Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Llwybrau Bywyd

Oddi ar Wicidestun
Caniadau Eraill Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Y Crwydryn

I.
LLWYBRAU BYWYD.

Mae ynys werdd yng nghefnfor poen;
Ac awel falm gwanwynol hoen
Gusana'r blodau ar ei bron
Yn swn galarnad prudd y don.

Ar fron y nos mae seren gu;
A deilen werdd ar ywen ddu;
Yn oergri'r gwynt ceir goslef hedd;
A blodyn gobaith dyf o'r bedd.

Tywynna'r haul yng nglesni'r nen
Pan ddua'r cwmwl gylch fy mhen;
Ac heb gynddaredd tymestl gref
Ni welid enfys yn y nef.

Try barrug llwyd y cyfnos prudd
Yn emau claer ar doriad dydd ;
A pherlau gloewa'r nefol wawr
Fydd heilltion ddagrau'r cystudd mawr.


Nodiadau

[golygu]