Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Yr Alltud

Oddi ar Wicidestun
Y Cwpan Swyn Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill

gan R Silyn Roberts

Yr Hwyl Ddu


IV. YR ALLTUD.

Esyllt a Thrystan, cuddio'u caru'r oeddynt,
A chadwyn tynged ddu'n tynhau am danynt.


IV. YR ALLTUD.

Ymleda brigau serch yn uchder gwynfyd,
A'i wraidd yn treiddio i affwys dyfnder adfyd.
Grymusder serch a droa'r dyn yn dduw;
Rhy gyfyng terfyn daear iddo i fyw;
Hiraetha am heulwen desog bröydd hedd:
Ond creulon yw eiddigedd fel y bedd.

Ymwisgodd serch yng nghochl halog ystryw
Pan sangodd Esyllt ar arfordir Cernyw;
Fe'i darostyngwyd i briodas aflan:—
'Chadd March ond llaw, y galon gawsai Trystan.

Ond byr fu hedd y llys cyn torri o'r ddrycin:
Meiriadog graff wenwynodd fryd y brenin :
Ymchwerwai'i fron mewn blwng eiddigedd creulon;
A gorfu i Drystan adael llys ei galon,
A chludo 'i ing i ogof yn y coed
Mewn unig fan na welsai dyn erioed;
Ei farch, ei gledd, a'i delyn yn gymdeithion
I'r hiraeth trwm a feichiai'r oriau meithion.
A dybryd ydoedd tristwch Esyllt finfel;
Cashâi, ffieiddiai furiau hên Tyntagel ;
A mynnai adael castell balch y penryn
A byw mewn hafod dawel yn y dyffryn.


O'r goedwig heibio'r hafod llifai afon;
A Thrystan droes ei thonnau yn llateion
I gludo cwynfan loes ei fron hiraethlon
Yn gathlau serch at riniog mun ei galon.
A'r ferch yn gwrando murmur tonnau'r lli,
Tusw rhosynnau ddygent iddi hi;
Gwelodd ysgrifen Trystan rhwng y blodau;
Ac mewn amrantiad cododd hwy o'r tonnau.
Gwasgai'r rhosynnau rhwng ei serchog ddwyfron:
Darllennai'r gerdd i ddofi cur ei chalon.


"Aeth wythnos i wyll y gorffennol
Er pan y cusenais fy merch;
A chreulon filldiroedd a'm gyrrodd
Ym mhell oddiwrth riain fy serch.
Y corwynt fel ysbryd gorffwyllog
Ruddfanna ar riniog fy nrws;
Ond goleu anobaith fy mynwes
Wna cofio cusan fy nhlws.
"Bygythiol yw iaith y gogleddwynt,
A chwynfan ac ochain y mae
I geisio fy nenu i wrando
Darogan gofidiau a gwae;
Ei oergri ddolefus a wana
Fy nghalon ag iasau o fraw:
Myn daeru fod diwrnod ffarwelio
Am byth gydag Esyllt gerllaw.


"Orchfygir y cariad sy'n llosgi
Nes llenwi fy mywyd â chur?
Fyn Duw fy ngorfodi i adael
Y wendlos a gerais mor bur?
O, Esyllt, hudoliaeth fyw ydwyt,
'Dall neb beidio'th garu, fy merch;
Ond nid oes a'th går fel dy Drystan
Roi 'i enaid am swynion dy serch.

"Fy ngeneth mae 'nghalon yn torri
Mewn hiraeth am weled dy wedd;
Ocheneidiau fy mynwes dromlwythog
Sy'n pwyso fy ysbryd i'r bedd.
O, Esyllt, f' anwylyd, fy mhrydferth,
Fy lili oleuwen a hardd,
Dod heibio dy goron, a brysia
I'th gartref ym mynwes dy fardd."


Darllennai'r gân, a'r gwaed yn gwrido 'i gruddiau,
A'i dwyfron deg yn chwyddo dan y blodau.
Er rhwymo 'i chorff yng nghadwyn rydlyd deddf
Moesoldeb gau, nis gellid rhwymo greddf
Y galon a brofasai flas eiriasdan
Yr ufel ffrwd a losgai fywyd Trystan.

Ond er nas gall y byd garcharu'r ysbryd,
Gall rhwd y gadwyn gancro craidd ei fywyd;

A gwisgo'r gwir yn lliwiau angenrheidrwydd
Wenwyna ffynonellau diniweidrwydd.
Esyllt a Thrystan, cuddio'u caru'r oeddynt,
A chadwyn tynged ddu'n tynhau am danynt.
Bob dydd cyn wired ag fod dydd yn dyfod,
Doi blodau gyda'r dwr at ddrws yr hafod;
A llawer cerdd ym mynwes y llateion;
A chynllun llawer oed ar donnau'r afon.


