Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Y Llys Gennad

Oddi ar Wicidestun
Y Marchog Clwyfedig Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Y Cwpan Swyn


II. Y LLYS GENNAD.

Eistedda cysgod prudd-der blwng
Yn nwfn ei lygaid duon;
Arteithia melus loesion serch
Y clwyf o dan ei ddwyfron;
A cherdda'r llong ym mraich y gwynt
Nes taro glan Iwerddon.


II. Y LLYS GENNAD.

Serch, cryfach yw nag angau du,
A hynach na'r mynyddoedd;
Anfarwol serch yw enaid cân
Y beirdd ar hyd yr oesoedd.
Serch yw goleuni bywyd dyn
A dwyfol grewr hyder;
Anfarwol serch yw'r bywiol waed
Yng ngwythiennau amser.

Ym more gwyn ieuenctid bod,
Ar wawr y dechreu cynnar,
Deffrôdd pelydrau tân yr haul
Nwyd serch ym mron y ddaear;
Ei danbaid gusan godai wrid
Dros harddwch ei hwynepryd,
A'i chalon fawr ddychlamodd pan
Y daeth yn fam i fywyd.
Ei mhilfil plant feithrina ar
Ei bronnau llawnion cynnes;
A'i phennaf drysor iddynt oll
Yw cyfoeth serch ei mhynwes.
Gwres serch a wrida rudd y rhos;
Nwyd serch wna'n wen y lili;
A dyheadau mwynion serch
Ddeffroa gathlau'r llwyni.


Y llyn yng ngloewder dwfn ei fron
Anwesa ddelw'r mynydd;
A hoffa'r cwmwl beichiog hynt
Ym mreichiau'r gwynt aflonydd.

Ysbrydiaeth bywyd, ffynnon cân,
Ac anadl einioes teimlad,
Cynghanedd fyw gyfriniol ddofn.
Y bydoedd ydyw cariad.

I fro breuddwydion tros yr aig
Crwydrasai'r haul, ond cofio
Ei gusan ffarwel ar ei grudd
Wnai i'r wybren wylaidd wrido.

Cysgodau'r hwyr ymrithient of
Waelodion y dyffrynnoedd,
Gan araf ddringo'r bryniau gwyrdd,
A llethrau'r serth fynyddoedd.

Diosgai'r sêr eu dillad dydd,
Eu gwisgoedd o oleuni,
I ddangos eu prydferthwch noeth,
A synnu'r nef â'u tlysni.

Y dawel nos ar wisgi droed
A gerddai donnau'r eigion
I daenu duon lenni'r gwyll
Dros wyneb môr Iwerddon.


Y dwfn dawelwch hyawdl oedd
Fel anirnadwy alaeth;
A'r don yn torri ar y traeth
Fel eco cwynion hiraeth.

Yng Nghernyw lon yn swn y lli
Ar glogwyn uchel unig
Eisteddai gwr o osgedd hardd
Urddasol a bonheddig;
Modrwyau aml am ei law,
Ei wisg o bali purddu,
A rhagdal aur rhuddemog drud
Gynhaliai 'i wallt gwineuddu;
Cain lafnau euraidd oedd yn cau 'i
Wintasau cordwal newydd.
Ei ddeheu law gynhaliai bwys
Ei delyn aur ysblennydd;
Ei rudd orffwysai ar y llall;
A'i dywell drem freuddwydiol
Yn crwydro ar hiraethlon daith
Trwy wyll y nos ledrithiol
I oleu llys yr Ynys Werdd,
Ei gyfoeth a'i ysblander,
A mêl acenion Esyllt wen
Yn ysbrydoli 'i londer.
Ystyriai'r bysedd meinion teg
Fu'n chwilio'r archoll echrys,

A'r ddoeth wybodaeth rodd iachad
I'r prudd farsiandwr, Tantrys.
Hiraethai am gyfeddach fwyn
Y llys a'r diddan gerddi,
A chrwydro gydag Esyllt dros
Rodfeydd blodeuog erddi.
Iachasai'r fam hên glwyf y cledd;
Clwyfasai'r ferch ei ddwyfron;
A phrudd-der hwnnw oedd yn awr
Yn llenwi 'i lygaid duon.
Breuddwydiai am brydferthwch teg
Y feinwar hardd osgeddig;
Murmurai 'i hiraeth wrth y don
Aflonydd ac aniddig.
Fe godai 'i ben a theimlad serch
Yn crynnu ar ei wefus,
A'i fysedd chwim yn deffro cathl
Y mwynion dannau melus;
Ei isel lais ymdonnai'n bêr
Yn nwfn y gwyllnos tawel
Wrth anfon emyn weddi serch
Ar edyn hud yr awel


