Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chollwyd Duw ganddo—dim ond colli'r ffordda dywaid wrthym fod yna lwybr a arwain ato; ac un o nodau penna'r Cyfrinydd yw yr egni cyson, di-dor, a'r dewrder moesol, di-wanychiad â'r rhai yr ymestyn at y delfryd pendant sy ganddo. Gwahaniaetha nifer y camau ar y Ffordd Gyfrin. Yn The Book of the Nine Rocks y maent yn naw; yn y Theologia Germanica saith ydynt, sef:

(1) yr hiraeth am Dduw; (2) deffroad yr enaid; (3) puredigaeth neu edifeirwch; (4) myfyrdod, yn cynnwys distawrwydd gweddi, canol-bwyntiad; (5) goleuni, neu ymwybod â phresenoldeb Duw, h.y., golwg ar Gopa'r Mynydd; (6) nos yr enaid, sef anobaith ac amheuaeth; (7) undeb perffaith â Duw. Yn ôl rhai Cyfrinwyr nid oes onid pum cam; myn eraill mai pedwar ydynt, sef Deffroi, Puro, Goleuo, Uno. Y mae'r sawl a wnaeth astudiaeth fanwl o fywydau Teresa, Madam Guyon, Ioan y Groes a Suso (a dewisir y pedwar hyn oblegid amlder y ffeithiau gwybyddus amdanynt) yn tystio mai tair ystâd oedd eiddynt hwy. Yn gyntaf, y profiad o lawenydd oblegid gwybod ohonynt eu bod wedi eu huno â Duw—profiad a geisiwyd er ei fwyn ei hun ac a'i mynegai ei hunan drwy deimlad angerddol. Yna ecstasi poen oherwydd teimlo bod Duw yn absennol, a'r enaid yn ymwybodol