Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Y Breuddwyd
Gwedd
| ← Afon y Nos | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
Dagrau'r Nos → |
XXIII.
Y BREUDDWYD.
Mae'r ysbryd yn brudd ac yn unig
Yn nwndwr aflafar y byd,
Yn gwrando am ddofn gyfrinach
Y pell a'r tragwyddol o hyd:
Unigrwydd anghysbell ynysig
Rhwng tonnau anhysbys aig,
Heb lais ond dolef y dyfnfor
Ym myddar glust y graig.
Breuddwydiodd yr ysbryd fod ystyr
I furmur diddiwedd y don,
Ei bod yn aflonydd wrth fethu
Mynegi cyfrinach ei bron;
A'i bod, wedi blino yn crwydro
Dros wyneb yr eigion pell,
Yn brysio i dorri ei chalon
Ar greigiau ei garchar gell.
A chalon doredig y moryn
Ddatguddiodd gyfrinion fyrdd.
Am wlad lle cofleidia'r awelon
Ganghennau tragwyddol wyrdd,
Lle na chaiff edwinol law angau
Byth gyffwrdd grudd wridog y rhos:
Ond ciliodd y breuddwyd, a rhuai
Y dyfnder anobaith y nos.
