Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Y Gwyliwr

Oddi ar Wicidestun
Arthur yn cyfodi Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

L' Envoi

XXXII.
Y GWYLIWR.

"Gobeithiaw a ddaw ydd wyf."—SION CENT.

A mi yn wyliwr yn y ddunos hell,
A'r dagrau heilltion ar fy ngrudd ddi-wên,
Daeth ataf lais o wyll canrifoedd pell,—
Llais dwfn a dieithr y gweledydd hên:

Os prysur ydyw'r oes, mewn gwaedlyd wŷn,
Yn plethu coron ddrain i ben ei Christ,
Etifedd y dyfodol ydyw dyn,-
Iôr didranc obaith yn ei ddagrau trist.

Heb gwynfan na galaru am a fu,
Trwy feithion ac ystormus oriau'r nos
Y gwyliaf nes y gwelaf ymyl rhos
Ar odreu caddug trwm y gorwel du.

Ni pherthyn imi holi am yr awr,
Digon yw cofio cyfoeth lliwiau'r wawr.


Nodiadau

[golygu]