Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arwydd-luniol ydyw ar y gorau. Cais ef y tragwyddol ddinewid; eithr, yn wahanol i'r athronydd nis bodlonir gan yr Absolwt haniaethol, ond myn fyned y tu draw a thu allan i gylchoedd rhesymeg a theimlo Duw, Ei gyffwrdd yn bersonol, a dyfod i undeb ag Ef. Gwaith Thomas Acquinas a'r Sgolwyr oedd dysgu ac esbonio athrawiaeth; swyddogaeth y Cyfrinwyr oedd egluro'r bywyd Cristnogol; y blaenaf yn dangos rhesymoldeb awdurdod Eglwys a Datguddiad, a'r olaf—fel ffrwyth eu profiad personol yn egluro elfennau cymundeb enaid â Duw, hynny yw, hyd y gellid, oblegid y mae'r gyfrinach i gyd yn fwy nag y gellir byth ei datguddio. Hon yw cyfrinach y Garreg Wen: "ac ar y Garreg enw newydd wedi'i ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb ond yr hwn sydd yn ei dderbyn."

Angerdd ymwybod o'r angen am Dduw sydd yn rhoi bod i Gyfrinydd—yr argyhoeddiad na thorrir mo'r syched amdano gan na chyfundrefn o athrawiaethau, nac athroniaeth, na chyflawniadau gweithredol er i'r rheini fod yn actau o ddyngarwch dihunan. Nid priod ddawn y rhai dewisol yw: cyfrinydd yw pob dyn y mae ymdeimlad o hiraeth dwfn am y Duw byw yn llywio a lliwio'i fywyd. Nid gwybod am Dduw yw ei gri, ond am Ei deimlo; a chred ef fod ei hiraeth yn broffwydol am fod perthynas rhyngddo a Duw.