Daeth marchog o Iwerddon,
Garasai Esyllt gynt,
Yn niwyg crythor crwydrol
I'r hafod ar ei hynt;
Cyffyrddodd ar ei dannau
Ryw gainc gyfriniol bell,
Gynhyrfai ddwfn ddyhead
Y fron am bethau gwell.
Ond ber ei gerdd: bron ddigon
I ennyn nerthol chwant
Am fwy o'r gain beroriaeth
A grynnai ar y tant.

"Moes, gerddor, fwy o'th gathlau
Perseiniol," meddai March,
"Pencrythor imi fyddi,
Cei urddas, ced, a pharch."
"Dy barch ni'm dawr," medd yntau,
"Nac urddas undyn byw;

Os caf a archaf, canaf,
Gwnaf erof fi a Duw."

A chymaint gwallgof awydd
Y brenin am y gerdd,—
Fe roisai nef ei enaid
I'r gwr o'r Ynys Werdd.

"Dygaf i Dduw fy nghyffes,"
Atebai gyda brys,
"Y cei y peth a fynnych."

Ei gân ddiddanai'r llys
Trwy gydol y nos honno;
Llawenai calon March;
Ac eb ef wrth y crythor,

"Ha, enaid, mae dy arch?
Fei cei os yn fy ngallu
Ar wyneb tir neu aig."

"Fy arch," atebai yntau,
"Yw Esyllt deg, dy wraig."

Syfrdanwyd March a dychryn;
A safai oerllyd chwys
Yn ddafnau ar ei dalcen:
Rhyfeddai gwyr y llys:


Ymwingai i geisio rywffordd
Ddod o'i gyfyngder certh
Trwy gynnyg aur a pherlau,
A gemau uchel werth.

A dirmyg ar ei wefus,
Diysgog fel y graig
Atebai'r crythor: "Dewis
D'anrhydedd neu dy wraig."

A chawsant yn eu cyngor
Roi Esyllt wen i'r gwr;
A chydag ef cychwynnodd
I lawr at lan y dwr,
Lle dawnsiai 'i long brydweddol
Yn rhigyl ar y lli,
A chyrchu 'i bwrdd yn ebrwydd
I adaw'n hynys ni.

Ond Trystan glybu'r gyfranc.
O'i ogof yn y coed;
A'i farch, ei gledd a'i delyn
Gymerodd yn ddioed.
Cyrhaeddodd fin y feisdon
Mewn unig anial fan;
A thannau 'i delyn seinber
Gwynfannai ar y lan.


Ac Esyllt glybu'r seiniau'n
Cwhwfan dros y don;
A'i chalon a lesmeiriodd
Yn swn melodus hon;
A thyngai wrth y marchog
Mai marw fyddai'i rhan
Os collai gwmni'r delyn
A ganai ar y lan.

Ac yntau heb amheuaeth brad
A droai'r llong yn ôl,
Ar feddwl ennill serch y fun
Trwy borthi 'i mhympwy ffôl.
Dychwelodd i berswadio'r
Telynor medrus mad
I dderbyn ei wasanaeth
A chefnu ar ei wlad.

Ac Esyllt a ymbiliai:
"O, tyred gyda ni;"
Ond "gwared fi o'i ddwylaw"
Oedd iaith ei llygaid hi.
A flachiodd cilwg Trystan:

"Ymaith, anghenfil rhwth,
Fy nhelyn aur a bia'r ged
Enillaist ti a'th grwth."


Ag Esyllt yn ei freichiau
Rhoi lam ar hoew droed
I'w gyfrwy mewn munudyn,
A gwanu tua'r coed.
Y marchog mewn syfrdandod
A safai ar y traeth;
Ond Trystan gyda'i drysor
I'w ogof gudd a ddaeth.

Mor ddedwydd ail gyfarfod
Ar ôl gwahanu erch;
Mor felus ymanwylo
Ac yfed ffrydiau serch
Ar ol unigrwydd llethol
Heb neb i wrando cwyn:
Ond ni raid adrodd hanes hyn
I'r sawl adnabu 'i swyn.

Gorweddai, hunai Trystan,
A'i rudd ar fron ei fun;
A'i nefoedd hi oedd gwylio
Yn dyner dros ei hun;
Anwylai'i wallt gwineuddu,
A harddwch teg ei bryd:
Ond cuddier hanes cywir serch
Rhag llygad oer y byd.


Cyflymai'r dyddiau heibio
Ar edyn euraidd chwim:
O derfynedig wynfyd,
Nid ydyw'n para dim.
Bradychwyd eu cyfrinach ;
A chyrchu Esyllt wnaed;
A Thrystan yn ffoadur
A gwobr am ei waed.
Ond cawsant orig ddwyfol
Yn nwyfiant ieuanc hoen;
A mynnai serch fod honno'n
Gorbwyso bythol boen.


Nodiadau

[golygu]