Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Priflys y Gwyllnos
Gwedd
| ← Y Bedd dan fy Mron | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
Afon y Nos → |
XXI.
PRIFLYS Y GWYLLNOS.
I lawr i briflys y gwyllnos
O'r byd y crwydrodd y bardd,
Lle'r eistedd ysbrydion breuddwydiol
Ar seddau o farmor hardd;
Brenhines gororau'r cysgodion
Sydd yno'n arlwyo gwledd
O seigiau marwolaeth mewn bywyd,
A gwinoedd perllannau'r bedd.
Prydferthach brenhines y gwyllnos
Na'r lili yng ngerddi'r glyn,
Ei mynwes sydd ddwyfol luniaidd,
Ac oer fel y marmor gwyn;
Pob un a welodd ei thlysni
Fyn yfed o gariad hon,
Er gwybod fod swyn ei gwenau
Yn fferru ei waed tan ei fron.
Y gwanwyn yng ngwisgoedd yr hydref
Ni ŵyr am wyrddlesni'r haf;
A gwelw yw gruddiau'r holl ddeiliaid,
Anobaith wna'r galon yn glaf;
Heb haul yn codi na machlud
Mewn gwyll y breuddwydiant hwy.
O Dduw, ai prilys y gwyllnos
Fydd cartref fy ysbryd mwy?
