Neidio i'r cynnwys

Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill (testun cyfansawdd)

gan R Silyn Roberts

Pennod Nesaf
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
R. Silyn Roberts
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Trystan ac Esyllt
ar Wicipedia

TRYSTAN AC ESYLLT
A
CHANIADAU ERAILL

𝔗𝔯𝔶𝔰𝔱𝔞𝔫 𝔞𝔠 𝔈𝔰𝔶𝔩𝔩𝔱 𝔞 ℭ𝔥𝔞𝔫𝔦𝔞𝔡𝔞𝔲 𝔢𝔯𝔞𝔦𝔩𝔩

𝔊𝔞𝔫

ℜ. 𝔖𝔦𝔩𝔶𝔫 ℜ𝔬𝔟𝔢𝔯𝔱𝔰

Bangor Jarvis & Foster
mcmiv.




I'r Athrawon
J. Morris Jones, Ysw., M.A.,
a
W. Lewis Jones, Ysw., M.A.,
o ddyled i'w llafur,
pharch i'w hathrylith
a'u cariad at iaith a llen
Y Cymry,
y cyflwynir y gyfrol hon gan
Yr Awdwr.



AT Y CYMRY.

GWAITH pleserus yw diolch i garedigion lên Cymru am fy nghynorthwyo i gyhoeddi'r gyfrol hon; cefnogaeth barod a serchog fy nghenedl ym Mhrydain a'r Amerig a'm calonogodd i'w dodi ger bron y cyhoedd. Bu Mr. VINCENT EVANS a Chymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol mor hynaws a chaniatäu cyhoeddi pryddest arobryn Bangor. Casglodd nifer o gyfeillion caredig enwau tanysgrifwyr i'r llyfr, a rhoddasant gymorth gwerthfawr wrth drefnu'r rhestr. Gwelir ei bod yn hir, ond ofnaf imi anghofio rhai o'r sawl a rodd eu henwau ar dafod leferydd. Ni fedraf ond diolch o'm calon i bawb; a maddeuer imi fy nghof rhydwll. Ceir yn y gyfrol amryw ddarnau a gyhoeddasid eisoes; os gofynnir esgusawd am eu casglu at eu gilydd, cyffesaf na feddaf un. Wrth gynnyg goreu awen anaeddfed i'm cydwladwyr llen-gar, nis gallaf fwy na gobeithio y ceir rhywfaint o bleser o ddarllen fy ngwaith, a dymuno yng ngeiriau'r prifardd y

"Ca nghenedl well cynghanedd."

R. S. R.
Calangauaf, 1904.

CYNNWYS.




TRYSTAN AC ESYLLT
PRYDDEST DELYNEGOL




I. Y MARCHOG CLWYFEDIG.

Ond pwy yw'r marchog? Pam mae'n drist ei wedd?
Paham y gwisga'i harddwch lwydni'r bedd?


TRYSTAN AC ESYLLT.

I. Y MARCHOG CLWYFEDIG.

Ar orsedd wen cadernid yr Eryri
Eistedda teyrn y gauaf didosturi,
Ei anadl oer yn deifio bywyd anian;
Ac unig gerdd y llwyn yw cwyn a gruddfan
Y chwaon crwydrol rhwng y brigau moelion
Alarant golli rhwysg eu gwisgoedd gleision;
Y ddaear drodd yn fedd i'w phlant, y blodau,
Ei mhynwes laith yn cuddio'u clysion liwiau;
Ac ysbryd gweddw'r haf yn torri 'i galon
Mewn galar dwys ar ôl ei holl anwylion.
Ymdaena niwlog dawch tros lesni'r nefoedd,
A'i fantell doa'r nentydd a'r mynyddoedd;
A thrwyddo crwydra dwfn a dieithr furmur
Rhaiadrau crug, hyawdledd cyfrin natur.

Marchoga awel Mawrth y tonnau geirwon
A rychant wyneb ewyn môr Iwerddon;
Heb ffrwyn i'w dal, mewn bâr ewynnog rhydd,
Ymnydda cesyg gwynion Gwyn ab Nudd.
Yn flin a llesg a llaith a'i hwyliau'n wlybion
Prysura'r llong i'w thaith ar draws yr eigion;
Yr awel drythyll chwydda fronnau 'i hwyliau
A'r morwyr diwyd blygant wrth eu rhwyfau.

Ar gwrlid drud, mewn gwisg o borffor breiniol,
Gorwedda clwyfus wr o drem urddasol,
Y gwinau wallt, lliw'r gneuen, yn modrwyog
Gylchynnu'i wyneb hardd, bonheddig, rhywiog;
Ond yn ei lygaid tristwch du deyrnasa,
A gwywder bedd ar lwydni 'i rudd arhosa:
Ei glwyf a ysa 'i fywyd tan ei ddwyfron,
A'i wenwyn marwol fferra waed ei galon.
A segur ydyw'r waew fawr ei grym,
Yr helm o ddur, a'r cleddyf hirbraff llym;
Ei fron ni wisg y gref ddihafal lurig
A heriodd ruthr llawer ymwan ffyrnig.
Gorffwysa 'i delyn euraidd wrth ei ystlys,
A'i thannau yn anghofio 'i thonau melus.

Ond pwy yw'r marchog? Pam mae'n drist ei wedd?
Paham y gwisga'i harddwch lwydni'r bedd?

Adwaenir ef wrth flach ei rymus waew,
Ei gleddyf llym, a'i helm, a'i lurig gloew,
A'r delyn aur a gana gerddi'r nef:
Y marchog Trystan o Liwns ydyw ef.
Ei dad oedd Rolant, arglwydd tud Ermonyw,
A'i fam, Gwenalaw, tywysoges Cernyw;
Ac yntau aned ar y cadfaes erch
Yfasai waed ei dad, a'r dyner ferch,
Ei fam, fu farw wedi iddi 'i enwi
Yn Drystan am mai trist i'w fam ei eni.


Fe'i magwyd gan y gwr a garai 'i dad,
Ei hên gydymaith dewr mewn llawer cad,
Yr yswain Rhonan; ac er diogelu
Ei fywyd rhag gelynion mynnodd gelu
Ei fôn brenhinol; a'r bachgennyn, Trystan,
Feithrinodd fel etifedd iddo'i hunan,
A'i enwi'n Tantrys. Ac yng ngwlad Ermonyw
Ni chafwyd ail i'r gwinau lanc telediw
Ym mhob rhyw fabol gamp a gwrol gyfranc,
Nac ail i'r bysedd hudai gathlau didranc
Telynnau swyn y bell freuddwydiol nef
I aros ar eurdannau 'i delyn ef.

Gofwyodd eres herwlong dir Ermonyw,
Ac am ei deced dwyn y llanc telediw
A'i gludo 'mhell dros donnau gwyrdd yr eigion;
Ond tymestl wyllt ddychrynnodd y môr ladron;
Ai dirio wnawd ar ddiffaith benryn unig
Ar lannau Cernyw greigiog a phellennig.

Trwy dreigl yr oesau hên bu'r drystiog don,
A holl gynddaredd llid tymhestlog fron,
Yn curo meisdon arw Cernyw deg,
Gan wisgo ac archolli 'i thraethell freg.
A llawer oes ar ael yr uchel graig
Caer falch Tyntagel heriai ferw'r aig;
Urddasol sedd brenhinoedd Cernyw fu,
A chartref breninesau heirddion lu;

O'i chylch gwrolion oesau 'n ymladd gaed,
A'i sylfaen gref a fwydwyd yn eu gwaed.
Er drwg a da bu'n llochi llawer cawr;
Ac ynddi y cenhedlwyd Arthur fawr.
Hi ydoedd sedd yr enwog frenin March,
A'r llu marchogion dewr gyflawnai 'i arch;
Ac ewythr Trystan, frawd ei fam, oedd ef;
A nawdd a roes i'w går rhag bâr y dymestl gref.


Yn rhwysgfawr lys Tyntagel
Ar lan y gwyrddlas li,
Fel marchog dewr digymar
Enillodd Trystan fri;
Efe fel heliwr cadarn
Oedd bennaf gwr o'r byd;
A chelf helwriaeth ddysgodd
I feib y llys i gyd.
Am ddiddan gerdd a chyfranc
Nid oedd ei ail i'w gael;
A thestun awen Cernyw oedd
Ei anian serchog hael.
Melysach mewn cyfeddach
Na blas y medd a'r gwin
Oedd hudol odlau'r delyn aur,
Y neithdar dwyfol rin.
Dyrnodiau 'i gledd clodforus
A amddiffynnai'r wlad;

A gwenau heirdd rianedd
Oedd gwobr y marchog mad.
Dinasoedd ei dreftadaeth
Yn nhir Ermonyw fras
A'i gledd a ynillasai'n ôl
Oddiar ormesdeyrn cas,
Y creulon Arglwydd Morgan,
Y gwr laddasai 'i dad,—
Barasai angau 'i dyner fam
Trwy ffiaidd waedlyd frad.

Yn nhreiglgwaith daeth Morollt
O dir Iwerddon draw,
A'i faith enwogrwydd lanwodd
Lys Cernyw lon à braw:
Fe hawliai 'n deyrnged drichant
O fonedd blant y tir
Neu un a feiddiai herio grym
Ac awch ei baladr hir.
Dychrynnai'r tywysogion
Wrth feddwl am ei arch,
Teyrnasai dwys anobaith du
Ym mron frenhinol March.

Ym mroch yr helynt Trystan
A ddaeth o daith i'r llys,
Ac achos Cernyw arno 'i hun
Gymerodd gyda brys;

Nis gallai awch y cleddyf,
Na hwrdd y waew gref,
Na geiriau bost y marchog balch
Ddychrynnu 'i galon ef;
Dylosgai tân gwladgarwch
Ei fynwes wrol bur;
A gwasgai 'i fysedd emog ddwrn
Ei awchlym gleddyf dur.
Derbyniodd her y marchog
I achub cam ei wlad,
Cysegrodd waed ei ieuanc fron
I ddial ei sarhad.
A thrannoeth, pan y torrai'r wawr
Tros ael y gribog graig,
Mewn badau beilchion cyrchai'r ddau
Ynysig yn yr aig.
A Thrystan wedi glanio
A droai 'i fad i'r lli,
I'w gludo 'mhell oddiwrth y lan
Ar war y waneg ffri:
Ac meddai wrth ei elyn:

"Y syberw paladr hir,
Bydd digon un o'r badau hyn
I ddwyn y byw i dir."

'Roedd wyneb yr ynysig
Yn weirglodd wastad las,

Ac yno bwriwyd Morollt falch,
A'i ryfel farch a las.
Disgynnodd Trystan yntau
I'w gyrchu gyda'i gledd,
Ond yn yr ymgyrch cafodd glwyf
A lwydodd wrid ei wedd.
Er gwaetha'r archoll hyrddiodd
Un dyrnod grymus mawr,
Nes hollti helm ei elyn
A'i fwrw'n fud i'r llawr;
A darn o'r glaif clodforus
A dorrodd yn y briw.
Anrhydedd gorsedd Cernyw lon
A gadwodd Trystan wiw;
Ac ar y traeth i'w roesaw
Holl lys y brenin oedd;
Ac eco fud y creigiau pell
Ddadebrwyd gan eu bloedd.

Ond Morollt gludwyd ymaith
Tros donnau'r môr i'w wlad;
A'i unig wobr ar ben y daith
Oedd bedd yn nhy ei dad.
A chlod a gafodd Trystan,
A chariad mab a mun;
A'r brenin March a'i henwodd
Yn etifedd iddo'i hun.


Ond nis gall clod a bri droi angau draw,
Na chadarn fraich ddychrynnu brenin braw;
A Thrystan wywai; poen ei glwyf arhosai:
Bradwrus lafn gwenwynig a'i brathasai.
Er celf y meddyg, ac er dawn y dewin,
Edwinai blodyn sifalri'r gorllewin;
Rhag maint ei glwyf fe giliai ei gyfeillion
O un i un i gyd ond Dyfnant ffyddlon.

A'r haul yn machlud ar y draethell freg,
Daeth ato wr o hil y Tylwyth Teg;
Danghosodd lwy byr aur ar draws y wendon,
A gobaith gwella'r clwyf yn llys Iwerddon.
A'r Ynys Werdd, trwy får y don ormesol,
A gyrcha'r clwyfus wr o drem urddasol;
Eistedda tristwch yn ei lygaid duon
Ac eiliw'r bedd a wisga 'i ruddiau llwydion:
Ei glwyf a ysa 'i fywyd tan ei ddwyfron;
A'i wenwyn marwol fferra waed ei galon.



II. Y LLYS GENNAD.

Eistedda cysgod prudd-der blwng
Yn nwfn ei lygaid duon;
Arteithia melus loesion serch
Y clwyf o dan ei ddwyfron;
A cherdda'r llong ym mraich y gwynt
Nes taro glan Iwerddon.


II. Y LLYS GENNAD.

Serch, cryfach yw nag angau du,
A hynach na'r mynyddoedd;
Anfarwol serch yw enaid cân
Y beirdd ar hyd yr oesoedd.
Serch yw goleuni bywyd dyn
A dwyfol grewr hyder;
Anfarwol serch yw'r bywiol waed
Yng ngwythiennau amser.

Ym more gwyn ieuenctid bod,
Ar wawr y dechreu cynnar,
Deffrôdd pelydrau tân yr haul
Nwyd serch ym mron y ddaear;
Ei danbaid gusan godai wrid
Dros harddwch ei hwynepryd,
A'i chalon fawr ddychlamodd pan
Y daeth yn fam i fywyd.
Ei mhilfil plant feithrina ar
Ei bronnau llawnion cynnes;
A'i phennaf drysor iddynt oll
Yw cyfoeth serch ei mhynwes.
Gwres serch a wrida rudd y rhos;
Nwyd serch wna'n wen y lili;
A dyheadau mwynion serch
Ddeffroa gathlau'r llwyni.


Y llyn yng ngloewder dwfn ei fron
Anwesa ddelw'r mynydd;
A hoffa'r cwmwl beichiog hynt
Ym mreichiau'r gwynt aflonydd.

Ysbrydiaeth bywyd, ffynnon cân,
Ac anadl einioes teimlad,
Cynghanedd fyw gyfriniol ddofn.
Y bydoedd ydyw cariad.

I fro breuddwydion tros yr aig
Crwydrasai'r haul, ond cofio
Ei gusan ffarwel ar ei grudd
Wnai i'r wybren wylaidd wrido.

Cysgodau'r hwyr ymrithient of
Waelodion y dyffrynnoedd,
Gan araf ddringo'r bryniau gwyrdd,
A llethrau'r serth fynyddoedd.

Diosgai'r sêr eu dillad dydd,
Eu gwisgoedd o oleuni,
I ddangos eu prydferthwch noeth,
A synnu'r nef â'u tlysni.

Y dawel nos ar wisgi droed
A gerddai donnau'r eigion
I daenu duon lenni'r gwyll
Dros wyneb môr Iwerddon.


Y dwfn dawelwch hyawdl oedd
Fel anirnadwy alaeth;
A'r don yn torri ar y traeth
Fel eco cwynion hiraeth.

Yng Nghernyw lon yn swn y lli
Ar glogwyn uchel unig
Eisteddai gwr o osgedd hardd
Urddasol a bonheddig;
Modrwyau aml am ei law,
Ei wisg o bali purddu,
A rhagdal aur rhuddemog drud
Gynhaliai 'i wallt gwineuddu;
Cain lafnau euraidd oedd yn cau 'i
Wintasau cordwal newydd.
Ei ddeheu law gynhaliai bwys
Ei delyn aur ysblennydd;
Ei rudd orffwysai ar y llall;
A'i dywell drem freuddwydiol
Yn crwydro ar hiraethlon daith
Trwy wyll y nos ledrithiol
I oleu llys yr Ynys Werdd,
Ei gyfoeth a'i ysblander,
A mêl acenion Esyllt wen
Yn ysbrydoli 'i londer.
Ystyriai'r bysedd meinion teg
Fu'n chwilio'r archoll echrys,

A'r ddoeth wybodaeth rodd iachad
I'r prudd farsiandwr, Tantrys.
Hiraethai am gyfeddach fwyn
Y llys a'r diddan gerddi,
A chrwydro gydag Esyllt dros
Rodfeydd blodeuog erddi.
Iachasai'r fam hên glwyf y cledd;
Clwyfasai'r ferch ei ddwyfron;
A phrudd-der hwnnw oedd yn awr
Yn llenwi 'i lygaid duon.
Breuddwydiai am brydferthwch teg
Y feinwar hardd osgeddig;
Murmurai 'i hiraeth wrth y don
Aflonydd ac aniddig.
Fe godai 'i ben a theimlad serch
Yn crynnu ar ei wefus,
A'i fysedd chwim yn deffro cathl
Y mwynion dannau melus;
Ei isel lais ymdonnai'n bêr
Yn nwfn y gwyllnos tawel
Wrth anfon emyn weddi serch
Ar edyn hud yr awel


"O dan fy mron mae cur,
Esyllt wen, Esyllt wen,
Am wên dy lygaid pur,
Esyllt wen,

Cael eto'th gwmni tirion,
A miwsig dy acenion,—
Hyn leddfa gur fy nghalon,—
Brysia i Gernyw, Esyllt wen.

