Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Y Ddwy Lili

Oddi ar Wicidestun
Llyn Geirionnydd Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Cyfrinach y Beirdd

XXVI.
Y DDWY LILI.

Blodeuyn aur y banadl
A garodd lili wen,
A hithau'r lili wylaidd
Yn serchog blygai'i phen.

Pan welais i Riannon,
Ei charu'n union wnes,
Rhois oreu 'nghalon iddi,
A mwynder ganddi ges.

Cusanodd angau'r lili,
A llwydodd gwawr ei gwedd:
Ffarwelio wnaeth Rhiannon,
A phlygu i waelod bedd.

Tros rudd y blodyn euraidd
Disgynna'r dagrau'n lli;
Ond rhewodd angau ffynnon
Fy nagrau heilltion i.


Nodiadau

[golygu]