Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill/Yr Hwyl Ddu
| ← Yr Alltud | Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill gan R Silyn Roberts |
Caniadau Eraill → |
V. YR HWYL DDU.
"O Esyllt, goleu'm llwybyr a dy wenau,
Rho im' dy law yn niwloedd cysgod angau.
O Esyllt, Esyllt, croesa'r eigion garw,
Cusana dy anwylyd cyn ei farw."
V. YR HWYL DDU.
Blinedig donnau eigion môr Iwerydd
O'u maith grwydriadau geisient eu dihenydd
Lle safai priflys yn eu dwndwr distaw
Ar greigiau geirwon heulog feisdon Llydaw.
A brenin drigai yn y caerau beilchion
Ac un ferch iddo, Esyllt Ddwylo Gwynion.
I'r priflys hwn y daethai'r alltud, Trystan,
A chalon drom o grwydro'r ddaear lydan.
Tu fewn i ddyn mae uffern, nid tu allan;
I ble y ffoa gwr oddiwrtho 'i hunan?
Er croesi tir a môr ei boen oedd ffyddlon;
Ddiffoddai llid y don mo dân ei galon.
Er pan yn Llydaw gorchfygasai alon
Y llys, a chawsai serch yr holl farchogion.
Ymboenai'r brenin weld ei wyneb prudd,
A nychdod gwelw anobaith ar ei rudd.
Ac Esyllt wyliai ing ei ddirgel drallod,
A'i chalon roddes iddo heb yn wybod :
Nis gall y tafod llyfn ond goglais serch;
Cudd boen y dewr sy'n cyffwrdd calon merch.
Ond dall oedd ef i ieuanc wrid ei gruddiau,
A'r tresi aur a guddiai ei hysgwyddau,
Ei dwsmel lais, a hedd ei llygaid gleision:
Na'r melyn haul mwy swyn y nos gysgodion.
A thua Chernyw bell y crwydrai 'i dremyn
Wrth suo cynni 'i fron yng nghlust ei delyn:
"Mewn priflys ar glogwyn yn ymchwydd y don
Mae'r rhiain a garaf fi;
Fy nghalon sy'n friwdoll o hiraeth am hon;
A dwyfol baradwys dymuniad fy mron
Yw priflys murmuron y lli,—
Yw'r castell yn suon y lli.
"Grasusol yw gosgedd, melodus yw llef
Mireinferch fy enaid i
Fel siffrwd adenydd angylion y nef
Wrth wylio cynddaredd y dymestl gref
Ym mhriflys cyfaredd y lli,—
Yn y castell yn suon y lli.
"Fy ngofid a gwyna fy nhelyn, a'i bwys
Sy'n llethu ei thannau hi;
A denfyn fy ysbryd ochenaid ddwys
Am heulwen y gwenau genethaidd a glwys
Sy 'mhriflys hafdesog y lli,—
Yn y castell yn suon y lli.
"Gorchuddiodd cymylau anobaith fy mhen;
Machludodd seren fy mri;
Unigrwydd yr alltud ogwyddodd fy mhen,
Ond methodd ladd traserch am fanon wen, wen,
Y priflys wrth ewyn y lli—
Y castell yn suon y lli.
"Mae anadl marwolaeth yn llwydo fy ngwedd;
Edwina fy mywyd i;
Diflasodd melusder y cerddi a'r medd
O'm traserch am Esyllt deyrnasa ar sedd
Urddasol hên briflys y lli,—
Y castell yn suon y lli.
"Mae anadl marwolaeth yn oeri fy ngwedd,
A'm cân sy'n angeuol gri;
Dduw'r gloewnef, dychwel fi i orffwys mewn hedd
I ddagrau fy Esyllt gael gwlychu fy medd
Ym mhriflys murmuron y lli,—
Yn y castell yn suon y lli."
Gwrandawai Esyllt o'i hystafell gudd
Ar acen calon drom y marchog prudd;
A'i mhynwes ddidwyll gredodd mai hyhi
Oedd Esyllt wen y priflys wrth y lli.
Gofidiai weld ei chariad yn dihoeni;
Cashai ei hun am iddi erioed ei boeni.
Llawenydd serch a ganai yn ei chalon;
A pherliai dagrau yn ei llygaid gleision.
Nid hir y medrodd gadw 'i chyfranc fad,
Yn gynnil iawn mynegodd hi i'w thad;
A meddwl syml y brenin lawenychodd:
Priodas Trystan gyda'i ferch gyhoeddodd.