"Dy fin un lliw a'r rhos,
Esyllt wen, Esyllt wen,
A'th wallt mor ddu a'r nos,
Esyllt wen,
Dy lygaid tyner duon,
A'th rudd fel alaw'r afon,
Sydd wedi swyno 'nghalon,—
Brysia i Gernyw, Esyllt wen.

"Sisialon bloesg y lli,
Esyllt wen, Esyllt wen,
Furmura'th glodydd di,
Esyllt wen;
A'r awel wibiol grwydrol,
Dros drumau'r clogwyn oesol,
A sua'th enw swynol,—
Brysia i Gernyw, Esyllt wen.

"Fy ngwlad a ddenfyn wŷs,
Esyllt wen, Esyllt wen,
Am danat ti i'w llys,
Esyllt wen

Hên lys urddasol gewri
Arwriaeth a gwrhydri,
A gei yn gartref iti,-
Brysia i Gernyw, Esyllt wen."


Ar hyd y llwybr anwastad, cam,
Dros lethrau serth y clogwyn,
Yr araf rodiai'r brenin March;
A chlybu glod y forwyn,
A'r gwahodd tyner iddi ddod
I gastell hên Tyntagel;
Ac yn ei fron enynnwyd fflam
O nwyd a thraserch dirgel.
Ymholai am ei llun a'i lliw,
A chyfoeth gwrid ei harddwch;
A hyawdl odiaeth oedd ei nai
Yn traethu am ei thegwch:
O'r merched heirdd fuasai gynt
Ni welsid ei hefelydd;
Ni feddai beirdd holl oesau'r byd
Y crebwyll na'r darfelydd
Ddisgrifiai'n llawn y filfed ran
O gyfoeth ei grasusau;
Anwyled oedd a Gwener glaer,
A blodyn breninesau,
Serchocach oedd na Lalage,
Na Chloris fwyn, na Lesbia;

A milwaith cryfach hud ei serch
Na swynion Helen Troia.
Gwyw ydoedd harddwch Olwen deg
A Branwen a Rhiannon
Yn ymyl dwyfol dlysni swyn
Y lili o'r Iwerddon.

Gwrandawai March yn fud a syn,
Rhyfeddai wrth y geiriau;
A chyniweiriai iasau gwŷn
Ar hyd ei wythiennau.
Ymholai ai prydferthach hon
Na'r fanon wech, Gwenhwyfar,
Ysbrydiaeth arwyr y Ford Gron,
Brenhines hardda'r ddaear.

Atebai Trystan na wnaeth Iôn
Ail na hefelydd iddi,
Mai purach gwynder glân ei phryd
Nag ewyn balch y weilgi.
Fe rodiai'r ddau yn ôl i'r llys
Yn llawn o serch y forwyn,
March yng Ngorffennaf aeddfed nerth,
A Thrystan yn ei wanwyn.
Gwrandawai'r brenin; traethai'r nai
Ei helynt yn Iwerddon,―

Mai fel marsiandwr gawsai glwyf
Gan reibwyr ar yr eigion,
Cyrchasai'r llys, ac iasau poen
Yn oeri gwaed ei galon.
Ei delyn enillasai ffafr
Y brenin a'r frenhines;
A'i enwi wnaed yn athro cerdd
I Esyllt dywysoges.
Disgrifiai'r oriau hirddydd haf
Bu'n dysgu 'i bysedd meinion
I gywir oglais awen swyn
Mêl odlau'r tannau tynion;
Canmolai 'i llais, a'r findlws wên
Chwareuai ar ei gwefus,
Oedd fil mwy tlws na'r ieuanc ros,
A'i lliw fel aeddfed fefus.
Cryfhau wnai'r nwyd ym mynwes March,
A thyngai yn ei galon,
Y mynnai ar ei fron ei hun
Flodeuyn hardd Iwerddon;
Hi lanwai'i fryd ar hyd y dydd;
Breuddwydiai'r nos am dani;
Dygyfor cryf oedd dan ei fron
Yn chwyddo ac ymdonni.
Ond sut i'w chael? Cyfrifai 'i thad
Yn elyn marwol iddo.
Pwy gymrai 'i cinioes yn ei law
I groesi'r mor i'w cheisio?


A galw 'i wŷr ynghyd a wnaeth
Er mwyn cymeryd cyngor,
A gofyn pwy anturiai'n ddewr
I geisio'r werthfawr drysor.

Gelynion Trystan yn y llys
Ni fynnent mono'n frenin;
Eiddigedd creulon fel y bedd
Wenwynai'u geiriau gerwin;
A chredent na ddychwelai'n fyw
Os elai i'r Iwerddon:
Ac os dychwelai codid had
I Farch o'r ieuanc fanon.
A chafwyd yn y cyngor fynd
O'r gwinau lanc telediw
I geisio rhiain deca'r byd
Yn wraig i frenin Cernyw.

"Dos," ebr March, "a heria wŷn
A dig yr eigion gorwyllt,
A dwg drysorau aur fy llys
I ennill cariad Esyllt;
Adrodda iddi hanes hên,
Ac urddas llys Tyntagel,
A'r teimlad byw sy 'mynwes March
Yn llosgi'n draserch dirgel.


Boed chwim dy daith, a doeth dy air,
Goleued ffawd dy lwybrau
I ddwyn y dlos dros frig y don
I 'i chartref yn fy mreichiau."

Ac unwaith eto tros yr aig
Ar antur drom beryglus
Mordwya'r hardd osgeddig wr
Oedd gynt mor drist a chlwyfus.
Nis gwyr ei fynwes beth yw ofn,
Ond cymysg yw ei deimlad:
Gwresoga 'i waed wrth feddwl gweld
Prydferthwch mun ei gariad;
Ond ias y bedd i'w fron rydd mynd
I geisio hon i arall.
Dyhead serch fel newyn du
Neu syched cryf aniwall
A'i gyr i geisio neithdar nef
Ym mhresenoldeb Esyllt:
Ond colli hon! Dymuna fedd
Dan donnau'r eigion hydrwyllt.
Eistedda cysgod prudd-der blwng
Yn nwfn ei lygaid duon;
Arteithia melus loesion serch
Y clwyf o dan ei ddwyfron;
A cherdda'r llong ym mraich y gwynt
Nes taro glan Iwerddon.


I'r llys anfonwyd rhoddion heirdd
I'r brenin a'r frenhines,
A thlysau aur a gemau drud
I Esyllt dywysoges.
A'r gennad glybu am y ddraig
Ormesol ac echryslon
Oedd yno'n ysu cnwd y wlad,
A difa ei thrigolion;
Addawai'r brenin, am ei lladd
A gwared rhag ei gormes,
Hanner ei gyfoeth gyda llaw'r
Frenhinol dywysoges.
Mynegi hyn i Drystan wnaed;
Ac yntau wisgodd arfau;
Ac wedi ymladd hir a blin
Fe las hên ddraig y creigiau.

Yng nghanol bloedd gorfoledd gwlad
I'r llys arweiniwyd Trystan,
Yn llesg a blin a rhudd ei wisg
Gan waed yr ellyll aflan.
Y brenin barai arlwy gwledd
A diddan gerdd a chroeso
I'r gwron waredasai'r wlad,
A llawen fuwyd wrtho;
A galw Esyllt deg a'i mham
I ddiarchennu'r marchog,

I ymgeleddu 'i gleisiau aml
A'i wisgo'n ddrud ardderchog.

Er cuddio o'r llaid ei wyneb hardd,
A'i bryd yn waedlyd echrys,
Amheuai Esyllt ai nid hwn
Oedd ei hên athro, Tantrys;
Ymchwyddai ’i bron wrth gofio am
Y dyddiau haf hirfelyn
Dreuliasai gyda Thantrys hoff
A'i gyfareddol delyn.
Hi chwiliai 'i wisg a'i arfau am
Ryw arwydd i'w adnabod;
A mynnai 'i chalon fod ei hên
Gydymaith wedi dyfod;
Hi dynnai'i gledd o'r wain,—y bwlch
A welai 'n eglur ynddo;
A synai wrth ei hyd a'i led,
A'r ffurf arbennig arno:
Fflachiodd goleuni'r ffaith i'w bryd
Yn sydyn fel taranfollt:
Cofiodd y darn dynesid gynt
O ben clwyfedig Morollt.
Dial gynheuai yn ei gwaed;
A rhuthrai i daro'r gelyn
Oedd yn y baddon marmor gwyn
Yn llesg a diamddiffyn.


"Tydi dywelltaist waed fy nghar,"
Dolefai'r ferch yn llidiog,
"Tydi yw gelyn penna 'ngwlad,
Y gwaedlyd Drystan farchog."
A chyda'r gair dyrchafai'r cledd
I drychu Trystan fradus;
Ond gwelai wên, a llygaid du,
A gwallt gwineuddu Tantrys.
Petrusodd; a deffrodd ei serch,
A'r hên atgofion cynnes;
Ac ymdrech gerth rhwng serch a chas
Derfysgai yn ei mhynwes;
Yr enwog Drystan a gashai;
A Thantrys garai'n dyner;
A rhwng y ddau disgynnai'r cledd
Heb waed i bylu 'i loewder;
A ffoi o'r lle i unig fan
I arllwys ei theimladau,
Fel pob genethig ddeunaw oed,
Trwy wylo'n hidl ei dagrau.
Mae'r ieuanc fron mewn gofid fel
Nen haf dan gymyl duon,
A'r glesni'n lanach pan y syrth
Y pur ddefnynnau gloewon;
Diflanna cwmwl llid yn llwyr
Yng ngwres y serchog anian;

Anghofiai Esyllt farw 'i châr
Wrth gofio mwynder Trystan.
Dymunai eto wrando 'i lais
Yn adrodd ystorïau
Marchogion arwrol y Ford Gron
A'u rhyfedd anturiaethau;
A chlywed clod Gwenhwyfar hardd,
A'r ymherawdyr Arthur,
Am enau euraidd Gwalchmai fyg,
A phaladr hir Peredur.

Breuddwydiai Esyllt ieuanc am
Y gwr a garai orau,
A'r dagrau'n perlio ar ei grudd
O dan ei mhuchudd aeliau;
Glân a diniwed oedd ei serch
Fel gwynder blodau'r gwanwyn,
A'i theimlad tyner mor ddi-nwyd
Ag awel Mai mewn irlwyn.

Breuddwydiol ledrith gwrid y wawr
Yn crynnu ar fron y dwyrain
Yw tlws ddatguddiad cyntaf serch
Ym mynwes prydferth riain,
Cyn dyfod gwres a goleu'r haul
I ymlid y cysgodion,
Cyn mynd o chwerwder bywyd dyn
Yn gymysg a'i felusion,


O ddwyfol serch, anfarwol serch,
Ysbrydiaeth wen y nefoedd,
Paham na chaiff yr ieuanc fod
Yn ieuanc yn oes oesoedd?
Pam caiff drychiolaeth hagr y byd
Droi'n hunlle freuddwyd cariad?
Pam caiff llysnafedd brwnt y llawr
Wenwyno cwpan teimlad?
Pam ca'r dwyreinwynt miniog ladd
Yr afal yn ei flodyn,
A rhwystro i wrid yr aeddfed ffrwyth
Addurno'r llwythog frigyn!
Ystaenir edyn gwynion serch
Tros byth yn llaid y corsydd?
Ai ni chant hedfan hwnt i'r nos
I'r by thol wyrddion lennydd
Lle na osodir maglau deddf
Ar lwybrau eang rhyddid,
Lle na ddaw niwloedd anair byth
Dros wybren las ieuenctid?

Anfarwol serch herfeiddia rwyd
Rhagfarnau cyfyng dynion;
Enilla nerth mewn poen a gwae;
Dirmyga angau creulon;
Dyhea am eangach byd,
A gloewach nen i'r ysbryd;


A chyfyd ddyn o laid y llawr
I awyr dwyfol wynfyd.

Ysbrydiaeth lawen, rhuddgoch wawr
Tu hwnt i'r ddunos anfad,
Cynghanedd ddofn gyfriniol drist
Dynoliaeth ydyw cariad.


III. Y CWPAN SWYN.

Melyswin serch, cyfriniol wlith y nef,
Mae bywyd a marwolaeth ynddo ef.


III Y cwpan Swyn


A milfil ddawns goleuni ar yr aig
Yn goglais milfil chwerthin distaw'r lli,
Yr awel yn breuddwydio ar y graig
A thrwmgwsg yn cusanu 'i hemrynt hi,
Cyfeiriai'r llong yn ôl i'r glennydd hyn;
Ar bwys ei rhwyfau cerddai 'i llwybyr llaith,
Fel teithiwr blin yn pwyso ar ei ffyn,
Bron anobeithio gweled pen ei daith.
O lys Iwerddon cychwynasai i ffwrdd,
O ganol moethau aml, rhwysg a pharch;
Eisteddai Trystan ac Esyllt ar ei bwrdd:
Llwyddasai llys genhadau'r brenin March.

Eisteddai Trystan hardd ac Esyllt deg:
O'u blaen ymledai ceinder Cymru wen,
Ei rhosydd grug a'i dolydd meillion chweg,
A'r bryniau oesol garant lesni'r nen.
Mud oedd y ddau, ond nid anedwydd chwaith:
Rhyw bell ddymuniad rhwng y llon a'r prudd
A lanwai'r fynwes i felysu'r daith,
A'i gysgod yn swynoli gwên y rudd.

Distawrwydd ar yr eigion,-hyawdl yw
Gan drist alawon y morwynol gôr

O'r dyfnder yn galaru am y byw
Wrth eilio cathl cyfaredd ddofn y môr.
Fe wenai dolydd meillion Gwalia wen;
A chwarddai myrdd o'i ffrydiau gloewon hi;
Tangnefedd oedd lleferydd glesni'r nen
Ond tristwch gwyll y bedd oedd iaith y lli.
Dihangai'r dydd, a rhawdrydd frenin mad
Y nef a blygai i'w orffwysfa dlos;
Yr hwyr gysgodion grwydrent tros y wlad
I daenu llenni glasddu llys y nos.

Eisteddai Trystan ac Esyllt fyth yn syn
Mewn myfyr melus am yr amser fu:
Machludai'r haul ar eu gorffennol gwyn;
A chysgod guddiai eu dyfodol du.
Ond dall yw'r llygaid i'r dyfodol du
Pan chwydda anadl serch o dan y fron;
Cynhesa'r galon yn yr heulwen gu;
A'i thragwyddoldeb ydyw'r funud hon.

Murmurai Esyllt:
"Trystan, mae dy gerdd?
Mae odlau mêl tyn dannau'r delyn aur?
I'm bron mae hiraeth,—am yr Ynys Werdd,
Y dyddiau gynt, a'u mwyn freuddwydion claer.

Cân imi gerdd fel suon chwaon gwynt,
Un dyner fel deffroad cyntaf serch,
Henafol gainc o'r hên amseroedd gynt
Am wiw ddyhead mab a breuddwyd merch."

Ac meddai Trystan:
"Cân i mi nid oes,
Namyn ochenaid drom y galon friw.
Dehongla, delyn, freuddwyd serchog loes."
A dawnsiai 'i fysedd dros ei thannau gwiw.


Tywysog y tes yn ei briflys gwyn,
Tu hwnt i geulannau'r bedd,
Fedyddia wyrddlesni dôl a bryn
Mewn diluw o oesol hedd;
A chroeso rydd iarlles y llys i'r sawl
A egyr byrth enfys bri;
A dengys ei gwisg o sidanwe'r gwawl
Ei thegwch morwynol hi.

"Mae llwybyr paradwys mab a merch
Trwy ddrain yr anialdir mawr;
Rhaid llosgi'r byd ar allorau serch
Cyn cychwyn am byrth y wawr.
Ond yn y bröydd tu hwnt i'r don,
Mewn cynnes wanwynol hin,
Diwellir newyn y serchog fron
Yng ngwleddoedd y manna a'r gwin.


"Bydd llaw rewllyd angau, ei hofn a'i phoen,
Byth bythol tu allan i'r drws;
Breuddwydiol ddyhewyd a newydd hoen
Wna bawb yn ifanc a thlws;
Cariadon yn trydar emynau mawl
Melyslais gwanwynol wres,
Dan wenau arglwyddes sidanwe'r gwawl
Ym mhriflys tywysog y tes."


