Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'i anheilyngdod a'i ysgariad oddi wrth Dduw. Yna, yn ddiweddaf, nid oes na llawenydd na phoen, na dim ymwybod o'r enaid mewn undeb â Duw nac ar wahân ac yn ysgaredig oddi wrtho; ond, yn hytrach, hunan wedi ei lwyr anghofio, a dim ond Duw yn y golwg, heb mwyach drai na llanw teimlad, na chais am fedru teimlo—Duw yn wastadol ger ei fron, yn ei gyfarwyddo a'i dywys hyd yn oed ym mhethau lleiaf a distadlaf bywyd.

Deil Underhill y geill dyn ddyfod i undeb â Rialiti yn hollol yn yr un ffordd ag y mae dyn yn adnabod ei wlad, bardd yn gwybod cyfrinachau awen, a'r carwr yn adnabod ei anwylyd.

Onid yw'r breuddwydiwr yn gyfrinydd pan ddyger gan ei weledigaeth wyneb yn wyneb â'r pethau sy tu draw i fyd y synhwyrau? Tybed nad cyfrinydd yw'r athronydd pan elo y tu hwnt i feddwl a chael golwg ar wirionedd noeth—nid y syniad am wirionedd? Onid yw y dyn ymarferol, y gweithiwr cyffredin yn gyfrinydd pan sylweddolo fod ei weithrediadau yn rhan o egnïon diorffwys y Gweithiwr Mawr?

Heb weithrediad Duw yn yr enaid nid oes grefydd. Ymdeimlad o rywbeth yn gafaelyd ynom, yn gweithio arnom a thrwom ac yn ein gweddnewid-dyna ei hanfod. Fe gynnwys hyn, o raid, ein bod ninnau yn