Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Gorffwys Don

Oddi ar Wicidestun
Eneth Wen fel Meillion Dôl Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Tro yn Eryri

XXIX.
GORFFWYS DON.

Gorffwys, don, yn dawel, dawel;
Paid a digio wrth yr awel
Sy'n cusanu ewyn gwyn dy frig;
Huna'r waen a huna'r mynydd;
Pam y byddi di'n aflonydd?
Pam y curi'r lan mor ddig?

Teyrn y nef sydd wedi cilio;
Ac anfonodd wrth noswylio
Wên tangnefedd dros flinedig fyd;
Ei belydr olaf dros yr eigion
Oedd lwybr aur i wlad breuddwydion,
Cyfrin fro breuddwydion hud.

Pan mae anian oll yn cysgu,
Pam y mynni di derfysgu
Ac ewynnu'n greulon yn y gro?

Ust, distawa'th dôn anynnad,
Rhag cynhyrfu hun fy nghariad,―
Hun y decaf yn y fro.

Pâr i Olwen landeg huno'n
Suol siffrwd dy furmuron,―
Dwsmel seiniau pêr y tonnog gôr;
Dyro 'nghymlith a'i breuddwydion
Serch ganiadau'r môr forwynion,―
Swynol fiwsig dwfn y môr.

Boed i'w chalon bur atgofio
Dyddiau dedwydd aethant heibio
Pan y crwydrem gyda glannau'r llyn,
Pan eisteddem yn y cyfnos
Yng nghyfeddach cainc yr eos
Dan y dail ar ael y bryn.

Sibrwd, don, mor ddwfn a chynnes
Ydyw didranc serch fy mynwes,
Serch fy nghalon at fy lili dlos;

Paid a phoeni'r lân forwynig
Gyda chŵyn y gwyliwr unig
Grwydra'r forlan yn y nos.

Tyner gwsg gusana'i hamrant,
Gwenau ar ei min chwareuant,
Pur dangnefedd yn ei mynwes drig.
Gorffwys, don, yn dawel, dawel;
Paid a digio wrth yr awel
Ddawnsia'n ysgafn ar dy frig.



Nodiadau

[golygu]