Distawai'r gerdd; a thawel oedd y gwyllnos;
A myfyr mud yn llygaid Esyllt wendlos;
Y morwyr llesg orffwysent ar eu rhwyfau,
Y gwres a'r lludded wedi blino'u breichiau.
Ac meddai Trystan:
"Wŷr, gorffwyswch, weithion;
A gwyliaf finnau'ch hun ar fron yr eigion."

Gafaelai yn y rhwyfau hir anhyblyg,
O'i nerth ystwythent megys gwiail helyg;
Ei rym digymar yrrai'r llong i'w thaith;
Fel gwisgi gysgod cerddai 'i llwybyr llaith.

Eisteddai Esyllt; a'i llaw-forwyn, Branwen,
Yn gweini arni mewn ffyddlondeb llawen;
Ei geiriau arab oedd yn llawn digrifwch,
Ac enwog yn Iwerddon ei phrydferthwch.


Doeth oedd y ferch, a ffyddlon fel goleuni,
I'r lili dyner y gweinyddai arni.
Cyfrinach ddofn a gadwai yn ei mhynwes
Am rinwedd gwin aur ffiol y frenhines:
Gwin a wasgesid o'r planhigion tyner
Flodeuant, ffrwythant yn llywodraeth Gwener:
Melyswin swyn dewinol serch wybodaeth
A lyncwyd gan ddifancoll nos gwyddoniaeth.
Ei gynneddf oedd gwallgofi'r mab a'r ferch
A'i hyfai a chyfaredd dwyfol serch.
Brenhines yr Iwerddon a'i gwasgasai
I ffiol aur; i Franwen y'i rhoddasai;
Ac fel y Gwin Bendigaid cadwai'r trysor
Ar gyfer March ac Esyllt nos eu neithior.

Melyswin serch, cyfriniol wlith y nef,
Mae bywyd a marwolaeth ynddo ef.

Gadawsai pelydr ola'r haul yr wybren;
A myrddiwn sêr dryfrithent y ffurfafen;
Y dawel nos deyrnasai trwy'r eangder;
A thrwst nid oedd tros wyneb llyfn y dyfnder
Namyn y rhwyfau 'n siglo ac yn gwegian
Dan ddirfawr bwysau breichiau breisgion Trystan;
Eu swn rheolaidd gwastad mesuredig
A suai gwsg y morwyr llesg lluddedig.


Ac meddai Esyllt:
"Branwen, huna dithau,
Mae cwsg yn llercian eisoes dan d' amrantau."
A Branwen gyrchai leithig is y nenglwyd
I suddo i freichiau cwsg di-boen, di-freuddwyd.
Distawrwydd ar y dyfnder,-gwrando, gwrando,
Mae calon tragwyddoldeb ynddo'n curo!

Sibrydai Esyllt:
"Trystan, gad dy rwyfo;
Ac eistedd yma ennyd i orffwyso.
Cei adrodd imi hanes serch Gwenhwyfar
A Lanselot, ei mharchog dewr digymar."

Y sêr a wenent gariad tragwyddoldeb,
Fel gwynion offeiriadon anfarwoldeb.
A Thrystan ufuddhâi; ei waith adawai;
Ac ar y bwrdd wrth draed y ferch eisteddai;
Yng ngoleu'r sêr y gwelai 'i gruddiau gwynion;
Ac yfai serch ffynhonnau 'i llygaid duon.

Gwrandawai hithau ddistaw iaith y nos
Yn dehongl iddi ei chyfrinach dlos;
Ni chlywsai air gan Drystan am ei serch;
Ond nid oes eisiau dweyd wrth galon merch.

Tangnefedd dwfn y nos ar fron yr eigion,
Dygy for dwyfol serch yn llond dwy galon;

Am ysbaid ni ddaeth gair tros eu gwefusau:
Rhy ddwfn y teimlad i barablu geiriau.

Addolai Trystan brydferth fun ei gariad
A pheraroglau serch yn meddwi 'i deimlad.
Trwy wythiennau llosgai tân y duwiau:
A chrynnai neges serch ar ei wefusau.
Ond gwelai hefyd ddiwedd erch y fordaith,
A bedd agored ei anwylaf obaith;
Gwenwynig chwa barlysai ynni 'i galon;
Gorweddai hunlle annwn ar ei ddwyfron.

Ei mhynwes hithau'n llawn o dyner dân,
A'i wres yn araf wrido 'i gruddiau glân;
Pelydrai 'i llygaid fel dwy seren befr:
Agosrwydd Trystan deimlai megis gwefr;
Disgynnai llesmair serch ar ei haelodau
A'i ddwys ddyhead byw yn llenwi 'i bronnau;
Ei hanadl ddofn ddehonglai ei theimladau.

Breuddwydiol ydyw cariad plentyn ieuanc;
Dim namyn cysgod y teimladau didranc
Yn aflonyddu ar ei gwsg digyffro
Yr orig olaf cyn i'r ysbryd ddeffro.

Profasai Esyllt serch trwy 'i hun ddigonedd;
Ond daethai'r awr i'r breuddwyd droi'n wirionedd.


Y plentyn ynddi laddwyd trwy'r datguddiad;
A'r wraig ddifrifol anwyd mewn amrantiad.
Deffrôdd, a gwelai serch, y duw eiddigus,
Ag agoriadau uffern wrth ei wregys.
Hi welodd werth ac ystyr bydol barch,
A'r pris a dalai am orseddfainc March.
Brenhinol glod ac aur a pherlau'r cread,-
Ni phwysai'r cyfan ddim yng nghlorian cariad.
Ni phrynnai coron bri mo allwedd serch,-
Yr allwedd ddetyd glo dwyfoldeb merch;
Ni chaiff ond cariad weld ei thrysor pennaf,-
Shecinah glân ei chysegr sancteiddiolaf;
A gwae i'r dyn a geisia dreisio gwynfyd:
Mae seraff tân ar lwybyr pren y bywyd.
Dychrynnai Esyllt pan y cofiai 'i thynged;
Cashai y brenin cyn erioed ei weled;
Ias oer i'w bron oedd iddo ei hanwesu,
A'i huffern affwys meddwl ei fynwesu.
Anfarwol lanw serch trwy 'i bron yn chwyddo,
A chroeswynt amgylchiadau'n chwerw wrtho.
Rhosynnau'r haf yn gwrido ar ei gruddiau;
A'i hirwallt sidan fel y nos gysgodau:

Dymunai Trystan sugno mêl y rhos;
A chuddio 'i ben am byth tan lenni'r nos.

Fe blygai Esyllt ar y cwrlid purddu;
A'i lili law roi ar ei wallt gwineuddu;

A phwysai 'i ben i orwedd ar ei gliniau;
A theimlai'r gwres ennynai 'i wythiennau.

"Gorffwys," eb Esyllt, "oddiwrth dy ludd;
Mae gwres y rhwyfo eto'n llosgi'th rudd.
Cei adrodd hanes Lanselot ddigymar,
A gofid prudd ei gariad at Wenhwyfar.
Ai ni ddiffoddir byth mo dân ei fynwes?
A leddfir poenau melus y frenhines?
Paham caiff rhagfarn dyn wenwyno teimlad,
A deddfau mân y byd gadwyno cariad?
Darostwng duw yn gaethwas i arferiad!
Ai nid oes man i Lanselot a Gwenhwyfar
I ffoi rhag baldordd tafod brwnt y ddaear,—
Cartrefle heulwen desog serch difesur
Heb gwmwl byth i dduo 'i hwybren asur,—
Lle caiff Gwenhwyfar ddisychedu'r marchog
A ffrydiau melus llawn ei mhynwes serchog,—
Ac yntau weini mewn disgleirwisg gannaid,
Thus peraroglus allor mun ei enaid."

"O Esyllt," ebyr Trystan, "mae fy nghalon
Yn ofni ceisio ateb dy ofynion:
Rhy gyfyng gwely'r môr i lanw'r eigion;
A rhwyga'r dwfn ddygy for furiau'r galon.
Arteithiau serch sy'n minio ei feluster.
Nis diffydd oesol nos mo oleu 'i hyder.


Y boen wrth wreiddyn cariad sy'n amddiffyn
A chadw 'i fywyd, megys draen y rhosyn;
Ond dioer fod y gwyntoedd croes ystormus
Yn peri i'r ddraen wneud bron y pren yn glwyfus.
O Esyllt, dyro im' a dyr fy syched;
Neithdaraidd win y duwiau fynnwn yfed;
Mae 'nghalon mor sychedig a'r anialdir
Hiraetha am gawodydd Alban Eilir."

Ac Esyllt godai i geisio 'i heuraidd gwpan
A gwin i'w llenwi i ddiodi Trystan.
Mewn gwisg o sidan gwynllaes rhodiai'r ferch
I geisio'r gwlybyr dorrai syched serch,
Mor lân a gwyryf sant o'r temlau fu,
Dan orchudd golud llaes sidanwallt du.
Ond gwin nid oedd i'w gael; ac Esyllt alwen
A droai i ddeffroi ei mhorwyn, Branwen;
A honno ar ei lleithig oedd yn huno,
A'i bron mewn cwsg yn disgyn ac yn chwyddo;
A gwelai Esyllt ym mhlygiadau 'i mhynwes
Aur ffiol swynion cyfrin y frenhines.
Gafaelai 'i bysedd telaid yn y ffiol:
Agorai hi; aroglai'r gwin dewinol.
Ar ysgafn droed hi ddawnsiai'n ôl yn llawen:

"Ha, Drystan, wele beth guddiasai Branwen,—
Grasusol win aeddfedodd hirion flwyddau,
A'i arogl fel neithdaraidd wlith y duwiau."


Tywalltai ef i'w chwpan aur godidog
Mor goch ei liw a gwaed y galon serchog.

"Yf o fy nghwpan aur, a thor dy syched;
Ei riniau pêr bâr it' anghofio'th ludded."

"Ond," meddai Trystan, "rhaid cysegru'r gwin;
Melysa ef a chusan mêl dy fin;
Ar ymyl cwpan swyn gall pedair gwefus
Ddwyseiddio blas a naws ei ddawn hudolus."

I gwpan swyn edrychai'r nef ddigymyl
A gwelai bedair gwefus ar ei ymyl
Yn yfed hudwin tynged heb betrusder,—
Yn drachtio rhudd ddiodlyn gwinllan Gwener.

Gwag oedd y cwpan, llawnion oedd calonnau
Trystan ac Esyllt; cochion eu gwefusau.
Dechreuai'r tân gyniwair trwy'u gwythiennau,
A'i wres ddechreuai losgi ar eu gruddiau.

"O Esyllt, beth yfasom? Gwin gwenwynig?
Mae'n rhuthro trwy fy ngwaed yn iasau ysig."

Ond mud oedd Esyllt, fel y seren dlos
A wyliai uwch ei phen yng nglesni'r nos;
Hi deimlai'r tân yn ennyn yn ei chalon,
A'i wres yn gwrido 'i grudd, yn chwyddo 'i dwyfron,

Ei chorff

 yn crynnu dan ei loesion melus,
A'i swynion yn parlysu ei hewyllys.
Gogwyddai 'i phen; a cheisiai guddio 'i llygaid;
Ond methai 'i gwallt gymylu 'u pelydr tanbaid.
A thraserch Trystan, wedi ei wallgofi,
Fel ufel mynwes Etna yn dylosgi.
Dynesai; ymddisgleiriai llygaid Esyllt,
Serch, dychryn, nwyd yn llenwi 'u dyfnder trywyllt;
Dychlamai bronnau'r ddau; ymwelwai 'u gruddiau;
Byrhâi, dyfnhâi, cyflymai 'u hanadliadau ;
Dygrynnai eu gwefusau:
"Esyllt:"
"Trystan :"
Gorffwysai'r dawel nos ar fynwes anian.



IV. YR ALLTUD.

Esyllt a Thrystan, cuddio'u caru'r oeddynt,
A chadwyn tynged ddu'n tynhau am danynt.


IV. YR ALLTUD.

Ymleda brigau serch yn uchder gwynfyd,
A'i wraidd yn treiddio i affwys dyfnder adfyd.
Grymusder serch a droa'r dyn yn dduw;
Rhy gyfyng terfyn daear iddo i fyw;
Hiraetha am heulwen desog bröydd hedd:
Ond creulon yw eiddigedd fel y bedd.

Ymwisgodd serch yng nghochl halog ystryw
Pan sangodd Esyllt ar arfordir Cernyw;
Fe'i darostyngwyd i briodas aflan:—
'Chadd March ond llaw, y galon gawsai Trystan.

Ond byr fu hedd y llys cyn torri o'r ddrycin:
Meiriadog graff wenwynodd fryd y brenin :
Ymchwerwai'i fron mewn blwng eiddigedd creulon;
A gorfu i Drystan adael llys ei galon,
A chludo 'i ing i ogof yn y coed
Mewn unig fan na welsai dyn erioed;
Ei farch, ei gledd, a'i delyn yn gymdeithion
I'r hiraeth trwm a feichiai'r oriau meithion.
A dybryd ydoedd tristwch Esyllt finfel;
Cashâi, ffieiddiai furiau hên Tyntagel ;
A mynnai adael castell balch y penryn
A byw mewn hafod dawel yn y dyffryn.


O'r goedwig heibio'r hafod llifai afon;
A Thrystan droes ei thonnau yn llateion
I gludo cwynfan loes ei fron hiraethlon
Yn gathlau serch at riniog mun ei galon.
A'r ferch yn gwrando murmur tonnau'r lli,
Tusw rhosynnau ddygent iddi hi;
Gwelodd ysgrifen Trystan rhwng y blodau;
Ac mewn amrantiad cododd hwy o'r tonnau.
Gwasgai'r rhosynnau rhwng ei serchog ddwyfron:
Darllennai'r gerdd i ddofi cur ei chalon.


"Aeth wythnos i wyll y gorffennol
Er pan y cusenais fy merch;
A chreulon filldiroedd a'm gyrrodd
Ym mhell oddiwrth riain fy serch.
Y corwynt fel ysbryd gorffwyllog
Ruddfanna ar riniog fy nrws;
Ond goleu anobaith fy mynwes
Wna cofio cusan fy nhlws.
"Bygythiol yw iaith y gogleddwynt,
A chwynfan ac ochain y mae
I geisio fy nenu i wrando
Darogan gofidiau a gwae;
Ei oergri ddolefus a wana
Fy nghalon ag iasau o fraw:
Myn daeru fod diwrnod ffarwelio
Am byth gydag Esyllt gerllaw.


"Orchfygir y cariad sy'n llosgi
Nes llenwi fy mywyd â chur?
Fyn Duw fy ngorfodi i adael
Y wendlos a gerais mor bur?
O, Esyllt, hudoliaeth fyw ydwyt,
'Dall neb beidio'th garu, fy merch;
Ond nid oes a'th går fel dy Drystan
Roi 'i enaid am swynion dy serch.

"Fy ngeneth mae 'nghalon yn torri
Mewn hiraeth am weled dy wedd;
Ocheneidiau fy mynwes dromlwythog
Sy'n pwyso fy ysbryd i'r bedd.
O, Esyllt, f' anwylyd, fy mhrydferth,
Fy lili oleuwen a hardd,
Dod heibio dy goron, a brysia
I'th gartref ym mynwes dy fardd."


Darllennai'r gân, a'r gwaed yn gwrido 'i gruddiau,
A'i dwyfron deg yn chwyddo dan y blodau.
Er rhwymo 'i chorff yng nghadwyn rydlyd deddf
Moesoldeb gau, nis gellid rhwymo greddf
Y galon a brofasai flas eiriasdan
Yr ufel ffrwd a losgai fywyd Trystan.

Ond er nas gall y byd garcharu'r ysbryd,
Gall rhwd y gadwyn gancro craidd ei fywyd;

A gwisgo'r gwir yn lliwiau angenrheidrwydd
Wenwyna ffynonellau diniweidrwydd.
Esyllt a Thrystan, cuddio'u caru'r oeddynt,
A chadwyn tynged ddu'n tynhau am danynt.
Bob dydd cyn wired ag fod dydd yn dyfod,
Doi blodau gyda'r dwr at ddrws yr hafod;
A llawer cerdd ym mynwes y llateion;
A chynllun llawer oed ar donnau'r afon.


Daeth marchog o Iwerddon,
Garasai Esyllt gynt,
Yn niwyg crythor crwydrol
I'r hafod ar ei hynt;
Cyffyrddodd ar ei dannau
Ryw gainc gyfriniol bell,
Gynhyrfai ddwfn ddyhead
Y fron am bethau gwell.
Ond ber ei gerdd: bron ddigon
I ennyn nerthol chwant
Am fwy o'r gain beroriaeth
A grynnai ar y tant.

"Moes, gerddor, fwy o'th gathlau
Perseiniol," meddai March,
"Pencrythor imi fyddi,
Cei urddas, ced, a pharch."
"Dy barch ni'm dawr," medd yntau,
"Nac urddas undyn byw;

Os caf a archaf, canaf,
Gwnaf erof fi a Duw."

