Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Penillion

Oddi ar Wicidestun
Ar Lannau'r Tawelfor Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Ar y Fordaith

XVI.
PENILLION.

I anghofio 'mhoen a 'mlinfyd
Canaf bennill i f' anwylyd,—
Pennill serch i'r lili wenfron
Roes ei delw ar fy nghalon.

O'rwy'n cofio 'i gwenau serchog,
Llygaid du a gwallt modrwyog,
Cofio'i geiriau tyner melus,
Cofio'r mêl sydd ar ei gwefus.

Llym yw min fy mhrofedigaeth,
Oer yw tonnau siomedigaeth,
Eto'r wefus honno'n gwenu
Dry fy nghwyn yn ffrwd o ganu.

Dianc wnaeth pan ddaeth yr hydref,
Fel y wenol oddicartref;
Blodau'r haf oedd hi yn garu,
A gadawodd fi i alaru.


Ddoi di eto'n ôl, Riannon,
I ddringo creigiau gwylltion Arfon,
I anadlu'r byw awelon
Ac i byncio'r hên alawon?
Daeth yr eirlwys at fy mwthyn

Ag addewid am y gwanwyn;
Dwed fod haf yn dod i Gymru,
A chyda'r haf y ferch wy'n garu.



Nodiadau

[golygu]