"O dan fy mron mae cur,
Esyllt wen, Esyllt wen,
Am wên dy lygaid pur,
Esyllt wen,

Cael eto'th gwmni tirion,
A miwsig dy acenion,—
Hyn leddfa gur fy nghalon,—
Brysia i Gernyw, Esyllt wen.

"Dy fin un lliw a'r rhos,
Esyllt wen, Esyllt wen,
A'th wallt mor ddu a'r nos,
Esyllt wen,
Dy lygaid tyner duon,
A'th rudd fel alaw'r afon,
Sydd wedi swyno 'nghalon,—
Brysia i Gernyw, Esyllt wen.

"Sisialon bloesg y lli,
Esyllt wen, Esyllt wen,
Furmura'th glodydd di,
Esyllt wen;
A'r awel wibiol grwydrol,
Dros drumau'r clogwyn oesol,
A sua'th enw swynol,—
Brysia i Gernyw, Esyllt wen.

"Fy ngwlad a ddenfyn wŷs,
Esyllt wen, Esyllt wen,
Am danat ti i'w llys,
Esyllt wen

Hên lys urddasol gewri
Arwriaeth a gwrhydri,
A gei yn gartref iti,-
Brysia i Gernyw, Esyllt wen."


Ar hyd y llwybr anwastad, cam,
Dros lethrau serth y clogwyn,
Yr araf rodiai'r brenin March;
A chlybu glod y forwyn,
A'r gwahodd tyner iddi ddod
I gastell hên Tyntagel;
Ac yn ei fron enynnwyd fflam
O nwyd a thraserch dirgel.
Ymholai am ei llun a'i lliw,
A chyfoeth gwrid ei harddwch;
A hyawdl odiaeth oedd ei nai
Yn traethu am ei thegwch:
O'r merched heirdd fuasai gynt
Ni welsid ei hefelydd;
Ni feddai beirdd holl oesau'r byd
Y crebwyll na'r darfelydd
Ddisgrifiai'n llawn y filfed ran
O gyfoeth ei grasusau;
Anwyled oedd a Gwener glaer,
A blodyn breninesau,
Serchocach oedd na Lalage,
Na Chloris fwyn, na Lesbia;

A milwaith cryfach hud ei serch
Na swynion Helen Troia.
Gwyw ydoedd harddwch Olwen deg
A Branwen a Rhiannon
Yn ymyl dwyfol dlysni swyn
Y lili o'r Iwerddon.

Gwrandawai March yn fud a syn,
Rhyfeddai wrth y geiriau;
A chyniweiriai iasau gwŷn
Ar hyd ei wythiennau.
Ymholai ai prydferthach hon
Na'r fanon wech, Gwenhwyfar,
Ysbrydiaeth arwyr y Ford Gron,
Brenhines hardda'r ddaear.

Atebai Trystan na wnaeth Iôn
Ail na hefelydd iddi,
Mai purach gwynder glân ei phryd
Nag ewyn balch y weilgi.
Fe rodiai'r ddau yn ôl i'r llys
Yn llawn o serch y forwyn,
March yng Ngorffennaf aeddfed nerth,
A Thrystan yn ei wanwyn.
Gwrandawai'r brenin; traethai'r nai
Ei helynt yn Iwerddon,―

Mai fel marsiandwr gawsai glwyf
Gan reibwyr ar yr eigion,
Cyrchasai'r llys, ac iasau poen
Yn oeri gwaed ei galon.
Ei delyn enillasai ffafr
Y brenin a'r frenhines;
A'i enwi wnaed yn athro cerdd
I Esyllt dywysoges.
Disgrifiai'r oriau hirddydd haf
Bu'n dysgu 'i bysedd meinion
I gywir oglais awen swyn
Mêl odlau'r tannau tynion;
Canmolai 'i llais, a'r findlws wên
Chwareuai ar ei gwefus,
Oedd fil mwy tlws na'r ieuanc ros,
A'i lliw fel aeddfed fefus.
Cryfhau wnai'r nwyd ym mynwes March,
A thyngai yn ei galon,
Y mynnai ar ei fron ei hun
Flodeuyn hardd Iwerddon;
Hi lanwai'i fryd ar hyd y dydd;
Breuddwydiai'r nos am dani;
Dygyfor cryf oedd dan ei fron
Yn chwyddo ac ymdonni.
Ond sut i'w chael? Cyfrifai 'i thad
Yn elyn marwol iddo.
Pwy gymrai 'i cinioes yn ei law
I groesi'r mor i'w cheisio?


