Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Eneth Wen fel Meillion Dôl
| ← Cyfrinach y Beirdd | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
Gorffwys Don → |
XXVIII.
ENETH WEN FEL MEILLION DOL.
Eneth wen fel meillion dôl,
Dyro 'nghalon imi'n ôl,
Neu bydd foddlon
I dy galon
Fod yn eiddo'th brydydd ffôl.
Dwyfol dlysni'th ieuanc rudd
Gân fy awen nos a dydd.
Lili wen wyt, eneth hardd,
Yn dy lygaid swyn a chwardd,-
Llygaid gleision,
Ddwed gyfrinion
Serch dy galon wrth dy fardd.
Cofia fel y rhodiem gynt,
Gyda'n pennau yn y gwynt,
Hyd y llwybrau
Dros y bryniau
Fraich ym mraich ar felus hynt;
Drwy y blodau yn y glyn,
Dros y maes a'r gwenith gwyn;
Teimlo wnaem mai serch oedd sail
Cân yr adar rhwng y dail,
Ninnau'n trydar
Fel yr adar,—
Cân a chusan bob yn ail.
Ffrwd yw'th gân o hudol swyn,
Gwell nag odlau mêl y llwyn,
Gwell na miwsig
Yr afonig
Eilia ganig rhwng y brwyn.
Pletha'r eos gyngan dlos
Serch a gofid ganol nos;
Meddi dithau oslef brudd,
Dan dy fron mae gofid cudd,
Gwelais ddeigryn,
Gloew wlithyn,
Ar y rhosyn ar dy rudd.
Nos a dydd y mae fy mron
Mor ddi-hedd a'r grwydrol don;
Ddisglair seren
O'r ffurfafen,
Gwena arnaf, gwna fi'n llon.
Eneth Wen fel Meillion Dôl.
Canu yn y nos 'rwy'n awr,
O dy wên y daw y wawr
Wenlliw deg fal meillion dol,
Na ro 'nghalon imi'n ôl;
Ond bydd ffyddlon
I roi'th galon
I Hilarion ffyddlon fföl.