A chymaint gwallgof awydd
Y brenin am y gerdd,—
Fe roisai nef ei enaid
I'r gwr o'r Ynys Werdd.

"Dygaf i Dduw fy nghyffes,"
Atebai gyda brys,
"Y cei y peth a fynnych."

Ei gân ddiddanai'r llys
Trwy gydol y nos honno;
Llawenai calon March;
Ac eb ef wrth y crythor,

"Ha, enaid, mae dy arch?
Fei cei os yn fy ngallu
Ar wyneb tir neu aig."

"Fy arch," atebai yntau,
"Yw Esyllt deg, dy wraig."

Syfrdanwyd March a dychryn;
A safai oerllyd chwys
Yn ddafnau ar ei dalcen:
Rhyfeddai gwyr y llys:


Ymwingai i geisio rywffordd
Ddod o'i gyfyngder certh
Trwy gynnyg aur a pherlau,
A gemau uchel werth.

A dirmyg ar ei wefus,
Diysgog fel y graig
Atebai'r crythor: "Dewis
D'anrhydedd neu dy wraig."

A chawsant yn eu cyngor
Roi Esyllt wen i'r gwr;
A chydag ef cychwynnodd
I lawr at lan y dwr,
Lle dawnsiai 'i long brydweddol
Yn rhigyl ar y lli,
A chyrchu 'i bwrdd yn ebrwydd
I adaw'n hynys ni.

Ond Trystan glybu'r gyfranc.
O'i ogof yn y coed;
A'i farch, ei gledd a'i delyn
Gymerodd yn ddioed.
Cyrhaeddodd fin y feisdon
Mewn unig anial fan;
A thannau 'i delyn seinber
Gwynfannai ar y lan.


Ac Esyllt glybu'r seiniau'n
Cwhwfan dros y don;
A'i chalon a lesmeiriodd
Yn swn melodus hon;
A thyngai wrth y marchog
Mai marw fyddai'i rhan
Os collai gwmni'r delyn
A ganai ar y lan.

Ac yntau heb amheuaeth brad
A droai'r llong yn ôl,
Ar feddwl ennill serch y fun
Trwy borthi 'i mhympwy ffôl.
Dychwelodd i berswadio'r
Telynor medrus mad
I dderbyn ei wasanaeth
A chefnu ar ei wlad.

Ac Esyllt a ymbiliai:
"O, tyred gyda ni;"
Ond "gwared fi o'i ddwylaw"
Oedd iaith ei llygaid hi.
A flachiodd cilwg Trystan:

"Ymaith, anghenfil rhwth,
Fy nhelyn aur a bia'r ged
Enillaist ti a'th grwth."


Ag Esyllt yn ei freichiau
Rhoi lam ar hoew droed
I'w gyfrwy mewn munudyn,
A gwanu tua'r coed.
Y marchog mewn syfrdandod
A safai ar y traeth;
Ond Trystan gyda'i drysor
I'w ogof gudd a ddaeth.

Mor ddedwydd ail gyfarfod
Ar ôl gwahanu erch;
Mor felus ymanwylo
Ac yfed ffrydiau serch
Ar ol unigrwydd llethol
Heb neb i wrando cwyn:
Ond ni raid adrodd hanes hyn
I'r sawl adnabu 'i swyn.

Gorweddai, hunai Trystan,
A'i rudd ar fron ei fun;
A'i nefoedd hi oedd gwylio
Yn dyner dros ei hun;
Anwylai'i wallt gwineuddu,
A harddwch teg ei bryd:
Ond cuddier hanes cywir serch
Rhag llygad oer y byd.


Cyflymai'r dyddiau heibio
Ar edyn euraidd chwim:
O derfynedig wynfyd,
Nid ydyw'n para dim.
Bradychwyd eu cyfrinach ;
A chyrchu Esyllt wnaed;
A Thrystan yn ffoadur
A gwobr am ei waed.
Ond cawsant orig ddwyfol
Yn nwyfiant ieuanc hoen;
A mynnai serch fod honno'n
Gorbwyso bythol boen.



V. YR HWYL DDU.

"O Esyllt, goleu'm llwybyr a dy wenau,
Rho im' dy law yn niwloedd cysgod angau.
O Esyllt, Esyllt, croesa'r eigion garw,
Cusana dy anwylyd cyn ei farw."


V. YR HWYL DDU.

Blinedig donnau eigion môr Iwerydd
O'u maith grwydriadau geisient eu dihenydd
Lle safai priflys yn eu dwndwr distaw
Ar greigiau geirwon heulog feisdon Llydaw.
A brenin drigai yn y caerau beilchion
Ac un ferch iddo, Esyllt Ddwylo Gwynion.

I'r priflys hwn y daethai'r alltud, Trystan,
A chalon drom o grwydro'r ddaear lydan.
Tu fewn i ddyn mae uffern, nid tu allan;
I ble y ffoa gwr oddiwrtho 'i hunan?
Er croesi tir a môr ei boen oedd ffyddlon;
Ddiffoddai llid y don mo dân ei galon.

Er pan yn Llydaw gorchfygasai alon
Y llys, a chawsai serch yr holl farchogion.
Ymboenai'r brenin weld ei wyneb prudd,
A nychdod gwelw anobaith ar ei rudd.
Ac Esyllt wyliai ing ei ddirgel drallod,
A'i chalon roddes iddo heb yn wybod :
Nis gall y tafod llyfn ond goglais serch;
Cudd boen y dewr sy'n cyffwrdd calon merch.
Ond dall oedd ef i ieuanc wrid ei gruddiau,
A'r tresi aur a guddiai ei hysgwyddau,

Ei dwsmel lais, a hedd ei llygaid gleision:
Na'r melyn haul mwy swyn y nos gysgodion.
A thua Chernyw bell y crwydrai 'i dremyn
Wrth suo cynni 'i fron yng nghlust ei delyn:


"Mewn priflys ar glogwyn yn ymchwydd y don
Mae'r rhiain a garaf fi;
Fy nghalon sy'n friwdoll o hiraeth am hon;
A dwyfol baradwys dymuniad fy mron
Yw priflys murmuron y lli,—
Yw'r castell yn suon y lli.

"Grasusol yw gosgedd, melodus yw llef
Mireinferch fy enaid i
Fel siffrwd adenydd angylion y nef
Wrth wylio cynddaredd y dymestl gref
Ym mhriflys cyfaredd y lli,—
Yn y castell yn suon y lli.

"Fy ngofid a gwyna fy nhelyn, a'i bwys
Sy'n llethu ei thannau hi;
A denfyn fy ysbryd ochenaid ddwys
Am heulwen y gwenau genethaidd a glwys
Sy 'mhriflys hafdesog y lli,—
Yn y castell yn suon y lli.

"Gorchuddiodd cymylau anobaith fy mhen;
Machludodd seren fy mri;

Unigrwydd yr alltud ogwyddodd fy mhen,
Ond methodd ladd traserch am fanon wen, wen,
Y priflys wrth ewyn y lli—
Y castell yn suon y lli.

"Mae anadl marwolaeth yn llwydo fy ngwedd;
Edwina fy mywyd i;
Diflasodd melusder y cerddi a'r medd
O'm traserch am Esyllt deyrnasa ar sedd
Urddasol hên briflys y lli,—
Y castell yn suon y lli.
"Mae anadl marwolaeth yn oeri fy ngwedd,
A'm cân sy'n angeuol gri;

Dduw'r gloewnef, dychwel fi i orffwys mewn hedd
I ddagrau fy Esyllt gael gwlychu fy medd
Ym mhriflys murmuron y lli,—
Yn y castell yn suon y lli."

Gwrandawai Esyllt o'i hystafell gudd
Ar acen calon drom y marchog prudd;
A'i mhynwes ddidwyll gredodd mai hyhi
Oedd Esyllt wen y priflys wrth y lli.
Gofidiai weld ei chariad yn dihoeni;
Cashai ei hun am iddi erioed ei boeni.
Llawenydd serch a ganai yn ei chalon;
A pherliai dagrau yn ei llygaid gleision.


Nid hir y medrodd gadw 'i chyfranc fad,
Yn gynnil iawn mynegodd hi i'w thad;
A meddwl syml y brenin lawenychodd:
Priodas Trystan gyda'i ferch gyhoeddodd.
Mewn pembleth yntau ofnai, trwy nacâu,
Ddirmygu ei garennydd a'i sarhau;
A merch y castell teg ar fron y graig
Gymerodd iddo'n briod,—nid yn wraig:
Aur fodrwy Esyllt Cernyw, yn y llys,
Fel cylch o dân a losgai am ei fys;
Yr haul a ddiffoddasai yn ei nef;
Ac yn y neithior tristaf gwr oedd ef;
Ni ddorai ei anobaith beth a ddeuai:
Gorweddle laith marwolaeth a ddymunai,
Nid gwely cariad Esyllt Ddwylo Gwynion.

Y cefnfor ruai gollfarn tynged ddigllon,
A gruddfan dwfn y gwynt fel oergri'r colledigion.

Y dyddiau chwerwon,—dafnau duon amser,
Arteithient enaid Trystan; ciliai cryfder
Y fraich fu gynt yn dychryn meibion brad
Wrth wasgar dinistr du mewn llawer cad.
Esmwythai Esyllt eurwallt ei obennydd,
A'i dagrau mud yn gwlychu 'i gruddiau beunydd.
Ond briw i'w fron oedd gweld ei dwylaw gwynion:
Am Esyllt arall y newynnai 'i galon.


Ymlusgai'r dyddiau heibio yn y castell;
A phwys pob nos wnai'r marchog yn fwy musgrell;
Llwyd lenni'r bedd a wisgai 'i wyneb glân;
A phylai'r llygaid gynt a fflachiai dân;
A phan lefarai, yn ei eiriau tru
Sibrydai murmur bloesg yr afon ddu.
Ei wely wyliai 'i ffyddlon yswain, Dyfnant,
Na dydd na nos ni cheisiai hun i'w amrant;
Dymunai pe gallasai farw drosto;
A thorrai 'i galon wrth ei weld yn gwywo.
Dywedai Trystan:
"Isel yw fy mhen;
Fy yswain hoff, mi garwn weld y nen
Lle croga'r nos uwch nwyd y drystiog don
Fel darlun nos anobaith ar fy mron."

A mwynder merch cymerai ef i'w freichiau
A'i gynnal wrth y ffenestr a chlustogau.
I'r gogledd troai 'i dywell drem uchelryw
I'r gwyll a guddiai benryn anwyl Cernyw.

Y gwynt sisialai gerddi'r gwyn orffennol,
A rhuai'r môr alargan y dyfodol.

"O Esyllt, Esyllt, O, fy nghariad gannaid,
Anadl fy einioes, anwyl loes fy enaid,
Pa le yr wyt? A ydyw'th galon di
Yn llawn gobeithion meirwon fel f'un i?


Fel cawod ar gras dywod yr anialwch
I'm hysbryd fyddai cwmni dy ddiddanwch.
O na chawn eto deimlo gwres dy wenau,
Mwy fyddai im' na thoriad gwawr i'r blodau.
O na chawn ddrachtio paradwysol rin
Anfarwol neithdar serch dy felus fin;
A gorffwys lle y cura'th galon gynnes,
A huno byth ym mheraroglau'th fynwes.
O Esyllt, goleu'm llwybyr a dy wenau,
Rho im' dy law yn niwloedd cysgod angau.
O Esyllt, Esyllt, croesa'r eigion garw,
Cusana dy anwylyd cyn ei farw."

Taranai'r môr fygythion tynged ddofn,
A chrynnai'r gwynt fel calon lawn o ofn.

"Dos, Ddyfnant, yn fy llong i benryn Cernyw;
Ac fel marsiandwr danfon rodd i'r penllyw;
Ac i'r frenhines anfon euraidd gwpan;
A dod yng ngwaelod honno fodrwy Trystan.
Adnebydd hithau hi a daw i'th geisio
A'th holi; erfyn dithau arni frysio
I leddfu marwol gur y gwr a'i carodd
A serch nas dichon cysgod angau 'i ddiffodd.
Os daw, caf arwydd, bydd dy hwyl yn gannaid:
Os na,—boed ddu, fel hanner nos fy enaid."


A'r yswain ufuddhâi. Ond clybu Esyllt,
A'i hysbryd lanwyd ag eiddigedd nwydwyllt;
Os cryf ei chariad, creulon ei heiddigedd.
A gwenwyn lond ei bron, mewn prudd unigedd,
Hi wyliai wên cysgodau'r serch freuddwydian
Lesmeiriai yn nyfnderau 'i lygaid duon.
Aeth nos a dydd a bron i eilnos heibio;
A'r lloer rhag ofn y dydd ddechreuai lwydo
A chuddio'i phryd; a chrynnai'r wawrddydd firain
Yn oerni'r nos wrth agor pyrth y dwyrain.
Deffroai Trystan o'i freuddwydion melus,
A galwai'r dywysoges yn gynhyrfus:

"Er mwyn y nefoedd, Esyllt, dos i wylio
Ai nid oes llong o'r gogledd draw yn hwylio;
A dywed im' pa liw sydd ar ei hwyliau:
Mae'r dwyfol dân a gerdd trwy 'ngwythiennau
Yn dweyd fod Esyllt Cernyw yn dynesu
Ac y caf eto 'i gweled a'i mhynwesu."

A'r dywysoges gerddai at y ffenestr,
A nwyd galedai 'i chalon megys callestr.
Hi welai long ym mhell, a'i hwyl yn wen,
Fel adain alarch rhwng y môr a'r nen.

"Mi welaf long yn cerdded dros y gorwel,
A bron ei hwyl yn chwyddo yn yr awel."


"O Dduw, nacâdd fy Esyllt hardd mohonof,—
Ond beth yw lliw yr hwyl?" ymholai'n wallgof.

Gwenwynig nwyd oedd yn ei bron eiddigus;
A chrynnai celwydd ar ei mhingul wefus.

"Du," meddai: soddai'r gair fel cledd i'w ddwyfron;
A'i anadl olaf fferrodd waed ei galon.

Prysurai'r llong i'w thaith ar frig y wendon,
Fel gwylan wen yn hedeg tros yr eigion;
Ac Esyllt ar ei bwrdd mor wen a'r eira
Fantella oesol drumau'r Himalaya.
Ciliasai ieuanc wrid ei grudd delediw
Dan bwysau bri ac urddas coron Cernyw;
Gadawsai tristwch ar ei phryd ei olion,
A dwysder yn nyfnderau'r llygaid duon;
Ond tlws ei gwefus eto fel y rhos,
A'i hirwallt du fel cysgod llaes y nos.
Rhifai funudau'r daith o awr i awr
A grudd mor oer a llwyd a'r ieuanc wawr
A lithrai'n araf dros y tonnau weithian
I ddangos muriau'r gaer lle trigai Trystan;
Hoeliai ei llygaid arnynt yn y pellter,
A chariad yn serennu yn eu dyfnder;
A theimlai 'i thraserch yn ei angerddoldeb
Y funud fach mor hir a thragwyddoldeb;

Cynhesai'i gwaed; dychwelai gwrid i'w gruddiau;
A dawnsiai'r llong yn chwimwth ar y tonnau.

Yn llwydni'r wawr tarawai'r llong y traeth;
Ac Esyllt hardd i borth y llys a ddaeth.
Hi glywai yno alar ac wylofain
Ac anhrefn dybryd dychryn a dolefain;
A theimlai anadl angau ar y rhiniog,
A chri'r galarwyr fel picellau miniog
Yn brathu 'i bron ag iasau oer y bedd;
A gwelwder llaith marwolaeth wisgai 'i gwedd.
Brysiai i ddringo grisiau maen y castell;
Fel cysgod gwyn ymlithrai i'r ystafell;
A gwelai'r gwr a garai'n well na'i henaid
Yn farw fud ym mhlyg y cwrlid cannaid,
A thragwyddoldeb yn ei lygaid duon
Yn tremio tua chartre'r nos freuddwydion.

Murmurai'n syn uwchben ei wedd wywedig
Acenion dwys ei chalon drom doredig:

"Fe'm carodd mal y câr yr haul y ddaear:
Bedyddiodd fi a gwres ei fynwes hawddgar;
Fe'i cerais ef mal câr y lloer yr aig
I'w yrru a'i guro'n greulon ar y graig.


O, Drystan, Drystan, gwrando gri fy alaeth;
A derbyn fi ar genlli ddu marwolaeth."
Ymgrymodd a gorffwysodd ar ei ddwyfron;
A thorrodd cusan ola'i serch ei chalon.
Ei thresi duon guddiai wyneb Trystan
Fel amdo'r oesol nos ar fynwes anian;
A'r marwol wlith ar bedair gwefus oer
Mor dlws a blodau'r bedd dan gusan bell y lloer.




CANIADAU ERAILL.