A galw 'i wŷr ynghyd a wnaeth
Er mwyn cymeryd cyngor,
A gofyn pwy anturiai'n ddewr
I geisio'r werthfawr drysor.

Gelynion Trystan yn y llys
Ni fynnent mono'n frenin;
Eiddigedd creulon fel y bedd
Wenwynai'u geiriau gerwin;
A chredent na ddychwelai'n fyw
Os elai i'r Iwerddon:
Ac os dychwelai codid had
I Farch o'r ieuanc fanon.
A chafwyd yn y cyngor fynd
O'r gwinau lanc telediw
I geisio rhiain deca'r byd
Yn wraig i frenin Cernyw.

"Dos," ebr March, "a heria wŷn
A dig yr eigion gorwyllt,
A dwg drysorau aur fy llys
I ennill cariad Esyllt;
Adrodda iddi hanes hên,
Ac urddas llys Tyntagel,
A'r teimlad byw sy 'mynwes March
Yn llosgi'n draserch dirgel.


Boed chwim dy daith, a doeth dy air,
Goleued ffawd dy lwybrau
I ddwyn y dlos dros frig y don
I 'i chartref yn fy mreichiau."

Ac unwaith eto tros yr aig
Ar antur drom beryglus
Mordwya'r hardd osgeddig wr
Oedd gynt mor drist a chlwyfus.
Nis gwyr ei fynwes beth yw ofn,
Ond cymysg yw ei deimlad:
Gwresoga 'i waed wrth feddwl gweld
Prydferthwch mun ei gariad;
Ond ias y bedd i'w fron rydd mynd
I geisio hon i arall.
Dyhead serch fel newyn du
Neu syched cryf aniwall
A'i gyr i geisio neithdar nef
Ym mhresenoldeb Esyllt:
Ond colli hon! Dymuna fedd
Dan donnau'r eigion hydrwyllt.
Eistedda cysgod prudd-der blwng
Yn nwfn ei lygaid duon;
Arteithia melus loesion serch
Y clwyf o dan ei ddwyfron;
A cherdda'r llong ym mraich y gwynt
Nes taro glan Iwerddon.


I'r llys anfonwyd rhoddion heirdd
I'r brenin a'r frenhines,
A thlysau aur a gemau drud
I Esyllt dywysoges.
A'r gennad glybu am y ddraig
Ormesol ac echryslon
Oedd yno'n ysu cnwd y wlad,
A difa ei thrigolion;
Addawai'r brenin, am ei lladd
A gwared rhag ei gormes,
Hanner ei gyfoeth gyda llaw'r
Frenhinol dywysoges.
Mynegi hyn i Drystan wnaed;
Ac yntau wisgodd arfau;
Ac wedi ymladd hir a blin
Fe las hên ddraig y creigiau.

Yng nghanol bloedd gorfoledd gwlad
I'r llys arweiniwyd Trystan,
Yn llesg a blin a rhudd ei wisg
Gan waed yr ellyll aflan.
Y brenin barai arlwy gwledd
A diddan gerdd a chroeso
I'r gwron waredasai'r wlad,
A llawen fuwyd wrtho;
A galw Esyllt deg a'i mham
I ddiarchennu'r marchog,

I ymgeleddu 'i gleisiau aml
A'i wisgo'n ddrud ardderchog.

