Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Glan y Môr

Oddi ar Wicidestun
Cariad Ysbryd y Mynydd Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Cerdd yr Ysbryd

IX.
GLAN Y MOR.

[O'R ALMAENEG.]

Dod allan mae y lleuad
I dwnnu ar y don;
Cofleidiaf finnau 'nghariad,
A chwydda serch ein bron.

Ym mreichiau'r eneth finfel
Gorffwysaf wrth y lli:
"Beth glywi'n suon yr awel?
Pam crynna'th law wen di?"

"Nid suon yr awel mohonynt,
Ond canu'r morwynol gôr:
Chwiorydd imi ydynt
A lyncodd gwanc y môr."


Nodiadau

[golygu]