Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Y Marchog Clwyfedig

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Y Llys Gennad



TRYSTAN AC ESYLLT
PRYDDEST DELYNEGOL




I. Y MARCHOG CLWYFEDIG.

Ond pwy yw'r marchog? Pam mae'n drist ei wedd?
Paham y gwisga'i harddwch lwydni'r bedd?


TRYSTAN AC ESYLLT.

I. Y MARCHOG CLWYFEDIG.

Ar orsedd wen cadernid yr Eryri
Eistedda teyrn y gauaf didosturi,
Ei anadl oer yn deifio bywyd anian;
Ac unig gerdd y llwyn yw cwyn a gruddfan
Y chwaon crwydrol rhwng y brigau moelion
Alarant golli rhwysg eu gwisgoedd gleision;
Y ddaear drodd yn fedd i'w phlant, y blodau,
Ei mhynwes laith yn cuddio'u clysion liwiau;
Ac ysbryd gweddw'r haf yn torri 'i galon
Mewn galar dwys ar ôl ei holl anwylion.
Ymdaena niwlog dawch tros lesni'r nefoedd,
A'i fantell doa'r nentydd a'r mynyddoedd;
A thrwyddo crwydra dwfn a dieithr furmur
Rhaiadrau crug, hyawdledd cyfrin natur.

Marchoga awel Mawrth y tonnau geirwon
A rychant wyneb ewyn môr Iwerddon;
Heb ffrwyn i'w dal, mewn bâr ewynnog rhydd,
Ymnydda cesyg gwynion Gwyn ab Nudd.
Yn flin a llesg a llaith a'i hwyliau'n wlybion
Prysura'r llong i'w thaith ar draws yr eigion;
Yr awel drythyll chwydda fronnau 'i hwyliau
A'r morwyr diwyd blygant wrth eu rhwyfau.

Ar gwrlid drud, mewn gwisg o borffor breiniol,
Gorwedda clwyfus wr o drem urddasol,
Y gwinau wallt, lliw'r gneuen, yn modrwyog
Gylchynnu'i wyneb hardd, bonheddig, rhywiog;
Ond yn ei lygaid tristwch du deyrnasa,
A gwywder bedd ar lwydni 'i rudd arhosa:
Ei glwyf a ysa 'i fywyd tan ei ddwyfron,
A'i wenwyn marwol fferra waed ei galon.
A segur ydyw'r waew fawr ei grym,
Yr helm o ddur, a'r cleddyf hirbraff llym;
Ei fron ni wisg y gref ddihafal lurig
A heriodd ruthr llawer ymwan ffyrnig.
Gorffwysa 'i delyn euraidd wrth ei ystlys,
A'i thannau yn anghofio 'i thonau melus.

Ond pwy yw'r marchog? Pam mae'n drist ei wedd?
Paham y gwisga'i harddwch lwydni'r bedd?

Adwaenir ef wrth flach ei rymus waew,
Ei gleddyf llym, a'i helm, a'i lurig gloew,
A'r delyn aur a gana gerddi'r nef:
Y marchog Trystan o Liwns ydyw ef.
Ei dad oedd Rolant, arglwydd tud Ermonyw,
A'i fam, Gwenalaw, tywysoges Cernyw;
Ac yntau aned ar y cadfaes erch
Yfasai waed ei dad, a'r dyner ferch,
Ei fam, fu farw wedi iddi 'i enwi
Yn Drystan am mai trist i'w fam ei eni.


Fe'i magwyd gan y gwr a garai 'i dad,
Ei hên gydymaith dewr mewn llawer cad,
Yr yswain Rhonan; ac er diogelu
Ei fywyd rhag gelynion mynnodd gelu
Ei fôn brenhinol; a'r bachgennyn, Trystan,
Feithrinodd fel etifedd iddo'i hunan,
A'i enwi'n Tantrys. Ac yng ngwlad Ermonyw
Ni chafwyd ail i'r gwinau lanc telediw
Ym mhob rhyw fabol gamp a gwrol gyfranc,
Nac ail i'r bysedd hudai gathlau didranc
Telynnau swyn y bell freuddwydiol nef
I aros ar eurdannau 'i delyn ef.

Gofwyodd eres herwlong dir Ermonyw,
Ac am ei deced dwyn y llanc telediw
A'i gludo 'mhell dros donnau gwyrdd yr eigion;
Ond tymestl wyllt ddychrynnodd y môr ladron;
Ai dirio wnawd ar ddiffaith benryn unig
Ar lannau Cernyw greigiog a phellennig.

Trwy dreigl yr oesau hên bu'r drystiog don,
A holl gynddaredd llid tymhestlog fron,
Yn curo meisdon arw Cernyw deg,
Gan wisgo ac archolli 'i thraethell freg.
A llawer oes ar ael yr uchel graig
Caer falch Tyntagel heriai ferw'r aig;
Urddasol sedd brenhinoedd Cernyw fu,
A chartref breninesau heirddion lu;

O'i chylch gwrolion oesau 'n ymladd gaed,
A'i sylfaen gref a fwydwyd yn eu gwaed.
Er drwg a da bu'n llochi llawer cawr;
Ac ynddi y cenhedlwyd Arthur fawr.
Hi ydoedd sedd yr enwog frenin March,
A'r llu marchogion dewr gyflawnai 'i arch;
Ac ewythr Trystan, frawd ei fam, oedd ef;
A nawdd a roes i'w går rhag bâr y dymestl gref.


