Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sefydliadau, rheolau, deddfau dynol, defodau, seremonïau, etc., mewn gair, yr allanol, y plisgyn, y ffrâm, gan anghofio'r mewnol, y cnewyllyn, y darlun.

Cawn hanes Cyfriniaeth gan Inge, Christian Mysticism, Studies of English Mystics, The Philosophy of Plotinus; a Rufus Jones, Spiritual Reformers of the 16th and 17th centuries; ei meddyleg a'i hathroniaeth gan William James, The Varieties of Religious Experience; Starbuck, The Philosophy of Religion; Coe, The Spiritual Life; Du Prel, The Philosophy of Mysticism; Rènéjac, The Bases of Mystic Knowledge; Delacroiz, Etudes d'Histoire et Psychologie du Mysticisme; Underhill, Mysticism, and Practical Mysticism; von Hügel, The Mystical Element in Religion; Morris Addison, The Theory and Practice of Mysticism, ac ymlaen.

Sieryd Cyfrinwyr yr un iaith a'r un yw eu nod a'u Gwlad. Dylem medd Plato, yn y Timaeus, wahaniaethu rhwng dwy ffurf bod, a gofyn, Beth yw hwnnw nad oes iddo ddechreuad, a beth yw hwnnw sydd o hyd yn dyfod ac nad yw. Ac yn y Paradiso gwêl Dante Rialiti fel afon o Oleuni—hynny yw, rhyw lif sydd yn bythol newid a symud; ond yn ddiweddarach, wedi ei sancteiddio, gwêl ef fel Calon Rhosyn, a'r gwaredigion yn betalau y Rhosyn hwnnw. I'r Cyfrinydd ni all y newidiol, symudol fod y gwir Rialiti: