o law yw Cyfriniaeth: tyfiant ydyw o ddaear fras profiad—h.y., y mae ei gwreiddiau i lawr yn ddwfn mewn ffeithiau—ffeithiau hanes y Crist a ffeithiau profiad y Cyfrinwyr eu hunain. Nid mewn Cyfriniaeth y dechrau'r weledigaeth nefol, nac ynddi hi y tardd y datguddiadau a gafwyd ar Dduw a bywyd tragwyddol. Dynion yw'r Cyfrinwyr sydd yn hollol gynefin â hanes y Gwaredwr, yn cymuno ag Ef yn bersonol drwy gyfrwng y ffeithiau a groniclir, pob gair a lefarodd Ef, a phob peth a'r a wnaethpwyd ganddo yn cael eu cysegru i fod yn llwybrau'r dyfodiad ato. Hwy, o holl ddiwinyddion a beirdd yr Eglwys sydd yn sôn mwyaf am angau'r Groes ac yn ymwthio bellaf i mewn i ystyr a chyfrinach y ffaith. Nid "rhodfeydd y Brenin" yn unig yw Ei eiriau, Ei ddistawrwydd a'i actau: y maent yn rhodfeydd iddynt hwythau hefyd.
Gwyddant yn arbennig am "gymdeithas Ei ddioddefiadau" i'r hon yr aent i mewn yn gyntaf drwy byrth y ffeithiau hanesiol, nes deffroi o'r dyn ynddynt, a pheri iddynt wrthdystio yn erbyn y cam a wnaed â'r Cyfiawn hwnnw. O gerdded ymhellach i mewn i'r gymdeithas fe ddeffrowyd y pechadur ynddynt, oni wybuwyd ganddynt y rhaid bod pechod yn rhywbeth echryslawn cyn byth y triniesid Iesu Grist—ac Ef yr Hwn ydoedd y modd y triniwyd Ef, a chyn y goddefsai