Mewn pembleth yntau ofnai, trwy nacâu,
Ddirmygu ei garennydd a'i sarhau;
A merch y castell teg ar fron y graig
Gymerodd iddo'n briod,—nid yn wraig:
Aur fodrwy Esyllt Cernyw, yn y llys,
Fel cylch o dân a losgai am ei fys;
Yr haul a ddiffoddasai yn ei nef;
Ac yn y neithior tristaf gwr oedd ef;
Ni ddorai ei anobaith beth a ddeuai:
Gorweddle laith marwolaeth a ddymunai,
Nid gwely cariad Esyllt Ddwylo Gwynion.
Y cefnfor ruai gollfarn tynged ddigllon,
A gruddfan dwfn y gwynt fel oergri'r colledigion.
Y dyddiau chwerwon,—dafnau duon amser,
Arteithient enaid Trystan; ciliai cryfder
Y fraich fu gynt yn dychryn meibion brad
Wrth wasgar dinistr du mewn llawer cad.
Esmwythai Esyllt eurwallt ei obennydd,
A'i dagrau mud yn gwlychu 'i gruddiau beunydd.
Ond briw i'w fron oedd gweld ei dwylaw gwynion:
Am Esyllt arall y newynnai 'i galon.
Ymlusgai'r dyddiau heibio yn y castell;
A phwys pob nos wnai'r marchog yn fwy musgrell;
Llwyd lenni'r bedd a wisgai 'i wyneb glân;
A phylai'r llygaid gynt a fflachiai dân;
A phan lefarai, yn ei eiriau tru
Sibrydai murmur bloesg yr afon ddu.
Ei wely wyliai 'i ffyddlon yswain, Dyfnant,
Na dydd na nos ni cheisiai hun i'w amrant;
Dymunai pe gallasai farw drosto;
A thorrai 'i galon wrth ei weld yn gwywo.
Dywedai Trystan:
"Isel yw fy mhen;
Fy yswain hoff, mi garwn weld y nen
Lle croga'r nos uwch nwyd y drystiog don
Fel darlun nos anobaith ar fy mron."
A mwynder merch cymerai ef i'w freichiau
A'i gynnal wrth y ffenestr a chlustogau.
I'r gogledd troai 'i dywell drem uchelryw
I'r gwyll a guddiai benryn anwyl Cernyw.
Y gwynt sisialai gerddi'r gwyn orffennol,
A rhuai'r môr alargan y dyfodol.
"O Esyllt, Esyllt, O, fy nghariad gannaid,
Anadl fy einioes, anwyl loes fy enaid,
Pa le yr wyt? A ydyw'th galon di
Yn llawn gobeithion meirwon fel f'un i?
Fel cawod ar gras dywod yr anialwch
I'm hysbryd fyddai cwmni dy ddiddanwch.
O na chawn eto deimlo gwres dy wenau,
Mwy fyddai im' na thoriad gwawr i'r blodau.
O na chawn ddrachtio paradwysol rin
Anfarwol neithdar serch dy felus fin;
A gorffwys lle y cura'th galon gynnes,
A huno byth ym mheraroglau'th fynwes.
O Esyllt, goleu'm llwybyr a dy wenau,
Rho im' dy law yn niwloedd cysgod angau.
O Esyllt, Esyllt, croesa'r eigion garw,
Cusana dy anwylyd cyn ei farw."
Taranai'r môr fygythion tynged ddofn,
A chrynnai'r gwynt fel calon lawn o ofn.
"Dos, Ddyfnant, yn fy llong i benryn Cernyw;
Ac fel marsiandwr danfon rodd i'r penllyw;
Ac i'r frenhines anfon euraidd gwpan;
A dod yng ngwaelod honno fodrwy Trystan.
Adnebydd hithau hi a daw i'th geisio
A'th holi; erfyn dithau arni frysio
I leddfu marwol gur y gwr a'i carodd
A serch nas dichon cysgod angau 'i ddiffodd.
Os daw, caf arwydd, bydd dy hwyl yn gannaid:
Os na,—boed ddu, fel hanner nos fy enaid."
A'r yswain ufuddhâi. Ond clybu Esyllt,
A'i hysbryd lanwyd ag eiddigedd nwydwyllt;
Os cryf ei chariad, creulon ei heiddigedd.
A gwenwyn lond ei bron, mewn prudd unigedd,
Hi wyliai wên cysgodau'r serch freuddwydian
Lesmeiriai yn nyfnderau 'i lygaid duon.