"Pwy sy'n nyddu yn y dyfnder
Ddefnydd holl ramantau dynion?
Pwy sy'n gwau holl liwiau amser
Mewn bwriadau a breuddwydion?
Peth yw'r darn o fywyd welir
Wrth y darn ofnadwy deimlir?
Gwelid ped agorid bron
Nef ac uffern byd yn hon."

W. J. Gruffydd.


I.
LLWYBRAU BYWYD.

Mae ynys werdd yng nghefnfor poen;
Ac awel falm gwanwynol hoen
Gusana'r blodau ar ei bron
Yn swn galarnad prudd y don.

Ar fron y nos mae seren gu;
A deilen werdd ar ywen ddu;
Yn oergri'r gwynt ceir goslef hedd;
A blodyn gobaith dyf o'r bedd.

Tywynna'r haul yng nglesni'r nen
Pan ddua'r cwmwl gylch fy mhen;
Ac heb gynddaredd tymestl gref
Ni welid enfys yn y nef.

Try barrug llwyd y cyfnos prudd
Yn emau claer ar doriad dydd ;
A pherlau gloewa'r nefol wawr
Fydd heilltion ddagrau'r cystudd mawr.


II.
Y CRWYDRYN.

Crwydro i'r mynyddoedd duon
Wnaeth y teithiwr yn y nos,
Nos gymylog dywell niwlog,
Nos heb wên un seren dlos;
Noethlwm greigiau miniog creulon
Yn ymgodi ar bob llaw,
Oergri'r corwynt yn ei glustiau,
Ar ei ruddiau oerni'r glaw.

Gobaith gwanwyn a giliasai,
Diflanasai glesni'r ha;
Cyn cynhauaf daethai'r gauaf
Gyda'i ddeifiol farwol chwa;
Gweledigaeth gobaith gawsai,
Breuddwyd hun y gwanwyn gwyn;
Ond y deffro ddaeth yn nhywyll
Gysgod angau yn y glyn.

Ffordd y glyn arweinia'r teithiwr
I oror du'r affwysol nos;
Gwisgoedd gwynion diniweidrwydd
A lychwina llaid y ffos;

Drain yr anial rwyga 'i ddwylaw;
Min y meini edy graith;
Gwaed y galon ddengys lwybrau'r
Crwydryn unig ar ei daith.

Cenfydd gysgod tlws gwybodaeth
Draw a theimla 'i hudol swyn;
Cwyd ei law a'i lef i ddeisyf
Ar i'r dduwies wrando 'i gŵyn.
Cred yr etyb ei gwestiynnau,
Anhawsderau llwybrau'r nos;
Dringa'r graig, cofleidia wagter
Cysgod y ddrychiolaeth dlos.

Wedi'r siom, melusfwyn furmur
Dyr yn dyner ar ei glyw;
Cariad merch, yng nglyn y dagrau,
Fwyned a dwyfoled yw;
Esmwythâ'r anialdir garw,
Planna drosto flodau lu:
Ust, diflanna'r llais, a'r blodau
Wywant is yr ywen ddu.

Dyrnod damwain, cernod tynged,
Beunydd bellach glwyfa 'i ben;

Ond ni phlyg er disgyn arno
Rym rhyferthwy bolltau'r nen.
Anweledig a gwenwynig
Yw'r picellau wana 'i ais,
Ond anfarwol yw ei gryfder,
A herfeiddiol yw ei lais.

Daw at lannau môr yr oesoedd,
Tremia i'w bellterau llaith
Dros y tonnau am oleuni
Ar ddyryswch llwybrau'r daith.
Prun ai eiliw breuddwyd maboed
Gollodd yn y ddunos hell,
Ynte arlliw 'r wawr dragwyddol
Lwyda wyll y gorwel pell?



III.
BWTHYN Y BARDD.

Er lleted wyneb byd yr ocheneidiau,
Ystâd neu balas balch ni feddaf un;
Ond meddaf fwth mewn gardd ar fron Eryri
Sy'n eiddo llwyr a llawn i mi fy hun.

Nid moethus ac nid gwych mo hendre'r prydydd,
Syml a diaddurn yw ei bedwar mur;
Ni chlywir yno grechwen coeg fursendod,
Nac ochain calon drom dan lwyth o gur.

Ei awyr sydd yn llawn o bersawr blodau
A difyr gerddi adar mân y fro;
A rhesi meini mynor sydd o'i amgylch
A glesni ir y ddaear ar ei do.

Arweinia'r haf awelon i ymdonni
Ym mrig y glaswellt hir orchuddia'r gwrym;
A thaena'r gauaf fantell ei sancteiddrwydd
I'w guddio rhag dyrnodau'r corwynt llym.

Diogel a digyffro ei breswylwyr
Yng nghadarn ofal distaw Ior yr ardd;"

Gorffwysant a breuddwydiant am ardaloedd
Lle bydd yr hên yn ifanc ac yn hardd.

Blodeua'r ardd yng nglyn y dychryniadau
Dan gysgod llaes a syn hen ywen gam:
Y mynor nadd yw meini mud y fynwent,
A'r bwth yw'r bedd lle cwsg fy nhad a 'mam.


IV.
DADL SERCH.

Paham, fy anwylyd hardd,
Na chredi lwon fy min?
Mwy hudol dy wên i'th fardd
Na'r neithdar dwyfol ei rin.

Nid prin mo drysorau'r gwin,
Pam mynni, fy nhlws, eu cloi
A'm cadw mewn syched blin
A chennyt gymaint i'w roi?

Yr awel gofleidia'r rhos,
A'r lloer sy'n cusanu'r lli;
Paham, fy anwylyd dlos,
Gomeddi fwynder i mi?

Esmwytho fy ngofid a 'nghur
Wna lledrith dy landeg lun;
A chusan dy wefus bur
Sy'n arial i 'mywyd, fun.


Tydi bia f'einioes i gyd,
A wyt yn ameu fy serch?
Aberthais obeithion y byd
I brynnu dy gariad, ferch.

Nid cellwair yw serch i mi,
Ond gorlif ysgubol don;
Nid chwarae mo'th geisio di,-
Mae'r gair yn brifo fy mron.



V.
LLATAI.

Dyma'r blodau, gwrando'u neges,
Gwêl eu lliwiau hardd;
Gwyn a gwridog, pur a gwresog
Megys serch dy fardd.

Pwysau'r neges wywa'r blodau
Yn dy law, fy merch;
Cwyno maent mor drwm a chreulon
Ydyw swynion serch.



VI.
HIRAETH AM OLWEN.

Fe rua'r wendon heno
Rhwng Olwen deg a mi;
Ond myn fy meddwl grwydro
I chwilio am dani hi.

Anfonaf awel esmwyth,
Tros donnau'r eigion hallt,
I wylio hun ei hemrynt,—
I orffwys yn ei gwallt;

A suo cwyn felusddwys
Unigedd prydydd prudd,
A'r hiraeth draetha 'i hanes
Mewn dagrau ar ei rudd.

A'r lleuad wen sy'n caru
Mynyddoedd Cymru gu
Gaiff wisgo breuddwyd Olwen
Yn lliwiau'r amser fu,—


Yr amser diofal dreuliwyd
Mewn llawer melus hynt
Ar lwybrau grug y mynydd
Yn nwyf y dyddiau gynt.

Aeth heibio'r oriau hynny,
A'r beddrod ddaeth yn nes;
Ond nis gall serch heneiddio,
Na chariad golli 'i wres.



VII.
GWELEDIGAETH OLWEN.

A mi yn niwl un nawn yn crwydro'n brudd
Damweiniodd gweledigaeth ar fy oes,
A thrymder tristwch rhag ei glaned ffoes,
A gwrid ail fywyd ddaeth i liwio 'ngrudd.

Mi welwn gyfoeth tlysni deunaw oed
Ar degach pryd na blodau'r afal bren,
A gwallt mor ddu a'r muchudd ar ei phen,
A meillion glân yn tyfu'n ôl ei throed.

A gosgedd duwies rhoddodd im' ei llaw,
Ei llais fel swyn ddisgynnai ar fy nghlyw,
Mewn gwên ymloewai 'i llygaid duon hardd;
O flaen ei goleu ciliodd niwl a glaw,
A thwnnodd haul i beri imi fyw
Byth mwy i'r delediwaf ferch yn fardd.


VIII.
CARIAD YSBRYD Y MYNYDD.

Fe garai ysbryd y mynydd
Frenhines y tylwyth teg;
A mynnai groesawu beunydd
Ei dlws ar ei fynwes freg;
Heb newid na chysgod eiddigedd
Y carai'r fireinfun lon;
A hyawdl fudandod unigedd
Oedd iaith cyfrinach ei fron.

Preswyliai'r forwyn frenhinol
Wyryfol briflys y llyn;
A gwisg ei harddwch cyfriniol
Oedd sidan y nifwl gwyn;
Lluniasai Gwener ei bronnau,
Cyn wynned a blaenion y lli;
A gwamal fel tyniad y tonnau
Oedd traserch ei mhynwes hi.

Cusanodd wefusau'r blodau
A dawnsiodd yng ngerddi swyn;
Gwirionodd ym melus nodau
Sibrydol serchiadau'r llwyn;

Gadawodd ei brenin tawel
Ym meddwol ledrith yr haf,
Ar fraich ddiofal yr awel
Dan wên y melyndes braf.

Pan wywodd y blodau brig dansi
Dan anadl hydrefol wynt,
Atgofiodd y wamal ei ffansi
Y serchog a'i carai gynt:
Cashaodd ei ffals gariadau,
A thorrodd ei chalon ffôl;
A'r ysbryd anfonodd genhadau
A chroeso i'w dlws yn ôl.



IX.
GLAN Y MOR.

[O'R ALMAENEG.]

Dod allan mae y lleuad
I dwnnu ar y don;
Cofleidiaf finnau 'nghariad,
A chwydda serch ein bron.

Ym mreichiau'r eneth finfel
Gorffwysaf wrth y lli:
"Beth glywi'n suon yr awel?
Pam crynna'th law wen di?"

"Nid suon yr awel mohonynt,
Ond canu'r morwynol gôr:
Chwiorydd imi ydynt
A lyncodd gwanc y môr."


X.
CERDD YR YSBRYD.

F'anwylyd, 'rwy'n dy weld yng nghysgod prudd
Yr ywen leda 'i brigau tros fy medd;
A gwelaf bang dy alar ar dy rudd,
A hiraeth calon drom yn llwydo'th wedd;

A chlywaf ocheneidiau'th ofid trwch,—
Y gofid frithodd fuchudd mwyth dy wallt;
A gwyliaf di yn plygu uwch fy llwch
I wlitho'r glaswellt gyda'th ddagrau hallt.

Hiraethu 'rwyt am ran o'm gwely oer,
Pan lithri ataf yn unigrwydd nos,
Heb neb yn gweled ond y wyryf loer,—
lloer a wyliai'n caru gynt, fy nhlos.

A minnau'th gariad, ysbryd rhydd wyf fi,
Ac nid y bedd yw'm cartref, Olwen wâr;
Diflannai cur dy fron pe gwyddet ti
Agosed atat ydyw'r neb a'th gâr.


F'anwylyd, 'rwy'n dy weld yng nghysgod prudd
Yr ywen leda 'i brigau tros fy medd;
A mynnwn weld rhosynnau ar dy rudd,
A gwrid ieuenctyd yn mantellu'th wedd.



Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ben Bowen
ar Wicipedia

XI.
BEN BOWEN.
[IN MEMORIAM.]

Wylo wna'r awen ar fin ei hawenydd
Am gau'r gloewon lygaid lle flachiai ei thân:
Angau ddistawodd felysdon llawenydd,
A thorrodd y delyn yng nghanol y gân.

Anadlodd y barrug ar obaith ei flwyddyn;
Cusanodd y dail a gysgodai ei rudd;
Gwridasant, a lleithder yr hydref aeth trwyddyn':
Machludodd yr haul yn ieuenctyd y dydd!

A minnau, ei gyfaill, alaraf gymeryd
O angau 'nghydymaith a heriai ei fraw:
Y fynwes a'm carai sy'n oer yn y gweryd,
A marw yw'r bysedd a wasgai fy llaw.


XII.
CERDD YR HYDREF.

Gwywa, gwywa rhosynnau diddanwch,
A'r hydref a dry yn auaf llwm;
Cilia, cilia cerddi difyrrwch,
Egwan eu heco yng nghreigiau'r cwm.

Gwyw, O mor wyw, lliw'r manddail wrth farw:
Torri ei chalon wna awel swyn:
Cilia'r blodau o'r dymestl arw;
A thrist a distaw yw côr y llwyn.

Ataf mewn hun daeth adlais dy enw
Fel cusan esmwyth anadl y chwa;
Eto fe erys atgof dy ddelw
Wedi'r ymedy rhosynnau'r ha.


XIII.
IN TIR-NA'N OG.

Gorffennol oes sy'n mynd yn hwy o hyd,
A'r haul yn prysur deithio cylch y nen;
Amlhâ'r edafedd arian ar fy mhen;
Ac amser gerfia 'i stori ar fy mhryd.

Ond nis gall cariad Olwen fynd yn hên,
Er medi dedwydd gnwd cynhauaf llawn
A chywain i'r ysgubor aeddfed rawn
Addawodd blodau'r gwanwyn yn eu gwên.

Er oerni'r bedd, a phwysau oesau fyrdd,
Clir a digwmwl fydd ei lasliw nef;
Ei brennau deiliog bery'n fythol wyrdd;
Blodau paradwys hulia 'i lwybrau ef.

Yn nhir Ieuenctyd saif ei hendre werdd
A chyngan swyn ieuenctyd leinw 'i gerdd.


XIV.
BLODAU GALAR.

Yma mae blodau'n gwywo,
A rhywun o hyd yn glaf;
Tu hwnt i'r glyn blodeuo
Mae'r dwyfol haf.

Gwywodd lili ddaearol
Yn oerion awelon y byd;
Blagurodd lili nefol
Yr un pryd.

Torrodd telyn fach beraidd
A ganai'n felus mewn poen,
Chwanegwyd telyn euraidd
Yng nghôr yr Oen.

Dros dywyll derfyngylch amser
Machludodd seren fach wen,
I wasgar ei goleu tyner
Mewn gloewach nen.


Wylo dagrau hiraethlon
Gawn ni ar raian dy fedd;
Cei dithau byncio alawon
Bro'r oesol hedd.

Ond wedi'r hiraeth a'r galar
Cawn eto gyfarfod i fyw;
Cyfannir rhwygiadau'r ddaear
Yng ngwynfa Duw.



XV.
AR LANNAU'R TAWELFOR.

Ar lannau'r Tawelfor eang gwyrdd,
Lle'r heria bywyd ormes y bedd,
Lle tyfa'r palmwydd yn fil a myrdd
Heb hydref blwng i heneiddio'u gwedd.

Eisteddaf a theimlaf ar fy ngrudd
Freuddwydiol gusan y chwa ddi-lef;
A gwelaf y nos yn gorchfygu'r dydd,
A gwaed y machlud ar odreu'r nef.

Copäu'r Sierras ymgyfyd draw
Dan goron oesol o eira claer,
Lle llifa afonydd di-rif, di-daw,
Tros lydain welyau o dywod aur.

'Rwy'n llesg ac unig a phell o'm bro,
Ar draeth anghysbell fy ngwallgof hynt;
Ond egyr anian drysorau'r co,—
Melusfwyn brofiadau'r dyddiau gynt.


XVI.
PENILLION.

I anghofio 'mhoen a 'mlinfyd
Canaf bennill i f' anwylyd,—
Pennill serch i'r lili wenfron
Roes ei delw ar fy nghalon.

O'rwy'n cofio 'i gwenau serchog,
Llygaid du a gwallt modrwyog,
Cofio'i geiriau tyner melus,
Cofio'r mêl sydd ar ei gwefus.

Llym yw min fy mhrofedigaeth,
Oer yw tonnau siomedigaeth,
Eto'r wefus honno'n gwenu
Dry fy nghwyn yn ffrwd o ganu.

Dianc wnaeth pan ddaeth yr hydref,
Fel y wenol oddicartref;
Blodau'r haf oedd hi yn garu,
A gadawodd fi i alaru.


Ddoi di eto'n ôl, Riannon,
I ddringo creigiau gwylltion Arfon,
I anadlu'r byw awelon
Ac i byncio'r hên alawon?
Daeth yr eirlwys at fy mwthyn

Ag addewid am y gwanwyn;
Dwed fod haf yn dod i Gymru,
A chyda'r haf y ferch wy'n garu.



XVII.
AR Y FORDAITH.

Ai helbul a siom ac adfyd
Yw'r cyfan sydd ar fy rhan?
Tu hwnt i ystormydd bywyd
Onid oes gilfach a glan?

Er lleidio'r dwr mae'n treiglo
I buro ei hun o hyd;
A genir y blodau amryliw
Ym marw bridd y byd.

O ddyfnder y caddug oesol
Y pefria'r seren uwchben;
A chysgod y cwmwl duaf
Yw cartref y fellten wen.

