Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/L' Envoi
Gwedd
| ← Y Gwyliwr | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
Rhestr o'r Tanysgrifwyr → |
XXXIII.
L'ENVOI.
Sugenais fel chwa yn yr hesg
Acenion mêl swynion merch;
A dygaf fy odlau llesg
Yn offrwm ar allor serch.
Un gerdd sy'n fy nghalon i,
A methais a'i chanu'n iawn:
Mae'r gair a lefara gri
Dygy for yr eigion llawn?
Rhy gyfrin y ddwsmel sain
I dorri ar glust y byd;
Nis gedy'r gynghanedd gain
Mo dannau'r telynnau mud.
Dan gysgod canghennog bren,
Yng nghysegr y goedwig werdd,
Ymgrymaf wrth allor wen
I drydar fy nrylliog gerdd.