Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Llyn Geirionnydd

Oddi ar Wicidestun
Dagrau'r Nos Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Y Ddwy Lili

XXV.
LLYN GEIRIONNYDD.

Hyd lwybrau'r awelon i gartref y grug
Yn nwfwn ddistawrwydd y mynydd,
Mi grwydraf mewn breuddwyd i'r amser dedwydd fu,
Lle chwery glasliw don Llyn Geirionnydd.
Anesmwyth a niwlog gysgodion y gwyllnos
Ordoant fy mynwes aflonydd:
Byth, byth ni ddaw'r oed im' gyfarfod a fy nhlws
Ar lannau graean glân Llyn Geirionnydd.

Daw'r awel i ganu ar delyn y grug;
A dychwel y gwanwyn i'r dolydd;
A chyfyd yr heulwen i wenu ar ei llun
Ym mynwes dawel ddofn Llyn Geirionnydd.
Ond tywyll a niwlog gysgodion y gwyllnos
Ordoant fy mynwes aflonydd:
Byth, byth ni ddaw'r oed im' gyfarfod a fy nhlws
Ar lannau graean glân Llyn Geirionnydd.


Ymlwybraf yn araf a thrist tua'r bedd
Ac yno caf hedd i fy nghalon,
A'm hysbryd o'i gadwyn a'i holl ofidiau'n rhydd
Gaiff grwydro 'nghwmni'r haul a'r awelon.
Pan ddianc y niwl a chysgodion y gwyllnos
O flaen goleu dwyfol y wawrddydd,
Ar edyn yr awel a gawn ni gwrdd, fy nhlws,
Ar lannau graean glân Llyn Geirionnydd?


Nodiadau

[golygu]