Aeth nos a dydd a bron i eilnos heibio;
A'r lloer rhag ofn y dydd ddechreuai lwydo
A chuddio'i phryd; a chrynnai'r wawrddydd firain
Yn oerni'r nos wrth agor pyrth y dwyrain.
Deffroai Trystan o'i freuddwydion melus,
A galwai'r dywysoges yn gynhyrfus:
"Er mwyn y nefoedd, Esyllt, dos i wylio
Ai nid oes llong o'r gogledd draw yn hwylio;
A dywed im' pa liw sydd ar ei hwyliau:
Mae'r dwyfol dân a gerdd trwy 'ngwythiennau
Yn dweyd fod Esyllt Cernyw yn dynesu
Ac y caf eto 'i gweled a'i mhynwesu."
A'r dywysoges gerddai at y ffenestr,
A nwyd galedai 'i chalon megys callestr.
Hi welai long ym mhell, a'i hwyl yn wen,
Fel adain alarch rhwng y môr a'r nen.
"Mi welaf long yn cerdded dros y gorwel,
A bron ei hwyl yn chwyddo yn yr awel."
"O Dduw, nacâdd fy Esyllt hardd mohonof,—
Ond beth yw lliw yr hwyl?" ymholai'n wallgof.
Gwenwynig nwyd oedd yn ei bron eiddigus;
A chrynnai celwydd ar ei mhingul wefus.
"Du," meddai: soddai'r gair fel cledd i'w ddwyfron;
A'i anadl olaf fferrodd waed ei galon.
Prysurai'r llong i'w thaith ar frig y wendon,
Fel gwylan wen yn hedeg tros yr eigion;
Ac Esyllt ar ei bwrdd mor wen a'r eira
Fantella oesol drumau'r Himalaya.
Ciliasai ieuanc wrid ei grudd delediw
Dan bwysau bri ac urddas coron Cernyw;
Gadawsai tristwch ar ei phryd ei olion,
A dwysder yn nyfnderau'r llygaid duon;
Ond tlws ei gwefus eto fel y rhos,
A'i hirwallt du fel cysgod llaes y nos.
Rhifai funudau'r daith o awr i awr
A grudd mor oer a llwyd a'r ieuanc wawr
A lithrai'n araf dros y tonnau weithian
I ddangos muriau'r gaer lle trigai Trystan;
Hoeliai ei llygaid arnynt yn y pellter,
A chariad yn serennu yn eu dyfnder;
A theimlai 'i thraserch yn ei angerddoldeb
Y funud fach mor hir a thragwyddoldeb;
Cynhesai'i gwaed; dychwelai gwrid i'w gruddiau;
A dawnsiai'r llong yn chwimwth ar y tonnau.
Yn llwydni'r wawr tarawai'r llong y traeth;
Ac Esyllt hardd i borth y llys a ddaeth.
Hi glywai yno alar ac wylofain
Ac anhrefn dybryd dychryn a dolefain;
A theimlai anadl angau ar y rhiniog,
A chri'r galarwyr fel picellau miniog
Yn brathu 'i bron ag iasau oer y bedd;
A gwelwder llaith marwolaeth wisgai 'i gwedd.
Brysiai i ddringo grisiau maen y castell;
Fel cysgod gwyn ymlithrai i'r ystafell;
A gwelai'r gwr a garai'n well na'i henaid
Yn farw fud ym mhlyg y cwrlid cannaid,
A thragwyddoldeb yn ei lygaid duon
Yn tremio tua chartre'r nos freuddwydion.
Murmurai'n syn uwchben ei wedd wywedig
Acenion dwys ei chalon drom doredig:
"Fe'm carodd mal y câr yr haul y ddaear:
Bedyddiodd fi a gwres ei fynwes hawddgar;
Fe'i cerais ef mal câr y lloer yr aig
I'w yrru a'i guro'n greulon ar y graig.
O, Drystan, Drystan, gwrando gri fy alaeth;
A derbyn fi ar genlli ddu marwolaeth."
Ymgrymodd a gorffwysodd ar ei ddwyfron;
A thorrodd cusan ola'i serch ei chalon.
Ei thresi duon guddiai wyneb Trystan
Fel amdo'r oesol nos ar fynwes anian;
A'r marwol wlith ar bedair gwefus oer
Mor dlws a blodau'r bedd dan gusan bell y lloer.
