yn ddwfn; ond maint aruthr y ddaear ei hun a bair i'r nos bara cyhyd, ac oedi'r wawr. Petai'r ddaear yn llai ac yn cylchdroi'n gyflymach, fe ddôi'r bore'n gynharach a chwtogid y nos.
"Ond Haul Cyfiawnder a gyfyd i chwi." Fy enaid, nac atal dywyniadau'r Haul, eithr "prysura ddyfodiad dydd Duw"—y dydd y mae i'w holl belydr eu llewyrch a'u cysgod.
"Fel y dyhea gwas am gysgod." Gweithiwr Dwyreiniol sydd yma yn llafurio yn y maes, wedi lluddedu gan galedwaith, yn dyddfu gan wres y dydd, a'i gylla'n ddigon gwag. Ond gŵyr fod awr benodol gollyngdod llafur wedi'i threfnu, y dôi'r cysgod ar y deial i ddynodi'r amser terfynedig, a hiraetha am ddyfod o'r awr honno. Dyma gysgod yn troi'n wybod—y gwybod a gynnwys ryddid, lluniaeth a gorffwystra. Gwyn ei fyd y gŵr blinderog, hiraethus, a fedr ddatod seliau'r cysgodau; datgloi pyrth y dirgeledig; a mynd i mewn i galon cyfrinach—y gwybod sy â'i ddirgelwch yn oleuni, a'i oleuni'n ddirgelwch. Gwisg y pelydryn ei fantell. Ac fel Nicodemus fe gerdd lwybrau'r Waredigaeth liw nos.
IV
FE gerdd drwy'n henaid ambell foregwaith fintai o feddyliau dieithr. Gwyddom nad yn ein bron y ganed