Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Y Cwpan Swyn
| ← Y Llys Gennad | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
Yr Alltud → |
III. Y CWPAN SWYN.
Melyswin serch, cyfriniol wlith y nef,
Mae bywyd a marwolaeth ynddo ef.
III Y cwpan Swyn
A milfil ddawns goleuni ar yr aig
Yn goglais milfil chwerthin distaw'r lli,
Yr awel yn breuddwydio ar y graig
A thrwmgwsg yn cusanu 'i hemrynt hi,
Cyfeiriai'r llong yn ôl i'r glennydd hyn;
Ar bwys ei rhwyfau cerddai 'i llwybyr llaith,
Fel teithiwr blin yn pwyso ar ei ffyn,
Bron anobeithio gweled pen ei daith.
O lys Iwerddon cychwynasai i ffwrdd,
O ganol moethau aml, rhwysg a pharch;
Eisteddai Trystan ac Esyllt ar ei bwrdd:
Llwyddasai llys genhadau'r brenin March.
Eisteddai Trystan hardd ac Esyllt deg:
O'u blaen ymledai ceinder Cymru wen,
Ei rhosydd grug a'i dolydd meillion chweg,
A'r bryniau oesol garant lesni'r nen.
Mud oedd y ddau, ond nid anedwydd chwaith:
Rhyw bell ddymuniad rhwng y llon a'r prudd
A lanwai'r fynwes i felysu'r daith,
A'i gysgod yn swynoli gwên y rudd.
Distawrwydd ar yr eigion,-hyawdl yw
Gan drist alawon y morwynol gôr
O'r dyfnder yn galaru am y byw
Wrth eilio cathl cyfaredd ddofn y môr.
Fe wenai dolydd meillion Gwalia wen;
A chwarddai myrdd o'i ffrydiau gloewon hi;
Tangnefedd oedd lleferydd glesni'r nen
Ond tristwch gwyll y bedd oedd iaith y lli.
Dihangai'r dydd, a rhawdrydd frenin mad
Y nef a blygai i'w orffwysfa dlos;
Yr hwyr gysgodion grwydrent tros y wlad
I daenu llenni glasddu llys y nos.
Eisteddai Trystan ac Esyllt fyth yn syn
Mewn myfyr melus am yr amser fu:
Machludai'r haul ar eu gorffennol gwyn;
A chysgod guddiai eu dyfodol du.
Ond dall yw'r llygaid i'r dyfodol du
Pan chwydda anadl serch o dan y fron;
Cynhesa'r galon yn yr heulwen gu;
A'i thragwyddoldeb ydyw'r funud hon.
Murmurai Esyllt:
"Trystan, mae dy gerdd?
Mae odlau mêl tyn dannau'r delyn aur?
I'm bron mae hiraeth,—am yr Ynys Werdd,
Y dyddiau gynt, a'u mwyn freuddwydion claer.
Cân imi gerdd fel suon chwaon gwynt,
Un dyner fel deffroad cyntaf serch,
Henafol gainc o'r hên amseroedd gynt
Am wiw ddyhead mab a breuddwyd merch."
Ac meddai Trystan:
"Cân i mi nid oes,
Namyn ochenaid drom y galon friw.
Dehongla, delyn, freuddwyd serchog loes."
A dawnsiai 'i fysedd dros ei thannau gwiw.
Tywysog y tes yn ei briflys gwyn,
Tu hwnt i geulannau'r bedd,
Fedyddia wyrddlesni dôl a bryn
Mewn diluw o oesol hedd;
A chroeso rydd iarlles y llys i'r sawl
A egyr byrth enfys bri;
A dengys ei gwisg o sidanwe'r gwawl
Ei thegwch morwynol hi.
"Mae llwybyr paradwys mab a merch
Trwy ddrain yr anialdir mawr;
Rhaid llosgi'r byd ar allorau serch
Cyn cychwyn am byrth y wawr.
Ond yn y bröydd tu hwnt i'r don,
Mewn cynnes wanwynol hin,
Diwellir newyn y serchog fron
Yng ngwleddoedd y manna a'r gwin.
