Gŵyr y serydd effro a gerdd lwybrau'r ffurfafen liw nos nad yw'r ysbaid tawel hwnnw ddim yn nos i neb namyn i enaid cwsg; ac mai rhai o gyfrinachau Duw yn dechrau blaguro ydyw'r sêr.
Traidd yr anianydd i galon llychyn, a chenfydd yno fydoedd aneirif yn chwyrnellu drwy'i gilydd, ac eto'n cylchdroi ogylch haul eu cyfundrefn; ac ymgryma'n addolgar a dywedyd, "dyma rannau Ei ffyrdd Ef."
Pan yfo'r cerddor yn ddwfn o ysbryd y Gân fe nawf ar donnau seiniau nes glanio ohono ar draethell bell, bell, lle y mae pob ton yn dôn, pob symudiad yn beroriaeth, pob bywyd yn gynghanedd.
Arwynebolrwydd yn anad dim sydd yn peri anghred a rhyfyg. Plentyn y feisdon ydyw anffyddiaeth, nid plentyn yr eigion; ac nid yn y dwfn y clywir cableddau. Y mae calon gwirionedd—fel calon y blaned y preswyliwn arni—yn dân; ac ond ymwthio i mewn cyn agosed ag y gallom i'r canolbwnc fe dawdd ein hanghred yng ngwres yr oddaith anniffodd; a nyni a addolwn.