Yn rhwysgfawr lys Tyntagel
Ar lan y gwyrddlas li,
Fel marchog dewr digymar
Enillodd Trystan fri;
Efe fel heliwr cadarn
Oedd bennaf gwr o'r byd;
A chelf helwriaeth ddysgodd
I feib y llys i gyd.
Am ddiddan gerdd a chyfranc
Nid oedd ei ail i'w gael;
A thestun awen Cernyw oedd
Ei anian serchog hael.
Melysach mewn cyfeddach
Na blas y medd a'r gwin
Oedd hudol odlau'r delyn aur,
Y neithdar dwyfol rin.
Dyrnodiau 'i gledd clodforus
A amddiffynnai'r wlad;

A gwenau heirdd rianedd
Oedd gwobr y marchog mad.
Dinasoedd ei dreftadaeth
Yn nhir Ermonyw fras
A'i gledd a ynillasai'n ôl
Oddiar ormesdeyrn cas,
Y creulon Arglwydd Morgan,
Y gwr laddasai 'i dad,—
Barasai angau 'i dyner fam
Trwy ffiaidd waedlyd frad.

Yn nhreiglgwaith daeth Morollt
O dir Iwerddon draw,
A'i faith enwogrwydd lanwodd
Lys Cernyw lon à braw:
Fe hawliai 'n deyrnged drichant
O fonedd blant y tir
Neu un a feiddiai herio grym
Ac awch ei baladr hir.
Dychrynnai'r tywysogion
Wrth feddwl am ei arch,
Teyrnasai dwys anobaith du
Ym mron frenhinol March.

Ym mroch yr helynt Trystan
A ddaeth o daith i'r llys,
Ac achos Cernyw arno 'i hun
Gymerodd gyda brys;

Nis gallai awch y cleddyf,
Na hwrdd y waew gref,
Na geiriau bost y marchog balch
Ddychrynnu 'i galon ef;
Dylosgai tân gwladgarwch
Ei fynwes wrol bur;
A gwasgai 'i fysedd emog ddwrn
Ei awchlym gleddyf dur.
Derbyniodd her y marchog
I achub cam ei wlad,
Cysegrodd waed ei ieuanc fron
I ddial ei sarhad.
A thrannoeth, pan y torrai'r wawr
Tros ael y gribog graig,
Mewn badau beilchion cyrchai'r ddau
Ynysig yn yr aig.
A Thrystan wedi glanio
A droai 'i fad i'r lli,
I'w gludo 'mhell oddiwrth y lan
Ar war y waneg ffri:
Ac meddai wrth ei elyn:

"Y syberw paladr hir,
Bydd digon un o'r badau hyn
I ddwyn y byw i dir."

'Roedd wyneb yr ynysig
Yn weirglodd wastad las,

Ac yno bwriwyd Morollt falch,
A'i ryfel farch a las.
Disgynnodd Trystan yntau
I'w gyrchu gyda'i gledd,
Ond yn yr ymgyrch cafodd glwyf
A lwydodd wrid ei wedd.
Er gwaetha'r archoll hyrddiodd
Un dyrnod grymus mawr,
Nes hollti helm ei elyn
A'i fwrw'n fud i'r llawr;
A darn o'r glaif clodforus
A dorrodd yn y briw.
Anrhydedd gorsedd Cernyw lon
A gadwodd Trystan wiw;
Ac ar y traeth i'w roesaw
Holl lys y brenin oedd;
Ac eco fud y creigiau pell
Ddadebrwyd gan eu bloedd.

Ond Morollt gludwyd ymaith
Tros donnau'r môr i'w wlad;
A'i unig wobr ar ben y daith
Oedd bedd yn nhy ei dad.
A chlod a gafodd Trystan,
A chariad mab a mun;
A'r brenin March a'i henwodd
Yn etifedd iddo'i hun.


Ond nis gall clod a bri droi angau draw,
Na chadarn fraich ddychrynnu brenin braw;
A Thrystan wywai; poen ei glwyf arhosai:
Bradwrus lafn gwenwynig a'i brathasai.
Er celf y meddyg, ac er dawn y dewin,
Edwinai blodyn sifalri'r gorllewin;
Rhag maint ei glwyf fe giliai ei gyfeillion
O un i un i gyd ond Dyfnant ffyddlon.

A'r haul yn machlud ar y draethell freg,
Daeth ato wr o hil y Tylwyth Teg;
Danghosodd lwy byr aur ar draws y wendon,
A gobaith gwella'r clwyf yn llys Iwerddon.
A'r Ynys Werdd, trwy får y don ormesol,
A gyrcha'r clwyfus wr o drem urddasol;
Eistedda tristwch yn ei lygaid duon
Ac eiliw'r bedd a wisga 'i ruddiau llwydion:
Ei glwyf a ysa 'i fywyd tan ei ddwyfron;
A'i wenwyn marwol fferra waed ei galon.


Nodiadau

[golygu]