Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Dadl Serch
Gwedd
| ← Bwthyn y Bardd | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
Llatai → |
IV.
DADL SERCH.
Paham, fy anwylyd hardd,
Na chredi lwon fy min?
Mwy hudol dy wên i'th fardd
Na'r neithdar dwyfol ei rin.
Nid prin mo drysorau'r gwin,
Pam mynni, fy nhlws, eu cloi
A'm cadw mewn syched blin
A chennyt gymaint i'w roi?
Yr awel gofleidia'r rhos,
A'r lloer sy'n cusanu'r lli;
Paham, fy anwylyd dlos,
Gomeddi fwynder i mi?
Esmwytho fy ngofid a 'nghur
Wna lledrith dy landeg lun;
A chusan dy wefus bur
Sy'n arial i 'mywyd, fun.
Tydi bia f'einioes i gyd,
A wyt yn ameu fy serch?
Aberthais obeithion y byd
I brynnu dy gariad, ferch.
Nid cellwair yw serch i mi,
Ond gorlif ysgubol don;
Nid chwarae mo'th geisio di,-
Mae'r gair yn brifo fy mron.