Fy llygaid fydd ar y seren
I'm harwain i ben y daith;
A llewyrch y fellten lachar
Gaiff ddangos fy llwybyr llaith.


XVIII.
EBRILL.

Y gwanwyn ymwisga yng nglesni'r nef;
A'r ddaear ymddiosg o'i hamdo gwyn;
Blagura canghennau'r dderwen gref;
A'r oenig sy'n prancio ar ddôl a bryn;
Mae euraidd ymylau
I'r duon gymylau;
A'r heulwen gusana friallu'r fron;
Ffodd rhewynt a barrug
Y gauaf oer sarrug
Ac anian gariadlon sy'n deffro'n llon.

Dan ormes teyrnasiad y gauaf llwm
Aeth cerddi melyslais y llwyn yn fud,
Ond heddyw'r ehedydd a diwnia'n y cwm,
A'r fronfraith a'i hetyb o goed y rhyd.
Y gwcw, a'r wenol,
A'r fwyalch hamddenol,
A newydd lawenydd yn llond eu bron,
Freuddwydiant am uno:
Mae serch yn dihuno
Defosiwn eu mynwes i'r tlws a'r llon.


A meddwol brydferthwch mae blodau'r ardd
Yn swyno eu gilydd o gylch fy nrws.
Mae Olwen yn synnu fod Rhys mor hardd,
Ac yntau'n rhyfeddu fod Lol mor glws.
Er gwaethaf gofalon
Ysgafned yw'r galon
A dawns yr awelon ar lesni'r don.
Mae'r niwl yn diflanu,
A'r adar yn canu,
Ac Olwen a'i chymar yn llon, yn llon.



XIX.
DEILEN HYDREF.

Crwydro wnes hyd lan Tryweryn
Yn yr hydref llwm,
Heb gydymaith ond yr awel
Gwynai yn y cwm.

Gwelwn bren a'i ddail yn gochion,
Gwrid ar rudd pob un;
Tynnais un, er mwyn ei thlysni,
'N anrheg i fy mun.

Wrth edmygu ei phrydferthwch
Teimlais ias o fraw,—
Angau roisai wrid i'r ddeilen
Ddaliwn yn fy llaw.

Anadl oer a llym yr hydref,
Cusan angau yw,
Dawnsia'r awel trwy'r canghennau,
Gedy'r dail yn wyw.


Gwerdd fu hon fel ei chyfoedion
Yn y gwanwyn llon;
Ymbriodi gydag angau
Ddaeth a gwrid i hon.

Gwael a dirmygedig ydyw
Bywyd llawer un,
Ond rhydd angau anfarwoldeb
Ar ci olaf hun.

Prun yw'r tlysaf,-priod liwiau
Bywyd ar ei sedd,
Ynte'r arlliw wrid brydfertha
Welwder y bedd?



XX.
Y BEDD DAN FY MRON.

Dan gysgod y brudd gypreswydden
Ymguddiaf o olwg y byd;
Nos fythol heb belydr seren
Ordoa fy enaid i gyd.
Mae caddug amheuaeth ac oerni marwolaeth
Yn gorlenwi'r galon fu unwaith yn llon,—
Bedd disglair freuddwydion yw'r bedd dan fy mron.

Pan gollais gyfoedion caruaidd,
Pan wylais ar raean eu bedd,
Gobeithion a'u goleu angylaidd
Ddanghosent fro gwynfyd a hedd;
Ond canmil mwy'r alaeth pan laddodd marwolaeth
Anwylaf obeithion y galon lawn hon,―
Bedd ieuainc freuddwydion yw'r bedd dan fy mron.

Rhy lawn yw dygyfor y galon
I'r awen fynegi ei haeth,
Mae tonnau mor bell yn yr eigion
Na chlywir mo'u llais ar y traeth;

Acenion dyfnderau anhysbys bellterau
A dyr ar y glust ym murmuron y don,-
Bedd engyl freuddwydion yw'r bedd dan fy mron.

Ond ni ddwg un gelyn yn anrhaith
Yr ysbryd anfarwol a rhydd;
Mi sarnaf ar falchder anobaith
A chreaf o'r nos oleu'r dydd;
Fy mysedd ar dannau melysber delynnau
Ddeffroant alawon perseiniol a llon
I swyno'r breuddwydion o'r bedd dan fy mron.



XXI.
PRIFLYS Y GWYLLNOS.

I lawr i briflys y gwyllnos
O'r byd y crwydrodd y bardd,
Lle'r eistedd ysbrydion breuddwydiol
Ar seddau o farmor hardd;
Brenhines gororau'r cysgodion
Sydd yno'n arlwyo gwledd
O seigiau marwolaeth mewn bywyd,
A gwinoedd perllannau'r bedd.

Prydferthach brenhines y gwyllnos
Na'r lili yng ngerddi'r glyn,
Ei mynwes sydd ddwyfol luniaidd,
Ac oer fel y marmor gwyn;
Pob un a welodd ei thlysni
Fyn yfed o gariad hon,
Er gwybod fod swyn ei gwenau
Yn fferru ei waed tan ei fron.


Y gwanwyn yng ngwisgoedd yr hydref
Ni ŵyr am wyrddlesni'r haf;
A gwelw yw gruddiau'r holl ddeiliaid,
Anobaith wna'r galon yn glaf;
Heb haul yn codi na machlud
Mewn gwyll y breuddwydiant hwy.
O Dduw, ai prilys y gwyllnos
Fydd cartref fy ysbryd mwy?



XXII.
AFON Y NOS.

Trwy froydd breuddwydion hud
Y llifa afon y nos;
A ffrydiau'r meddyliau mud
Ymdroellant mewn gwaen a rhos.

Ymdywallt wna'r llif di-hedd
O gaddug yr oesau fu,
Ac aber ceulannau'r bedd
A'i gollwng i'r cefnfor du.

Fe droir yn freuddwydiwr syn
Pwy bynnag a ddrachtio'r dwr;
Unigrwydd cysgodau'r glyn
Fydd bythol aneddle'r gwr.

Yn wylaidd estynna 'i law
I chwilio'r gyfrinach ddofn,
Dan deyrnged i frenin braw
Yn nheyrnas y barnol ofn.


Ond cilio wna'r gobaith cu,
A goleu'r addewid dlos:
Cyfaredd y gwpan ddu
Sy'n nyfroedd afon y nos.



XXIII.
Y BREUDDWYD.

Mae'r ysbryd yn brudd ac yn unig
Yn nwndwr aflafar y byd,
Yn gwrando am ddofn gyfrinach
Y pell a'r tragwyddol o hyd:
Unigrwydd anghysbell ynysig
Rhwng tonnau anhysbys aig,
Heb lais ond dolef y dyfnfor
Ym myddar glust y graig.

Breuddwydiodd yr ysbryd fod ystyr
I furmur diddiwedd y don,
Ei bod yn aflonydd wrth fethu
Mynegi cyfrinach ei bron;
A'i bod, wedi blino yn crwydro
Dros wyneb yr eigion pell,
Yn brysio i dorri ei chalon
Ar greigiau ei garchar gell.


A chalon doredig y moryn
Ddatguddiodd gyfrinion fyrdd.
Am wlad lle cofleidia'r awelon
Ganghennau tragwyddol wyrdd,
Lle na chaiff edwinol law angau
Byth gyffwrdd grudd wridog y rhos:
Ond ciliodd y breuddwyd, a rhuai
Y dyfnder anobaith y nos.



XXIV.
DAGRAU'R NOS.

Caeodd amrant gwridog rosyn
Dan y nos gysgodion prudd,
Pan ddaeth gwawr agorodd wedyn
Gyda deigryn ar ei rudd.

Haul belydryn a ddisgynnodd
I gusanu grudd y rhos,
Gwridodd yntau ac anghofiodd
Ddu anobaith dagrau'r nos.

Oer a phrudd yw oriau gwyllnos
Bywyd dan gysgodion bedd;
Pan ddaw gwawr a edy'r hirnos
Ddagrau ar fy newydd wedd?

Wna goleuni'r nef belydrau
Lwyr ddileu pob caddug trist?
Hyn fydd ystyr sychu'r dagrau
Ddydd datguddiad Iesu Grist?


XXV.
LLYN GEIRIONNYDD.

Hyd lwybrau'r awelon i gartref y grug
Yn nwfwn ddistawrwydd y mynydd,
Mi grwydraf mewn breuddwyd i'r amser dedwydd fu,
Lle chwery glasliw don Llyn Geirionnydd.
Anesmwyth a niwlog gysgodion y gwyllnos
Ordoant fy mynwes aflonydd:
Byth, byth ni ddaw'r oed im' gyfarfod a fy nhlws
Ar lannau graean glân Llyn Geirionnydd.

Daw'r awel i ganu ar delyn y grug;
A dychwel y gwanwyn i'r dolydd;
A chyfyd yr heulwen i wenu ar ei llun
Ym mynwes dawel ddofn Llyn Geirionnydd.
Ond tywyll a niwlog gysgodion y gwyllnos
Ordoant fy mynwes aflonydd:
Byth, byth ni ddaw'r oed im' gyfarfod a fy nhlws
Ar lannau graean glân Llyn Geirionnydd.


Ymlwybraf yn araf a thrist tua'r bedd
Ac yno caf hedd i fy nghalon,
A'm hysbryd o'i gadwyn a'i holl ofidiau'n rhydd
Gaiff grwydro 'nghwmni'r haul a'r awelon.
Pan ddianc y niwl a chysgodion y gwyllnos
O flaen goleu dwyfol y wawrddydd,
Ar edyn yr awel a gawn ni gwrdd, fy nhlws,
Ar lannau graean glân Llyn Geirionnydd?


XXVI.
Y DDWY LILI.

Blodeuyn aur y banadl
A garodd lili wen,
A hithau'r lili wylaidd
Yn serchog blygai'i phen.

Pan welais i Riannon,
Ei charu'n union wnes,
Rhois oreu 'nghalon iddi,
A mwynder ganddi ges.

Cusanodd angau'r lili,
A llwydodd gwawr ei gwedd:
Ffarwelio wnaeth Rhiannon,
A phlygu i waelod bedd.

Tros rudd y blodyn euraidd
Disgynna'r dagrau'n lli;
Ond rhewodd angau ffynnon
Fy nagrau heilltion i.


XXVII.
CYFRINACH Y BEIRDD.

"Most wretched me
Are cradled into poetry by wrong,
They learn in suffering what they teach in song."
—SHELLEY.


Pwy fyth, a glybu lais yr eos fwyn
Ogleisia'r nos â'i chyfareddol swyn,
Feddyliai, wrth ei chlywed yn telori,
Fod calon y gantores wedi torri?

Ar hyd ei gyfrin lwybrau ar y llyn,
Heb si na swn mordwya'r alarch gwyn;
Ond gynted gwel ei fedd o dan y tonnau,
Fe swyna'r byd â'i felus ddieithr seiniau.

Fe guddiwyd telyn yn y cwmwl du;
Adfeilion telyn ydyw'r enfys gu;
Y dymestl rodd ei bysedd ar ei thannau,
A llef y daran ddrylliodd ei llinynnau.


Fe ŵyr arlunydd y gyfrinach hon,
A lliwia'i ddarlun gyda gwaed ei fron;
Er mwyn i bryd duwiesau'r darlun wrido
Mae'n rhaid i rudd y prudd arlunydd lwydo.

A'r prydydd cywir fel yr eos mae,
Ei gân felysaf draetha'i ddyfnaf wae;
Medd yntau'r meddwl ysa waed y galon
A'r teimlad rewa'r dagrau yn eu ffynnon.

Dioddef yw cyfrinach beirdd pob oes,
A ffordd y goron ydyw ffordd y groes;
Mae'r seiniau mêl yn gwisgo'r euraidd dannau,
A thân y gerdd yn llosgi'r pêr delynnau.



XXVIII.
ENETH WEN FEL MEILLION DOL.

Eneth wen fel meillion dôl,
Dyro 'nghalon imi'n ôl,
Neu bydd foddlon
I dy galon
Fod yn eiddo'th brydydd ffôl.
Dwyfol dlysni'th ieuanc rudd
Gân fy awen nos a dydd.
Lili wen wyt, eneth hardd,
Yn dy lygaid swyn a chwardd,-
Llygaid gleision,
Ddwed gyfrinion
Serch dy galon wrth dy fardd.

Cofia fel y rhodiem gynt,
Gyda'n pennau yn y gwynt,
Hyd y llwybrau
Dros y bryniau
Fraich ym mraich ar felus hynt;
Drwy y blodau yn y glyn,
Dros y maes a'r gwenith gwyn;

Teimlo wnaem mai serch oedd sail
Cân yr adar rhwng y dail,
Ninnau'n trydar
Fel yr adar,—
Cân a chusan bob yn ail.

Ffrwd yw'th gân o hudol swyn,
Gwell nag odlau mêl y llwyn,
Gwell na miwsig
Yr afonig
Eilia ganig rhwng y brwyn.
Pletha'r eos gyngan dlos
Serch a gofid ganol nos;
Meddi dithau oslef brudd,
Dan dy fron mae gofid cudd,
Gwelais ddeigryn,
Gloew wlithyn,
Ar y rhosyn ar dy rudd.

Nos a dydd y mae fy mron
Mor ddi-hedd a'r grwydrol don;
Ddisglair seren
O'r ffurfafen,
Gwena arnaf, gwna fi'n llon.

Eneth Wen fel Meillion Dôl.
Canu yn y nos 'rwy'n awr,
O dy wên y daw y wawr
Wenlliw deg fal meillion dol,
Na ro 'nghalon imi'n ôl;
Ond bydd ffyddlon
I roi'th galon
I Hilarion ffyddlon fföl.


XXIX.
GORFFWYS DON.

Gorffwys, don, yn dawel, dawel;
Paid a digio wrth yr awel
Sy'n cusanu ewyn gwyn dy frig;
Huna'r waen a huna'r mynydd;
Pam y byddi di'n aflonydd?
Pam y curi'r lan mor ddig?

Teyrn y nef sydd wedi cilio;
Ac anfonodd wrth noswylio
Wên tangnefedd dros flinedig fyd;
Ei belydr olaf dros yr eigion
Oedd lwybr aur i wlad breuddwydion,
Cyfrin fro breuddwydion hud.

Pan mae anian oll yn cysgu,
Pam y mynni di derfysgu
Ac ewynnu'n greulon yn y gro?

Ust, distawa'th dôn anynnad,
Rhag cynhyrfu hun fy nghariad,―
Hun y decaf yn y fro.

Pâr i Olwen landeg huno'n
Suol siffrwd dy furmuron,―
Dwsmel seiniau pêr y tonnog gôr;
Dyro 'nghymlith a'i breuddwydion
Serch ganiadau'r môr forwynion,―
Swynol fiwsig dwfn y môr.

Boed i'w chalon bur atgofio
Dyddiau dedwydd aethant heibio
Pan y crwydrem gyda glannau'r llyn,
Pan eisteddem yn y cyfnos
Yng nghyfeddach cainc yr eos
Dan y dail ar ael y bryn.

Sibrwd, don, mor ddwfn a chynnes
Ydyw didranc serch fy mynwes,
Serch fy nghalon at fy lili dlos;

Paid a phoeni'r lân forwynig
Gyda chŵyn y gwyliwr unig
Grwydra'r forlan yn y nos.

Tyner gwsg gusana'i hamrant,
Gwenau ar ei min chwareuant,
Pur dangnefedd yn ei mynwes drig.
Gorffwys, don, yn dawel, dawel;
Paid a digio wrth yr awel
Ddawnsia'n ysgafn ar dy frig.



XXX.
TRO YN ERYRI.

A mi ar noson loergan haf,
Dan lwyth fy mhrudd feddyliau,
Yn araf grwydro'n drist fy nhrem
Hyd ddisathr wylltion lwybrau
Ymdroellant rhwng y creigiau crog,
Ym mynwes lom Eryri,
Lle'r heria eco groch y graig,
Y wen ewynnog genlli;

Ar erch ymylon gwylltion gant
Rhaeadrau hyfion chwarddent;
A thros binaclau'r trumau'n chwim
Corwyntoedd beilchion ddawnsient.
Urddasol lys y Wyddfa yw
Cadernid yr Eryri,
Lle'r eistedd mewn tragwyddol rwysg
Ar orsedd o glogwyni.


I Gymro cordial wella'i gur
Yw anadl y mynyddoedd;
Deffroi fy nheimlad marw, swrth,
Wnai awel iach y cymoedd;
A chyda pharch y sangwni
Ar lethrau Arfon arw,—
Ar hyd-ddynt arwyr Cymru gynt
Fu'n gwaedu ac yn marw.

