Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cydweithio ag ef, ond y mae'r cwbl—o'n tu ni—yn dechrau mewn goddefolrwydd, ymollyngiad ar Dduw, ac iddo ac ynddo: hynny yw, yn gyfriniol.

Y mae i Ffydd, fel sail wrthrychol, ddatguddiad hanesyddol. Deil Herrmann nad yw felly gyda Chyfriniaeth, a myn ef yr ymwrthyd hi â'r hanesyddol; ond credaf mai ar ŵyr yr â ef, Brunner, Barth a Tennant, a'u bod yn camddeall Cyfriniaeth, neu, o leiaf, na wnânt y gwahaniaeth a ddylid wneuthur rhwng Cyfriniaeth Gristnogol a Chyfriniaethau eraill. "Ffurf o dduwioldeb yw Cyfriniaeth," ebr ef, "a deimla fod yr elfen hanesyddol yn feichus" ac felly a'i teifl o'r neilltu. Ond nid cywir hyn, fel y dengys Inge, Maritain, Dawson, Bergson, Bremond, Söderblom a Von Hügel. A dengys Heiler nad cyngreddfau (intuitions) na theimlad ydyw'r elfennau llywodraethol mewn Cyfriniaeth, er eu bod yn amlwg ynddi. Yn hytrach, Ilwybrau at y Weledigaeth bersonol ydynt. Ac yn sicr nid Rheswm yw yr unig afon a lif i Dduw. Pe nas arweiniai y cyngreddfau a'r teimlad ddim pellach nag atynt hwy eu hunain buasai Cyfriniaeth yn fyfïaeth wrthun: yn lle hynny tywys at y Rialiti y maent. Yr oedd y Cyfrinwyr Cristnogol mwyaf, yn ddieithriad, yn gyfarwydd â hanes yr Arglwydd Iesu ac yn rhoddi iddo ei briod le. Nid rhywbeth a ddisgyn o'r nef fel cawod