Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diolchwn o sylweddoli'r bri a ddodant arnom drwy gydnabod ein bod ac ymweled â ni, a ninnau onid distadl ymysg ei greaduriaid afrifed Ef. Gallasent ddychwelyd i'w Gwlad ar hyd ffordd arall; ond fel yna o'i ras y bu wiw gan yr Arglwydd drefnu.

Cyffyrddiadau personol Duw ei Hun ydyw Ei feddyliau. Yr hyn yw'r pelydr a'r gwlith, y gawod a'r awel, y tir a'r wybr i'r planhigyn-dyna ydyw meddyliau Duw i enaid. Heb Ei feddwl Ef nis plennir, ni wreiddia, ni thyf, ni flagura, ni ddwg ffrwyth. Bu'n rhaid i'r meddyliau gosgeiddig, ucheldras oblygu eu pennau'n isel iawn cyn medru dynesu atom drwy borth mor gul. "Nid fy meddyliau I yw eich meddyliau chwi." Pur, uniawn, gwir ydyw yr eiddo Ef; halog, gwyrgam, gau yw yr eiddom ni.

Yr Arglwydd a ddysgodd ddyn i feddwl: "yr Hwn a ddywaid i ddyn beth yw ei feddwl"-nid Ei feddwl Ef yn unig, eithr meddwl y dyn ei hun hefyd. Beth tybed oedd rhag-flaenor y meddyliau fyrdd a dramwyodd drwy enaid dyn-Alpha pob syniad-meddwl cynta'r oesoedd? Er y bore hwnnw (ie bore ydoedd, oblegid gwawr yw pob datguddiad) fe genhedlwyd myrddiynau o feddyliau gan feibion dynion. I ba le yr aeth meddyliau coll y canrifoedd? A fugeilir hwy'n ôl o'u disberod? A yw'r Bugail Da yn corlannu meddyliau?