Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Cerdd yr Ysbryd

Oddi ar Wicidestun
Glan y Môr Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Ben Bowen

X.
CERDD YR YSBRYD.

F'anwylyd, 'rwy'n dy weld yng nghysgod prudd
Yr ywen leda 'i brigau tros fy medd;
A gwelaf bang dy alar ar dy rudd,
A hiraeth calon drom yn llwydo'th wedd;

A chlywaf ocheneidiau'th ofid trwch,—
Y gofid frithodd fuchudd mwyth dy wallt;
A gwyliaf di yn plygu uwch fy llwch
I wlitho'r glaswellt gyda'th ddagrau hallt.

Hiraethu 'rwyt am ran o'm gwely oer,
Pan lithri ataf yn unigrwydd nos,
Heb neb yn gweled ond y wyryf loer,—
lloer a wyliai'n caru gynt, fy nhlos.

A minnau'th gariad, ysbryd rhydd wyf fi,
Ac nid y bedd yw'm cartref, Olwen wâr;
Diflannai cur dy fron pe gwyddet ti
Agosed atat ydyw'r neb a'th gâr.


F'anwylyd, 'rwy'n dy weld yng nghysgod prudd
Yr ywen leda 'i brigau tros fy medd;
A mynnwn weld rhosynnau ar dy rudd,
A gwrid ieuenctyd yn mantellu'th wedd.



Nodiadau

[golygu]