Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Llatai

Oddi ar Wicidestun
Dadl Serch Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Hiraeth am Olwen

V.
LLATAI.

Dyma'r blodau, gwrando'u neges,
Gwêl eu lliwiau hardd;
Gwyn a gwridog, pur a gwresog
Megys serch dy fardd.

Pwysau'r neges wywa'r blodau
Yn dy law, fy merch;
Cwyno maent mor drwm a chreulon
Ydyw swynion serch.



Nodiadau

[golygu]