Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Hiraeth am Olwen

Oddi ar Wicidestun
Llatai Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Gweledigaeth Olwen

VI.
HIRAETH AM OLWEN.

Fe rua'r wendon heno
Rhwng Olwen deg a mi;
Ond myn fy meddwl grwydro
I chwilio am dani hi.

Anfonaf awel esmwyth,
Tros donnau'r eigion hallt,
I wylio hun ei hemrynt,—
I orffwys yn ei gwallt;

A suo cwyn felusddwys
Unigedd prydydd prudd,
A'r hiraeth draetha 'i hanes
Mewn dagrau ar ei rudd.

A'r lleuad wen sy'n caru
Mynyddoedd Cymru gu
Gaiff wisgo breuddwyd Olwen
Yn lliwiau'r amser fu,—


Yr amser diofal dreuliwyd
Mewn llawer melus hynt
Ar lwybrau grug y mynydd
Yn nwyf y dyddiau gynt.

Aeth heibio'r oriau hynny,
A'r beddrod ddaeth yn nes;
Ond nis gall serch heneiddio,
Na chariad golli 'i wres.



Nodiadau

[golygu]