"Bydd llaw rewllyd angau, ei hofn a'i phoen,
Byth bythol tu allan i'r drws;
Breuddwydiol ddyhewyd a newydd hoen
Wna bawb yn ifanc a thlws;
Cariadon yn trydar emynau mawl
Melyslais gwanwynol wres,
Dan wenau arglwyddes sidanwe'r gwawl
Ym mhriflys tywysog y tes."
Distawai'r gerdd; a thawel oedd y gwyllnos;
A myfyr mud yn llygaid Esyllt wendlos;
Y morwyr llesg orffwysent ar eu rhwyfau,
Y gwres a'r lludded wedi blino'u breichiau.
Ac meddai Trystan:
"Wŷr, gorffwyswch, weithion;
A gwyliaf finnau'ch hun ar fron yr eigion."
Gafaelai yn y rhwyfau hir anhyblyg,
O'i nerth ystwythent megys gwiail helyg;
Ei rym digymar yrrai'r llong i'w thaith;
Fel gwisgi gysgod cerddai 'i llwybyr llaith.
Eisteddai Esyllt; a'i llaw-forwyn, Branwen,
Yn gweini arni mewn ffyddlondeb llawen;
Ei geiriau arab oedd yn llawn digrifwch,
Ac enwog yn Iwerddon ei phrydferthwch.
Doeth oedd y ferch, a ffyddlon fel goleuni,
I'r lili dyner y gweinyddai arni.
Cyfrinach ddofn a gadwai yn ei mhynwes
Am rinwedd gwin aur ffiol y frenhines:
Gwin a wasgesid o'r planhigion tyner
Flodeuant, ffrwythant yn llywodraeth Gwener:
Melyswin swyn dewinol serch wybodaeth
A lyncwyd gan ddifancoll nos gwyddoniaeth.
Ei gynneddf oedd gwallgofi'r mab a'r ferch
A'i hyfai a chyfaredd dwyfol serch.
Brenhines yr Iwerddon a'i gwasgasai
I ffiol aur; i Franwen y'i rhoddasai;
Ac fel y Gwin Bendigaid cadwai'r trysor
Ar gyfer March ac Esyllt nos eu neithior.
Melyswin serch, cyfriniol wlith y nef,
Mae bywyd a marwolaeth ynddo ef.
Gadawsai pelydr ola'r haul yr wybren;
A myrddiwn sêr dryfrithent y ffurfafen;
Y dawel nos deyrnasai trwy'r eangder;
A thrwst nid oedd tros wyneb llyfn y dyfnder
Namyn y rhwyfau 'n siglo ac yn gwegian
Dan ddirfawr bwysau breichiau breisgion Trystan;
Eu swn rheolaidd gwastad mesuredig
A suai gwsg y morwyr llesg lluddedig.
Ac meddai Esyllt:
"Branwen, huna dithau,
Mae cwsg yn llercian eisoes dan d' amrantau."
A Branwen gyrchai leithig is y nenglwyd
I suddo i freichiau cwsg di-boen, di-freuddwyd.
Distawrwydd ar y dyfnder,-gwrando, gwrando,
Mae calon tragwyddoldeb ynddo'n curo!
Sibrydai Esyllt:
"Trystan, gad dy rwyfo;
Ac eistedd yma ennyd i orffwyso.
Cei adrodd imi hanes serch Gwenhwyfar
A Lanselot, ei mharchog dewr digymar."
Y sêr a wenent gariad tragwyddoldeb,
Fel gwynion offeiriadon anfarwoldeb.
A Thrystan ufuddhâi; ei waith adawai;
Ac ar y bwrdd wrth draed y ferch eisteddai;
Yng ngoleu'r sêr y gwelai 'i gruddiau gwynion;
Ac yfai serch ffynhonnau 'i llygaid duon.
Gwrandawai hithau ddistaw iaith y nos
Yn dehongl iddi ei chyfrinach dlos;
Ni chlywsai air gan Drystan am ei serch;
Ond nid oes eisiau dweyd wrth galon merch.
Tangnefedd dwfn y nos ar fron yr eigion,
Dygy for dwyfol serch yn llond dwy galon;
Am ysbaid ni ddaeth gair tros eu gwefusau:
Rhy ddwfn y teimlad i barablu geiriau.