Ysbrydion y gwroniaid fu
Lefarent o'r awelon,
Gan alw ar feibion Cymru sydd
I fod i Gymru'n ffyddlon;
Taranu hyn wna'r rhaeadr gwyn,
A sisial hyn wna'r afon;
A dyma sibrwd blodau'r grug
Yng nghlustiau'r cerryg mudion.


XXXI.
ARTHUR YN CYFODI.

Yng nghyfrin ogo'r tylwyth teg
Wrth odreu'r dal Elidir,
Yng nghanol ei farchogion dewr,
Gorffwysa'r Brenin Arthur;
Ac addaw wnaeth wrth ado'r byd,
I wella o'i archollion,
Y deuai'n ôl os byddai plant
Ein gwlad i'w gwlad yn ffyddlon.

Ar ôl canrifoedd chwerwon maith
O ruddfan a galaru,
Y dwyrain ddengys doriad gwawr
Oes euraidd hanes Cymru;
Mae arfau dur ar hyd y wlad
Yn peri trws a chyffro
Wrth naddu meini temlau dysg,—
Mae Arthur wedi deffro.


Llawn och a galar fu ein gwlad
Er pan y clwyfwyd Arthur,
A than ddyrnodiau gorthrwm du
Bu llawer Cymro'n ferthyr;
Ond methodd gormes lem a grym
Gelynion ein difodi:
Mae Cymru'n bod, a'r iaith yn byw,
Ac Arthur yn cyfodi.



XXXII.
Y GWYLIWR.

"Gobeithiaw a ddaw ydd wyf."—SION CENT.

A mi yn wyliwr yn y ddunos hell,
A'r dagrau heilltion ar fy ngrudd ddi-wên,
Daeth ataf lais o wyll canrifoedd pell,—
Llais dwfn a dieithr y gweledydd hên:

Os prysur ydyw'r oes, mewn gwaedlyd wŷn,
Yn plethu coron ddrain i ben ei Christ,
Etifedd y dyfodol ydyw dyn,-
Iôr didranc obaith yn ei ddagrau trist.

Heb gwynfan na galaru am a fu,
Trwy feithion ac ystormus oriau'r nos
Y gwyliaf nes y gwelaf ymyl rhos
Ar odreu caddug trwm y gorwel du.

Ni pherthyn imi holi am yr awr,
Digon yw cofio cyfoeth lliwiau'r wawr.


XXXIII.
L'ENVOI.

Sugenais fel chwa yn yr hesg
Acenion mêl swynion merch;
A dygaf fy odlau llesg
Yn offrwm ar allor serch.

Un gerdd sy'n fy nghalon i,
A methais a'i chanu'n iawn:
Mae'r gair a lefara gri
Dygy for yr eigion llawn?

Rhy gyfrin y ddwsmel sain
I dorri ar glust y byd;
Nis gedy'r gynghanedd gain
Mo dannau'r telynnau mud.

Dan gysgod canghennog bren,
Yng nghysegr y goedwig werdd,
Ymgrymaf wrth allor wen
I drydar fy nrylliog gerdd.


RHESTR O'R TANYSGRIFWYR.

RHESTR O'R TANYSGRIFWYR.

Anwyl, Yr Athro E., M.A., Aberystwyth
Ballard, P. B., Ysw., M.A., Tondu, R.S.O.[1] Morgannwg
Benjamin, Isaac, Ysw, Eurfin, Bronheulog Villas, Woodfield Terrace, Penrhiwceibir
Bowen, Y diweddar Ben
Bryan, Robert, Ysw., Caernarvon
"Cochfarf," Maer Caerdydd, 3, Windsor Place, Caerdydd
Davies, D., Ysw., 72, Praed Street, Paddington, Llundain.
Davies, Daniel, Ysw., 28, Arnold's Place, Dockhead, Llundain
Davies, David, Ysw., 2, York Terrace, Kensal Rise, Llundain
Davies, David, Ysw. (Eurfab), 32, Curre Street, Aberaman, Aberdar
Davies, Dr. M. G., Penygroes, R.S.O., Sir Gaernarvon
Davies, D. T., Ysw., B.A., Cherry Cross, Llandilo
Davies, Edward, Ysw., Llythyrdy, Penmorfa, Porthmadog
Davies, E. R., Ysw., Swyddfa Addysg, Caernarvon
Davies, Henry, Ysw., (Eurfel), Tanrallt, Woodfield Terrace, Penrhiwceibir
Davies, John, Ysw. (Neifion), Bwlchgwyn, Gwrecsam
Davies, John, Ysw., 90, Ashbrook Road, Llundain
Davies, J. B., Ysw., Ysgol y Cyngor, Llanllyfni.
Davies, Miss L. Teify, R.A.M., 10, Willow Road, Hampstead, Llundain
Davies, Miss, Brocklehurst Street, Llundain
Davies,, Ysw., 101, Dartmouth Park Hill, Llundain
Davies, Parch. D. Cunllo, Dowlais, Morgannwg
Davies, Parch. D. E., 34, Castle Square, Caernarvon
Davies, Parch. Evan, Trefriw, R.S.O.
Davies, Parch. John, 15, Chesterton Road, Llundain
Davies, Parch. J. E., M.A., Llundain
Davies, Parch. W. Wynn, 87, Norwood Grove, Lerpwl
Davies, R. Gwyneddon, Ysw., Caernarvon
Davies, R. J., Ysw. (Barlwydon), Dinas, Blaenau Ffestiniog
Davies, Rees, Ysw., 49, Harders Road, Peckham
Davies, Samuel, Ysw., 23, Lordship Lane, East Dulwich, Llundain
Davies, T., Ysw., Brocklehurst Street, Llundain
Davies, Thomas, Ysw., 30, Fairbridge Road, Llundain
Davies, Yr Athro Parch. E. O., B.Sc., Coleg Diwinyddol y Bala
Davies, Yr Athro T. Witton, B.A., Ph.D. (Myfyr Gwent), Bryn Haul, Bangor
"Dewi Vychan," 12, Glyn Rhondda, Caerdydd
"Dyfed," Cathays, Caerdydd
"Dyfnallt," Bodhyfryd, Ebenezer, Caernarvon

Edwards, D., Ysw., 9, Taviton Street, Gordon Square, Llundain
Edwards, David, Ysw., 30, Norland Road, Notting Hill, Llundain
Edwards, Edward, Ysw., B.A., 57, Lightfoot Road, Hornsey, Llundain
Edwards, O. M., Ysw., M.A., Coleg Lincoln, Rhydychen
Edwards, Parch. Llewelyn, M.A., 5, Trouville Road, Clapham Park, Llundain
Edwards, R. O., Ysw., 44, Park Road, West Green, Llundain
Edwards, W. J., Ysw., 23, Broadway Parade, Crouch End, Llundain
Edwards, Wm., Ysw., H.M.I.S., Courtland House, Merthyr Tydfil
Edwards, Y Parch. Athro Ellis, M.A., Y Bala
Edwards, Yr Athro Edward, M.A., Coleg y Brifysgol, Aberystwyth
"Eifionydd," 10, Heol Dinorwig, Caernarvon
"Elfed," 13, Highbury Grove, Llundain
Ellis, Parch. Griffith, M.A., 10, Pembroke Road, Bootle
Ellis, Parch. W. T., B.A., B.D., Strinmetz Strasse 10, Berlin.
Ellis-Jones, Parch. J., Glyn Ceiriog, Rhiwabon
Evans, D. J., Ysw, 17, Brunswick Square, Llundain
Evans, E., Ysw., 147, King's Street, Hammersmith, Llundain
Evans, E. Vincent, Ysw., 64, Chancery Lane, Llundain
Evans, E. W., Ysw., Frondirion, Dolgellau
Evans, G. H. D., Ysw., 9, Radipole Road, Fulham, Llundain
Evans, J. Winton, Ysw., 98, Marlboro' Road, Llundain
Evans, Parch. D. Tecwyn, B. A., 21, Heol yr Eglwys, Aberdyfi
Evans, Parch. E. Trevor, Llanfachreth, Dolgellau
Evans, Parch. J. D., B.A., Catharine Street, Lerpwl
Evans, Parch. J. Howell, 55, Willow Street, Crocsoswallt
Evans, Parch. J. Roberts, 17, Spring Road, Edgbaston, Birmingham
Evans, Parch. T. D. (Gwernogle), Tyrhos, Boncath, R.S.O.
Evans, Stephen, Ysw., 6, Wickham Gardens, Brockley, Llundain
Evans, T. J., Ysw., 13, Canonbury Park South, Llundain
Evans, T. R., Ysw., 2, Undercliff Road, Lewisham
Evans, Yr Athro David, Mus. Bac., Coleg y Brifysgol, Caerdydd
George, William, Ysw., Criccieth
George, W. W., Ysw., 41, Spring Street, Utica, N.Y., Yr Amerig
Glynne, Parch. William, B.A., 4, East Street, Broughton, Manceinion
Griffith, Arthur, Ysw., 112, Gower Street, Llundain
Griffith, E. J., Ysw., 26, Oxford Road, Ealing, Llundain
Griffith, Hugh, Ysw., A.C., Ysgol y Cyngor, Llithfaen
Griffith, John, Ysw., B.Sc., 73, Manod Road, Blaenau Ffestiniog
Griffith, Miss, 70, Crayford Road, Llundain
Griffith, Parch. Morgan, B.A., Abermaw
Griffith, Parch. Ivor, Llanfaircaereinion
Griffith, William, Ysw., B.A., Ty Newydd, Bryn Siencyn
Griffith, W. W., Ysw., 14, Canonbury Square, Llundain
Griffiths, John, Ysw., 8, Overcliff Road, Lewisham, Llundain
Griffiths, Parch. Peter II., 54, Lissenden Mansions, Highgate Road, Llundain

Griffiths, T. Solomon, Ysw., 5, Miller Street, Utica
Gruffydd, W. J., Ysw., B.A., Coleg yr Iesu, Rhydychen
"Gwili," Gwynfryn, Ammanford
Havard, Parch. Gwilym H., B.A., B.D., Wilton Square, Llundain
Herbert, J., Ysw., 146, Marylebone Road, Llundain
Hobley, Parch. W., Bontnewydd, Caernarvon
Holland, William, Ysw., 29, Cressida Road, Llundain
Hopkins, D. G., Ysw. (Dewi Glan Twrch), Cwm Twrch Uchaf, Abertawe
Hughes, D. L., Ysw., 102, Stondon Road, Llundain
Hughes, David R., Ysw., 49, Hailsham Avenue, Streatham Hill, Llundain
Hughes, Dr. Roger, Y.H., Y Bala
Hughes, Henry, Ysw., Tanrallt, Talysarn
Hughes, H., Ysw., 24, Lynton Road, Kilburn, Llundain
Hughes, H. Ariander, Ysw., Blaenau Ffestiniog
Hughes, H. E., Ysw., Yr Ysgol Uwchraddol, Blaenau Ffestiniog
Hughes, John, Ysw., B.A., B.D., Coleg y Bala
Hughes, Miss Ceridwen, Preswylfa, Porthmadog
Hughes, Miss Mary, Glasfryn, Cwmyglo, R.S.O.
Hughes, Parch. John, M.A., Swyddfa'r Daily Chronicle, Llundain
Hughes, Parch. R. H., B.D., Norwich Corners, N.Y., Yr Amerig
Hughes, Parch. R. O., Box 1002, Kingston, Pennsylvania
Hughes, Ysw., 33, Bridge Street, Hammersmith, Llundain
Hughes, Richard, Ysw., 52, Brixton Road, Llundain
Hughes, R. J., Ysw., 64b, Salisbury Road, West Kilburn, Llundain
Hughes, Richard, Ysw., 44, Elm Street, Utica, N. Y.
Hughes, W., Ysw., 96, Keppel Street, Chelsea, Llundain
Hughes, W., Ysw., 36, Mostyn Gardens, Kensal Rise, Llundain
Humphries, Parch. J. M., Llanwddyn, Croesoswallt
Humphries, W. J., Ysw., 20, Park Avenue, Willesden Green, Llundain
"Hwfa Mon," Llys Hwfa, Rhyl
Idris, I. H. W., Ysw., Y.H., C.S.Ll., 110, Pratt Street, Camden Town, Llundain (2 gopi)
James, B., Ysw., 20, Claremont Road, Queen's Park, Llundain
James, John, Ysw., 77, Commercial Road, Llundain
James, John, Ysw., Llwyn, Bow Street, R.S.O.
Jenkins, Edward, Ysw., Gwalia Hotel, Llandrindod
Jenkins, Evan, Ysw., 37, Plough Road, Rotherhithe, Llundain
Jenkins, John, Ysw., 2, Buckingham Road, Kingsland, Llundain (3 copi)
Job, J. T., Ysw., 5, Southampton Buildings, Llundain
Job, Parch. J. T., Carneddi, Bethesda
Jones, Capt. J., Baron Hill, Niwbwrch, Sir Fôn
Jones, D. L., Ysw., 104, St. Donnatt's Road, New Cross, Llundain
Jones, D. Pryse, Ysw., G. & L.T.S.C., Ysgol y Cyngor, Niwbwrch, Sir Fôn

Jones, D. P., Ysw., Coleg y Bala
Jones-Griffith, Ellis, Ysw., A.S., 3, Natu King's Bench Walk, Temple, Llundain
Jones, Edgar, Ysw., M.A., Ysgol y Sir, Barry, Morgannwg
Jones, Edward, Ysw., Llyfrwerthydd, 195, Gelli Road, Ton, Pentre, R.S.O.
Jones, E. Clwyd, Ysw., B.Sc., Ysgol y Sir, Rhyl
Jones, G. W., Ysw., Lewisham, Llundain
Jones, H. E., Ysw. (Hywel Cefni), Talysarn
Jones, H. K., Ysw., Coleg y Brifysgol, Bangor
Jones, H. Santley, Ysw., Fferyllydd, Paradwys, Lansdown Road, Swindon (2 gopi)
Jones, James, Ysw., "Madryn," George Lane, Llundain
Jones, John, Ysw., 89, St. Paul's Road, Llundain
Jones, J., Ysw., 2, Ascham Street, Llundain
Jones, J., Ysw., 239, Cornwall Road, Notting Hill, Llundain
Jones, J. D., Ysw., 99, New Oxford Street, Llundain
Jones, John Lloyd, Ysw., B.A., Coleg y Bala
Jones, J. O., Ysw., Coleg y Bala
Jones, J. Tysilio, Ysw., Johnstown, Rhiwabon
Jones, Miss Annie J., B.A., Yr Ysgol Sir, Gwrecsam
Jones, Miss Annie, 7, Ovington Gardens, Llundain
Jones, Morgan, Ysw., 145, Hornsey Road, Llundain
Jones, M. Anwyl, Ysw., Gerynt, Nantgwynant, Beddgelert
Jones, Misses, Coedhelen, Clwt y Bont, Cwmyglo, R.S.O.
Jones, Miss Catherine, Yr Ysgol Genedlaethol, Caernarvon
Jones, Miss Katie, 16, Calabria Road, Highbury, Llundain
Jones, Miss M. A., Baladeulyn, Nantlle
Jones, Mrs. M. Parry, Pen Hafod Las, Llanrug, R.S.O.
Jones, Parch. Caradog, Utica, N. Y.
Jones, Parch. D. Charles, 119, Burton Road, Brixton, Llundain
Jones, Parch. Edmund O., Ficerdy, Llanidloes
Jones, Parch. E. P., B.A., 15, Victoria Park, Bangor Uchaf
Jones, Parch. Eurog, Utica, N.Y., Yr Amerig
Jones, Parch. H. Arthur, Glanaber, Bettws, Corwen
Jones, Parch. J. Evans, Wionfa, Skewen, Neath
Jones, Parch. J. Morgan, Cerrigydruidion, Corwen
Jones, Parch. J. Mostyn, Efrydfa, West End, Bangor (2 gopi)
Jones, Parch. J. Peron, Stanley House, St. Helens
Jones, Parch. O. N., Gwyddonfa, Pwllheli
Jones, Parch. R. Aethwy, M.A., 19, Deane's Road, Fairfield, Lerpwl
Jones, Parch. R. H., B.A., Emerson, Iowa
Jones, Parch. R. Lloyd, City Road, Llundain
Jones, Parch. R. M., Hermon, Bethesda
Jones, Parch. R. K., Abergynolwyn, Sir Feirionnydd
Jones, Parch. R. W., Aberangell, R.S.O., Trefaldwyn
Jones, Parch. W. Arthur, Nantgwrtheyrn, Pwllheli (4 copi)
Jones, Parch. W. G., Neuadd, Llanidloes

