dan anadl hydrefol wynt,
Atgofiodd y wamal ei ffansi
Y serchog a'i carai gynt:
Cashaodd ei ffals gariadau,
A thorrodd ei chalon ffôl;
A'r ysbryd anfonodd genhadau
A chroeso i'w dlws yn ôl.