Addolai Trystan brydferth fun ei gariad
A pheraroglau serch yn meddwi 'i deimlad.
Trwy wythiennau llosgai tân y duwiau:
A chrynnai neges serch ar ei wefusau.
Ond gwelai hefyd ddiwedd erch y fordaith,
A bedd agored ei anwylaf obaith;
Gwenwynig chwa barlysai ynni 'i galon;
Gorweddai hunlle annwn ar ei ddwyfron.
Ei mhynwes hithau'n llawn o dyner dân,
A'i wres yn araf wrido 'i gruddiau glân;
Pelydrai 'i llygaid fel dwy seren befr:
Agosrwydd Trystan deimlai megis gwefr;
Disgynnai llesmair serch ar ei haelodau
A'i ddwys ddyhead byw yn llenwi 'i bronnau;
Ei hanadl ddofn ddehonglai ei theimladau.
Breuddwydiol ydyw cariad plentyn ieuanc;
Dim namyn cysgod y teimladau didranc
Yn aflonyddu ar ei gwsg digyffro
Yr orig olaf cyn i'r ysbryd ddeffro.
Profasai Esyllt serch trwy 'i hun ddigonedd;
Ond daethai'r awr i'r breuddwyd droi'n wirionedd.
Y plentyn ynddi laddwyd trwy'r datguddiad;
A'r wraig ddifrifol anwyd mewn amrantiad.
Deffrôdd, a gwelai serch, y duw eiddigus,
Ag agoriadau uffern wrth ei wregys.
Hi welodd werth ac ystyr bydol barch,
A'r pris a dalai am orseddfainc March.
Brenhinol glod ac aur a pherlau'r cread,-
Ni phwysai'r cyfan ddim yng nghlorian cariad.
Ni phrynnai coron bri mo allwedd serch,-
Yr allwedd ddetyd glo dwyfoldeb merch;
Ni chaiff ond cariad weld ei thrysor pennaf,-
Shecinah glân ei chysegr sancteiddiolaf;
A gwae i'r dyn a geisia dreisio gwynfyd:
Mae seraff tân ar lwybyr pren y bywyd.
Dychrynnai Esyllt pan y cofiai 'i thynged;
Cashai y brenin cyn erioed ei weled;
Ias oer i'w bron oedd iddo ei hanwesu,
A'i huffern affwys meddwl ei fynwesu.
Anfarwol lanw serch trwy 'i bron yn chwyddo,
A chroeswynt amgylchiadau'n chwerw wrtho.
Rhosynnau'r haf yn gwrido ar ei gruddiau;
A'i hirwallt sidan fel y nos gysgodau:
Dymunai Trystan sugno mêl y rhos;
A chuddio 'i ben am byth tan lenni'r nos.
Fe blygai Esyllt ar y cwrlid purddu;
A'i lili law roi ar ei wallt gwineuddu;
A phwysai 'i ben i orwedd ar ei gliniau;
A theimlai'r gwres ennynai 'i wythiennau.
"Gorffwys," eb Esyllt, "oddiwrth dy ludd;
Mae gwres y rhwyfo eto'n llosgi'th rudd.
Cei adrodd hanes Lanselot ddigymar,
A gofid prudd ei gariad at Wenhwyfar.
Ai ni ddiffoddir byth mo dân ei fynwes?
A leddfir poenau melus y frenhines?
Paham caiff rhagfarn dyn wenwyno teimlad,
A deddfau mân y byd gadwyno cariad?
Darostwng duw yn gaethwas i arferiad!
Ai nid oes man i Lanselot a Gwenhwyfar
I ffoi rhag baldordd tafod brwnt y ddaear,—
Cartrefle heulwen desog serch difesur
Heb gwmwl byth i dduo 'i hwybren asur,—
Lle caiff Gwenhwyfar ddisychedu'r marchog
A ffrydiau melus llawn ei mhynwes serchog,—
Ac yntau weini mewn disgleirwisg gannaid,
Thus peraroglus allor mun ei enaid."