Jones, Parch. W. Morris, 94, Berkeley Street, Lerpwl
Jones, Richard Vaughan, Ysw., 99, Steuben Street, Utica, N.Y.
Jones, Rees, Ysw., 156, Cottenham Road. Llundain
Jones, R. E., Ysw., Boderwydd, Llanberis, R.S.O.
Jones, R. Evan, Ysw., Yr Ysgol, Gwynant, Beddgelert
Jones, Robert, Ysw., B.A., 3, Mount Pleasant, Dolgellau
Jones, Robert, Ysw., 97, High Street, Blaenau Ffestiniog
Jones, Robert, Ysw., 181, Stanhope Street, Regent's Park, Llundain
Jones, R. O., Ysw., 24, Northampton Park, Canonbury, Llundain
Jones, R. P., Ysw., Bron Menai, Dwyran, Sir Fôn
Jones, Sam, Ysw., Coleg y Brifysgol, Aberystwyth
Jones, T. D., Ysw., 36, Essex Street, Strand, Llundain
Jones, T. Elias, Ysw., Railway Stores, Talysarn
Jones, T. Gwynn, Ysw., Heol Dinorwig, Caernarvon
Jones, Thomas H., Ysw., So, Hobart Street, Utica, N.Y.
Jones, T. Owen, Ysw., Pen Hafod Las, Llanrug
Jones, W. Arthur, Ysw., Utica, N. Y., Yr Amerig
Jones, Walter O., Ysw., B.A., 56, Hope Street, Gwrecsam
Jones, Y diweddar W. Cynwal, Ysw., Utica, Yr Amerig
Jones, W. G., Ysw., 2, Wnion Terrace, Dolgellau
Jones, W. Meiwyn, Ysw., Ysgol y Cyngor, Talysarn
Jones, W. Morris, Ysw., Coleg y Brifysgol, Bangor
Jones, W. Morris, Ysw., Goruchwyliwr Chwarelau Dorothea, Nantlle
Jones, William, Ysw., A.S., Llangefni, Môn
Jones, William, Ysw., 43, Sussex Road, Llundain
Jones, — Ysw., 126, Junction Road, Llundain
Jones, Yr Athro E. Taylor, D.Sc., Coleg y Brifysgol, Bangor
Jones, Yr Athro J. Morris, M. A., Coleg y Brifysgol, Bangor
Jones, Yr Athro W. Jenkyn, M.A., Coleg y Brifysgol, Aberystwyth
Jones, Yr Athro W. Lewis, M.A., Coleg y Brifysgol, Bangor
Jones-Evans, R., Ysw., 1642, West Adams Street, Chicago
Kelly, Miss Gwendoline E., Glenwood, Moon Street, Wolverton, Bucks.
Knoyle, Parch. F., B.A., 37, Dewhurst Road, West Kensington Park, Llundain
Lewis, Cynghorydd J. P., Ysw., Lewisham High Road, Llundain
Lewis, D., Ysw., 14, Bramley Road, Notting Hill, Llundain
Lewis, D., Ysw., 82, Gillespie Road, Llundain
Lewis, Parch. D. J., B.A., Llandudno
Lewis, Edward, Ysw., 52, Stroud Green Road, Llundain
Lewis, Henry, Ysw., Y.H., Belmont, Bangor
Lewis, H. C., Ysw., B.A., Coleg y Bala
Lewis, J., Ysw., 16, Belmount Terrace, Aberaman
Lewis, J. R., Ysw., Hanover Park, Peckham, Llundain
Lloyd, Edward, Ysw., Fferyllydd, Colwyn Bay
Lloyd, E. W., Ysw., 6, Avondale Square, Llundain
Lloyd, Gwilym, Ysw., 66, Wyndham Street, Treherbert

Lloyd, Hy., Ysw. (Ab Hevin), 39, Wind Street, Aberdar
Lloyd, Isaac T., Ysw., 267, King's Road, Chelsea, Llundain
"Llew Tegid," Bangor.
Matthias, W., Ysw., 101, Bravington Road, Llundain
Morgan, David, Ysw., Garn House, Bow Street, R.S.O.
Morgan, David, Ysw., 21, Brecknock Road, Llundain
Morgan,, Ysw., 18, Highgate Road, Llundain
Morgan, John, Ysw., 25, Barnsbury Grove, Llundain.
Morgan, John, Ysw., Derwen Cottage, Y Wyddgrug
Morgan, R., Ysw., Llanarmon, Y Wyddgrug
Morgans, H. R., Ysw., 44, Biscay Road, Hammersmith, Llundain
Morris, A., Ysw., F.R.Hist. S., Gwynfa, Newport, Mynwy
Morris, M. T., Ysw., Caernarvon
Morris, Parch. E. Sidney, Llithfaen
Morris, Parch. Richard, M. A., B.D., Dolgellau
Morris, Parch. R. E., M.A., 23, Grosvenor Road, Gwrecsam
Morris, Parch. R. R., Blaenau Ffestiniog
Moses, M. R., Ysw., Coleg y Bala
Moss, T., Ysw., Gorsaf y Berwyn, Llangollen
"Myfyr Hefin," 4, Hermon Street, Treorci, R.S.O.
"Myfyr Machno," Coleg y Bala
Owen, David, Ysw., Deanfield, Bangor (2 gopi)
Owen, Dr. Robert, Bodnant, Penygroes, R.S.O.
Owen, Hugh, Ysw., 35, Allington Street, St. Michael's, Lerpwl
Owen, John, Ysw., Avallon, Abbey Road, Llandudno
Owen, John, Ysw., Ysgol y Cyngor, Llanfair P.G.
Owen, J. W., Ysw., 137. Junction Road, Llundain
Owen, Miss Elizabeth, B.A., Yr Ysgol Sir, Treffynnon.
Owen, O. Llewelyn, Ýsw., Bryncoed, Talysarn
Owen, O. Lloyd, Ysw., Bryn Gwynedd, Teignmouth Road, Brondesbury, Llundain
Owen, O. Morgan, Ysw., 55, Palace Court, Llundain
Owen, R. T., Ysw., 70, Crayford Road, Holloway, Llundain
Owen, W. T., Ysw., 28, Drayton Park, Llundain
Oliver, Parch. D., 12, Landseer Road, Bow, Llundain (2 gopi)
Owen, Parch. John, Bodhyfryd, Bettws-y-Coed
Owen, Parch. John, 4, Derwen Villas, Y Wyddgrug
Owen, Parch. J. Garnon, Llundain
Owen, Parch. O. Eilian, 7, Sybil Road, Anfield, Lerpwl (2 gopi)
Owen, Parch. O. G. (Alafon), Ysgoldy, Cwmyglo, R.S.O.
Owen, Parch. R. Ceinwenydd, 23, Normanby Street, Lerpwl
Owen, Richard, Ysw., 77, West Street, Utica, N.Y., America
Owen, Richard G., Ysw. (Pencerdd Llyfnwy), Talysarn
Owen, Samuel, Ysw., B.A., Coleg y Bala
Owen, T. Woodward, Ysw., Garndyfi, Llundain

Paliatseas, Photios G., Ysw., B.Sc., Athen, Groeg
Parry, Dr. E. W., 38, Eardley Crescent, Earl's Court, Llundain
Parry, John, Ysw., Compton House, Llanllyfni (2 gopi)
Parry, Morris, Ysw., 21, Victoria Road, Caerllcon
Parry, Parch. Griffith, Borth, Porthmadog
Parry, Thomas, Ysw., Y.H., Llys Ifor, Y Wyddgrug
Parry-Jones, H., Ysw., B.A., Wesley College, Sheffield
"Pedr Alaw," Haldon House, Poppleton Road, Leytonstone, Llundain
Phillips, Parch. D. M., M.A., Ph.D., Tylorstown (3 copi)
Pierce, David, Ysw., 22, Lexington Street, Golden Square, Llundain
Pierce, Ll., Ysw., 43, Sussex Road, Llundain
Pierce, Parch. Edward, Llys Ifor, Llandudno Junction
Pierce, Parch. T. Mordaf, Llanidloes
Prichard, John, Ysw., B.A., B.D., Coleg y Bala
Prichard, R. O., Ysw., Talysarn Farm, Talysarn
Price, Miss Muriel, B.A., Dôl Menai, Bangor
Price, Parch. Evan, 42, Tredegar Road, Ebbw Vale, Mynwy
Price, Rees, Ysw., 99, The Grove, Hammersmith, Llundain
Price, Y Prifathro J., Y Coleg Normalaidd, Bangor
Prothero, David, Ysw., 9, Taff Street, Merthyr Vale, Merthyr Tydfil
Prytherch, D. R. O., Ysw., B.A., Yr Ysgol Sir, Penygroes
Prytherch, Parch. S. E., 60, Beechdale Road, Brixton Hill, Llundain
Rees, Daniel, Ysw., Swyddfa'r Herald, Caernarvon
Rees, John, Ysw. (Glan Cynon), 16, Albert Street, Aberdar
Rees, John, Ysw., I, Hannibal Road, Stepney, Llundain
Recs, . H., Ysw., 91, Dudley Avenue, Utica, N. Y.
Rees, J. T., Ysw., Mus. Bac., Bow Street, R.S.O.
Rees, Jonathan, Ysw. (Nathan Wyn), Ystrad Rhondda, Morgannwg
Rees, Parch. J. Machreth, 15, Rosenau Road, Battersea Park, Llundain
Reichel, Y Prifathro H. R., M.A., LL.D., Coleg y Brifysgol, Bangor
Reynolds, Llywarch, Ysw., B.A., Old Church Place, Merthyr Tydfil
Richards, D. M., Ysw., Wenallt, Aberdar
Richards, Hugh T., Ysw., Gellidawel, Berw Road, Pontypridd
Richards, Miss Lizzie A., 12, Baalbec Road, Highbury, Llundain
Richards, Parch. D. M., Capel Coch, Llanberis
Richards, William, Ysw., I, Plas Llwyd Terrace, Bangor
Roberts, A. Rhys, Ysw., 63, Queen Victoria Street, Llundain (2 gopi)
Roberts, Dr. H. Jones, Y.H., Gwyddfor, Penygroes, R.S.O.
Roberts, Ellis, Ysw., 2, Undercliff Road, Lewisham, Llundain
Roberts, Evan, Ysw., "Beatrice," Talysarn (2 gopi)
Roberts, E. M., Ysw., Metropolitan Bank, Llangefni
Roberts, H. B., Ysw., Garden Cottage, Acrefair, Rhiwabon
Roberts, H. H., Ysw., B.A., Cwmyglo, R.S.O.
Roberts, J. Herbert, Ysw., A.S., Abergele (4 copi)
Roberts, J. H., Ysw., 79, Morden Road, Newport, Mynwy
Roberts, Lewis H., Ysw., 14, Willow Bridge Road, Canonbury, Llundain, N. (2 gopi)

Roberts, L. J., Ysw., M.A., H.M.I.S., Tegvan, Rhyl
Roberts, Miss Kate, 147, King's Street, Hammersmith, Llundain
Roberts, Miss Maggie, 72, Philbeach Gardens, Earl's Court, Llundain
Roberts, Parch. E. L., Saltney Ferry, Caerlleon
Roberts, Parch. J. J. (Iolo Caernarvon), Porthmadog
Roberts, Parch. J. Wilson, 14, Mathew's Park Avenue, Stratford, Llundain
Roberts, Parch. Richard, Westbourne Grove, Llundain
Roberts, Parch. R. Gwylfa, Llanelli
Roberts, Parch. R. W., B.A., B.D., Peel Road, Lerpwl
Roberts, R. Cecil, Ysw., B.A., Coleg y Bala
Roberts, Tom, Ysw., 32, Mortimer Road, Kensal Rise, Llundain
Roberts, T. R., Ysw. (Asaph), Caernarvon
Roberts, William, Ysw., M.A., The Grove Park School, Gwrecsam
Roberts, W., Ysw., I, Little Argyle Street, Regent Street, Llundain
Roberts, W. J., Ysw., 44, Elm Street, Utica, N. Y., Yr Amerig
Roberts, W. W., Ysw., 273, Sunset Avenue, Utica, N. Y., Yr Amerig
Roberts, Yr Henadur Richard R., Arvon, Utica, N. Y., Yr Amerig
Rowlands, Arthur, Ysw. (Ab Uthr), Plas Pendeuglawdd, Rhyl
Rowlands, A. E., Ysw., Hammersmith, Llundain
Rowlands, Miss E., Ysgol Babanod Deiniolen, Clwt y Bont, Cwmyglo, R.S.O.
Rowlands, R., Ysw., Bryngwran, Mon
Samuel, David, Ysw., M.A., Yr Ysgol Sir, Aberystwyth
Stevenson, Yr Athro W. B., M.A., B.D., Coleg Diwinyddol y Bala
Thomas, Ellis, Ysw., 82, Steuben Street, Utica, N. Y., Yr Amerig
Thomas, John, Ysw., Warwick Road, Earl's Court, Llundain
Thomas, J. O., Ysw., 66, South Street, Utica, N. Y., Yr Amerig
Thomas, Miss Mary, High Street, Lewisham
Thomas, Morris, Ysw., Coleg y Brifysgol, Bangor
Thomas, Owen, Ysw., Coleg y Bala
Thomas, Parch. Ben, Rome, America
Thomas, Parch. Richard, B.A., Bontnewydd, Caernarvon
Thomas, Parch. T. B., Ph.D., 3, Oakland Square, Pittsburg, Pa.
Thomas, Richard, Ysw., 12, Upper Baker Street, Llundain
Thomas, R. Vaughan, Ysw., 6, Avondale Square, Llundain
Thomas, R. M., Ysw., I, Museum Street, Llundain
Thomas, Thomas, Ysw., St. Alban's Terrace, Bedford Park, Llundain
Thomas, William, Ysw., High Street, Lewisham
Thomas, W. P., Ysw., Treorci, RS.O.
Thomas, W. R., Ysw., 1374, Howard Avenue, Utica.
Thompson, S. E., Ysw., Llyfrgellydd, Llyfrfa Gyhoeddus Abertawe
Whigham, R. L., Ysw., 22, Brook Street, Llundain
Williams, B. Scott, Ysw., B.A., B.D., Y Bala
Williams, Daniel, Ysw., 10, Clarence Road, Wood Green, Llundain

Williams, D. H., Ysw., M. A., Yr Ysgol Sir, Pwllheli (2 gopi)
Williams, E., Ysw., 26, Mostyn Gardens, Kensal Rise, Llundain
Williams, E. O., Ysw., 145, St. Anne's Road, Llundain
Williams, Evan T., Ysw., 117, Howard Avenue, Utica, N.Y.
Williams, G. O., Ysw., 120, The Grove, Hammersmith, Llundain
Williams, John, Ysw., Blandford Street, Manchester Square, Llundain
Williams, J. M., Ysw., Cae Mawr, Penygroes, R.S.O.
Williams, J. Pentir, Ysw., B.A., Bangor
Williams, L. Roger, Ysw. (Isander), Caernarvon
Williams, Miss E., 72, Philbeach Gardens, Earls Court, Llundain
Williams, Miss Gwladys P., B.A., Caeronnen, Bangor
Williams, Miss M., Queen's Road, Peckham, Llundain
Williams, Owen, Ysw., 37, South Street, Utica, N.Y.
Williams, Parch. D. Cynddelw, B.A., Penygroes, R.S.O.
Williams, Parch. E. Afonwy, Corris, R.S.Ó.
Williams, Parch. E. Isfryn, Bodawen, Hill Street, Rhos, Rhiwabon
Williams, Parch. J. Tudno, M.A., Walham Green, Llundain
Williams, Parch. Lewis, 26, Faxton Street, Utica, N.Y., Yr Amerig
Williams, Parch. Morris, Baladeulyn
Williams, Parch. Kd. J., 70, N. James Street, Rome, N.W., Yr Amerig
Williams, Parch. William, Talysarn
Williams, Parch. William (Einion), Rhostryfan
Williams, Parch. W. Curig, Rhosgadfan, Rhostryfan
Williams, Parch. W. Nantlais, Goeri, Ammanford
Williams, Rhys R., Ysw., B.A., Bryn Tawel, Pwllheli
Williams, Rowland, Ysw., Penllwyn House, Talysarn
Williams, Syr John, Plas Llanstephan, Sir Gaerfyrddin
Williams, T., Ysw., Greenwich House, Talysarn
Williams, T. W., Ysw., Gwynfa, Penygroes, R.S.O.
Williams, W. P., Ysw., Caeronnen, Bangor
Williams, W. Prydderch, Ysw., "Myfyrion," Isleworth
Williams, W. W., Ysw., Mount Pleasant, Dorvel Road, Bl. Ffestiniog
Williams, Y Parch. Athro Hugh, M.A., Y Bala
Williams, Yr Athro T. Hudson, M.A., Coleg y Brifysgol, Bangor
Wyn, Sior, Ysw., Gwynfryn, Ammanford
Y Llyfrgell Rydd, Caerdydd (trwy law John Ballinger, Ysw.)


Jarvis & Foster, Argraffwyr, Lorne House, Bangor.

Nodiadau

[golygu]
  1. Railway Sorting Office, y dref lle byddai Trên y Post yn gadael llythyrau i'w didoli i'r ardal leol

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.

 

[[Categori:R Silyn Roberts]