Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/In Tir-na'n-Og
Gwedd
| ← Cerdd yr Hydref | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
Blodau Galar → |
XIII.
IN TIR-NA'N OG.
Gorffennol oes sy'n mynd yn hwy o hyd,
A'r haul yn prysur deithio cylch y nen;
Amlhâ'r edafedd arian ar fy mhen;
Ac amser gerfia 'i stori ar fy mhryd.
Ond nis gall cariad Olwen fynd yn hên,
Er medi dedwydd gnwd cynhauaf llawn
A chywain i'r ysgubor aeddfed rawn
Addawodd blodau'r gwanwyn yn eu gwên.
Er oerni'r bedd, a phwysau oesau fyrdd,
Clir a digwmwl fydd ei lasliw nef;
Ei brennau deiliog bery'n fythol wyrdd;
Blodau paradwys hulia 'i lwybrau ef.
Yn nhir Ieuenctyd saif ei hendre werdd
A chyngan swyn ieuenctyd leinw 'i gerdd.