Er cuddio o'r llaid ei wyneb hardd,
A'i bryd yn waedlyd echrys,
Amheuai Esyllt ai nid hwn
Oedd ei hên athro, Tantrys;
Ymchwyddai ’i bron wrth gofio am
Y dyddiau haf hirfelyn
Dreuliasai gyda Thantrys hoff
A'i gyfareddol delyn.
Hi chwiliai 'i wisg a'i arfau am
Ryw arwydd i'w adnabod;
A mynnai 'i chalon fod ei hên
Gydymaith wedi dyfod;
Hi dynnai'i gledd o'r wain,—y bwlch
A welai 'n eglur ynddo;
A synai wrth ei hyd a'i led,
A'r ffurf arbennig arno:
Fflachiodd goleuni'r ffaith i'w bryd
Yn sydyn fel taranfollt:
Cofiodd y darn dynesid gynt
O ben clwyfedig Morollt.
Dial gynheuai yn ei gwaed;
A rhuthrai i daro'r gelyn
Oedd yn y baddon marmor gwyn
Yn llesg a diamddiffyn.


"Tydi dywelltaist waed fy nghar,"
Dolefai'r ferch yn llidiog,
"Tydi yw gelyn penna 'ngwlad,
Y gwaedlyd Drystan farchog."
A chyda'r gair dyrchafai'r cledd
I drychu Trystan fradus;
Ond gwelai wên, a llygaid du,
A gwallt gwineuddu Tantrys.
Petrusodd; a deffrodd ei serch,
A'r hên atgofion cynnes;
Ac ymdrech gerth rhwng serch a chas
Derfysgai yn ei mhynwes;
Yr enwog Drystan a gashai;
A Thantrys garai'n dyner;
A rhwng y ddau disgynnai'r cledd
Heb waed i bylu 'i loewder;
A ffoi o'r lle i unig fan
I arllwys ei theimladau,
Fel pob genethig ddeunaw oed,
Trwy wylo'n hidl ei dagrau.
Mae'r ieuanc fron mewn gofid fel
Nen haf dan gymyl duon,
A'r glesni'n lanach pan y syrth
Y pur ddefnynnau gloewon;
Diflanna cwmwl llid yn llwyr
Yng ngwres y serchog anian;

Anghofiai Esyllt farw 'i châr
Wrth gofio mwynder Trystan.
Dymunai eto wrando 'i lais
Yn adrodd ystorïau
Marchogion arwrol y Ford Gron
A'u rhyfedd anturiaethau;
A chlywed clod Gwenhwyfar hardd,
A'r ymherawdyr Arthur,
Am enau euraidd Gwalchmai fyg,
A phaladr hir Peredur.

Breuddwydiai Esyllt ieuanc am
Y gwr a garai orau,
A'r dagrau'n perlio ar ei grudd
O dan ei mhuchudd aeliau;
Glân a diniwed oedd ei serch
Fel gwynder blodau'r gwanwyn,
A'i theimlad tyner mor ddi-nwyd
Ag awel Mai mewn irlwyn.

Breuddwydiol ledrith gwrid y wawr
Yn crynnu ar fron y dwyrain
Yw tlws ddatguddiad cyntaf serch
Ym mynwes prydferth riain,
Cyn dyfod gwres a goleu'r haul
I ymlid y cysgodion,
Cyn mynd o chwerwder bywyd dyn
Yn gymysg a'i felusion,


O ddwyfol serch, anfarwol serch,
Ysbrydiaeth wen y nefoedd,
Paham na chaiff yr ieuanc fod
Yn ieuanc yn oes oesoedd?
Pam caiff drychiolaeth hagr y byd
Droi'n hunlle freuddwyd cariad?
Pam caiff llysnafedd brwnt y llawr
Wenwyno cwpan teimlad?
Pam ca'r dwyreinwynt miniog ladd
Yr afal yn ei flodyn,
A rhwystro i wrid yr aeddfed ffrwyth
Addurno'r llwythog frigyn!
Ystaenir edyn gwynion serch
Tros byth yn llaid y corsydd?
Ai ni chant hedfan hwnt i'r nos
I'r by thol wyrddion lennydd
Lle na osodir maglau deddf
Ar lwybrau eang rhyddid,
Lle na ddaw niwloedd anair byth
Dros wybren las ieuenctid?

Anfarwol serch herfeiddia rwyd
Rhagfarnau cyfyng dynion;
Enilla nerth mewn poen a gwae;
Dirmyga angau creulon;
Dyhea am eangach byd,
A gloewach nen i'r ysbryd;


A chyfyd ddyn o laid y llawr
I awyr dwyfol wynfyd.

Ysbrydiaeth lawen, rhuddgoch wawr
Tu hwnt i'r ddunos anfad,
Cynghanedd ddofn gyfriniol drist
Dynoliaeth ydyw cariad.


Nodiadau

[golygu]