Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Cerdd yr Hydref
Gwedd
| ← Ben Bowen | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
In Tir-na'n-Og → |
XII.
CERDD YR HYDREF.
Gwywa, gwywa rhosynnau diddanwch,
A'r hydref a dry yn auaf llwm;
Cilia, cilia cerddi difyrrwch,
Egwan eu heco yng nghreigiau'r cwm.
Gwyw, O mor wyw, lliw'r manddail wrth farw:
Torri ei chalon wna awel swyn:
Cilia'r blodau o'r dymestl arw;
A thrist a distaw yw côr y llwyn.
Ataf mewn hun daeth adlais dy enw
Fel cusan esmwyth anadl y chwa;
Eto fe erys atgof dy ddelw
Wedi'r ymedy rhosynnau'r ha.