Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bu pregethu cyfrin Evan Phillips, Joseph Jenkins, Peter Hughes Griffith ac eraill, o werth amhrisiadwy i'n cenedl ni.

Er y Diwygiad Protestannaidd ni roddwyd i Gyfriniaeth agos gymaint o sylw ag a roddir heddiw.

(a). Adwaith ydyw'r adfywiad hwn yn dilyn y gorbwys a roddes y ganrif ddiweddaf ar Reswm. Penfeddwodd Rheswm ar ei liaws buddugoliaethau. Dyna yw gwendid a nam "Rhesymoliaeth." Ond ni fyn yr ysbryd symleiddio gormod ar ei fyd, gan fod mwy o ffeithiau yn wybyddus iddo nag a freuddwydiodd Gwyddoniaeth. Mewn atebiad i'r wrthddadl na ellir gwybod beth yn eu hanfod yw mater ac egni, meddwl a bywyd, ac felly bod Duw a'r cread yn anwybyddadwy, fe gyfeiria'r Cyfrinydd at y profiad o Dduw. Oni ellir drwy gysylltu ffaith wrth ffaith, a gwneud ohonynt gadwyn hirfaith, ddyfod o hyd i Dduw, yna mae'n rhaid bod ffordd arall i gael gafael arno. Gwrthdystiad yw Cyfriniaeth, yn ôl Dwelly a Grensted, yn erbyn rhannu dyn, ac yn hawlio ei holl bersonoliaeth. Y mae dyn yn fwy na meddwl a rheswm, ac yn teimlo a byw anhraethol fwy nag y dichon iddo ei ddiffinio, ei egluro, na hyd yn oed ei fynegi.

(b). Rhoddir bri dyladwy heddiw ar Gyfriniaeth fel math o wrthdystiad yn erbyn y gor-bwyslais ar