Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Y Crwydryn
| ← Llwybrau Bywyd | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
Bwthyn y Bardd → |
II.
Y CRWYDRYN.
Crwydro i'r mynyddoedd duon
Wnaeth y teithiwr yn y nos,
Nos gymylog dywell niwlog,
Nos heb wên un seren dlos;
Noethlwm greigiau miniog creulon
Yn ymgodi ar bob llaw,
Oergri'r corwynt yn ei glustiau,
Ar ei ruddiau oerni'r glaw.
Gobaith gwanwyn a giliasai,
Diflanasai glesni'r ha;
Cyn cynhauaf daethai'r gauaf
Gyda'i ddeifiol farwol chwa;
Gweledigaeth gobaith gawsai,
Breuddwyd hun y gwanwyn gwyn;
Ond y deffro ddaeth yn nhywyll
Gysgod angau yn y glyn.
Ffordd y glyn arweinia'r teithiwr
I oror du'r affwysol nos;
Gwisgoedd gwynion diniweidrwydd
A lychwina llaid y ffos;
Drain yr anial rwyga 'i ddwylaw;
Min y meini edy graith;
Gwaed y galon ddengys lwybrau'r
Crwydryn unig ar ei daith.
Cenfydd gysgod tlws gwybodaeth
Draw a theimla 'i hudol swyn;
Cwyd ei law a'i lef i ddeisyf
Ar i'r dduwies wrando 'i gŵyn.
Cred yr etyb ei gwestiynnau,
Anhawsderau llwybrau'r nos;
Dringa'r graig, cofleidia wagter
Cysgod y ddrychiolaeth dlos.
Wedi'r siom, melusfwyn furmur
Dyr yn dyner ar ei glyw;
Cariad merch, yng nglyn y dagrau,
Fwyned a dwyfoled yw;
Esmwythâ'r anialdir garw,
Planna drosto flodau lu:
Ust, diflanna'r llais, a'r blodau
Wywant is yr ywen ddu.
Dyrnod damwain, cernod tynged,
Beunydd bellach glwyfa 'i ben;
Ond ni phlyg er disgyn arno
Rym rhyferthwy bolltau'r nen.
Anweledig a gwenwynig
Yw'r picellau wana 'i ais,
Ond anfarwol yw ei gryfder,
A herfeiddiol yw ei lais.
Daw at lannau môr yr oesoedd,
Tremia i'w bellterau llaith
Dros y tonnau am oleuni
Ar ddyryswch llwybrau'r daith.
Prun ai eiliw breuddwyd maboed
Gollodd yn y ddunos hell,
Ynte arlliw 'r wawr dragwyddol
Lwyda wyll y gorwel pell?