"O Esyllt," ebyr Trystan, "mae fy nghalon
Yn ofni ceisio ateb dy ofynion:
Rhy gyfyng gwely'r môr i lanw'r eigion;
A rhwyga'r dwfn ddygy for furiau'r galon.
Arteithiau serch sy'n minio ei feluster.
Nis diffydd oesol nos mo oleu 'i hyder.
Y boen wrth wreiddyn cariad sy'n amddiffyn
A chadw 'i fywyd, megys draen y rhosyn;
Ond dioer fod y gwyntoedd croes ystormus
Yn peri i'r ddraen wneud bron y pren yn glwyfus.
O Esyllt, dyro im' a dyr fy syched;
Neithdaraidd win y duwiau fynnwn yfed;
Mae 'nghalon mor sychedig a'r anialdir
Hiraetha am gawodydd Alban Eilir."
Ac Esyllt godai i geisio 'i heuraidd gwpan
A gwin i'w llenwi i ddiodi Trystan.
Mewn gwisg o sidan gwynllaes rhodiai'r ferch
I geisio'r gwlybyr dorrai syched serch,
Mor lân a gwyryf sant o'r temlau fu,
Dan orchudd golud llaes sidanwallt du.
Ond gwin nid oedd i'w gael; ac Esyllt alwen
A droai i ddeffroi ei mhorwyn, Branwen;
A honno ar ei lleithig oedd yn huno,
A'i bron mewn cwsg yn disgyn ac yn chwyddo;
A gwelai Esyllt ym mhlygiadau 'i mhynwes
Aur ffiol swynion cyfrin y frenhines.
Gafaelai 'i bysedd telaid yn y ffiol:
Agorai hi; aroglai'r gwin dewinol.
Ar ysgafn droed hi ddawnsiai'n ôl yn llawen:
"Ha, Drystan, wele beth guddiasai Branwen,—
Grasusol win aeddfedodd hirion flwyddau,
A'i arogl fel neithdaraidd wlith y duwiau."
Tywalltai ef i'w chwpan aur godidog
Mor goch ei liw a gwaed y galon serchog.
"Yf o fy nghwpan aur, a thor dy syched;
Ei riniau pêr bâr it' anghofio'th ludded."
"Ond," meddai Trystan, "rhaid cysegru'r gwin;
Melysa ef a chusan mêl dy fin;
Ar ymyl cwpan swyn gall pedair gwefus
Ddwyseiddio blas a naws ei ddawn hudolus."
I gwpan swyn edrychai'r nef ddigymyl
A gwelai bedair gwefus ar ei ymyl
Yn yfed hudwin tynged heb betrusder,—
Yn drachtio rhudd ddiodlyn gwinllan Gwener.
Gwag oedd y cwpan, llawnion oedd calonnau
Trystan ac Esyllt; cochion eu gwefusau.
Dechreuai'r tân gyniwair trwy'u gwythiennau,
A'i wres ddechreuai losgi ar eu gruddiau.
"O Esyllt, beth yfasom? Gwin gwenwynig?
Mae'n rhuthro trwy fy ngwaed yn iasau ysig."
Ond mud oedd Esyllt, fel y seren dlos
A wyliai uwch ei phen yng nglesni'r nos;
Hi deimlai'r tân yn ennyn yn ei chalon,
A'i wres yn gwrido 'i grudd, yn chwyddo 'i dwyfron,
yn crynnu dan ei loesion melus,
A'i swynion yn parlysu ei hewyllys.
Gogwyddai 'i phen; a cheisiai guddio 'i llygaid;
Ond methai 'i gwallt gymylu 'u pelydr tanbaid.
A thraserch Trystan, wedi ei wallgofi,
Fel ufel mynwes Etna yn dylosgi.
Dynesai; ymddisgleiriai llygaid Esyllt,
Serch, dychryn, nwyd yn llenwi 'u dyfnder trywyllt;
Dychlamai bronnau'r ddau; ymwelwai 'u gruddiau;
Byrhâi, dyfnhâi, cyflymai 'u hanadliadau ;
Dygrynnai eu gwefusau:
"Esyllt:"
"Trystan :"
Gorffwysai'r dawel nos ar fynwes anian.