Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ei Dad iddo ddioddef y fath driniaeth waradwyddus. O gerdded ymhellach—bellach i'r gymdeithas deffrodd y sant ynddynt, nes llefain ohonynt mewn ing dyhead:

"O na welwn
"Fore byth na phechwn mwy."

Gweddi sant, nid gweddi pechadur yw honyna. Ffaith, nid ffansi. Ffrwyth profiad yw, ac fel y dywaid von Hügel, "ni buasai un adnabyddiaeth o Dduw nac un profiad ohono'n bosibl, onibai ein bod yn byw mewn byd sy wedi'i drwytho mewn ffeithiau." Rialiti yn ei ddatguddio'i Hun ac yn ei guddio'i Hun—dyna oedd yr Ymgnawdoliad. Yr ydym yn colli golwg ar ryfeddod fwyaf Gwyrth y gwyrthiau oni sylweddolwn fod yr Ymgnawdoliad yn Ffenestr ac yn Orchudd. Yr oedd Ei gnawd Ef yn "llen." A chafodd y Cyfrinwyr, yn anad neb, olwg ar Rialiti gogoneddus y Gwydr a'r Blind.

Duw'n ymddangos, Duw'n ymguddio
Dyna Faban Bethlehem:
Llewyrch cyfrin hwyr gysgodion
Tywyn Haul, heb lachar drem.
Gwybod sydd uwchlaw gwybodaeth
Dyna'r unig wybod gwir:
Golau a gwyll yn gyfamserol
Llwydnos dros y Dwyfol Dir.