Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid hwyrach y gofynnir, Paham y dewisaf y testun hwn yn hytrach nag un o bynciau mawr y dydd megis anghyflogaeth, gorthrwm cyfalaf, heddwch rhyngwladol, ac ymlaen? Onid gwrthdystio'n ymarferol yn erbyn anghyfiawnder, a gwrthryfela yn erbyn gormes ydyw ein prif rwymedigaeth os ydym â'n bryd ar wella cymdeithas? A dyma f'atebiad: Gorfydd i Eglwys Crist, os myn gyflawni unrhyw orchwyl, fod yn fyw ac ar ddihun; a dibynna'i bywyd yn llwyr ar ei bod mewn cyswllt agos a chyson â Duw. Onis adfeddiennir yr ysbryd addoli sydd yngholl yn ein bywyd personol a chymdeithasol ofer fydd ein hymdrechion ymhlaid unrhyw ddiwygiad ynglŷn â'r cysegr neu'r digysegr; ac yn raddol tywyllir ein deall fel na welwn beth yw anghenion eglwys a byd, a dirymusir ein braich fel na allwn ymegnïo i bwrpas ymhlaid y da.

I wynebu "pynciau'r dydd" a'u dadrys y mae'n rhaid inni wrth fwy o Dduw a thragwyddoldeb yn ein bywyd; a chan mai problemau moesol, ysbrydol yn y bôn ydyw pob problem yr wyf yn bwrw bod yn rhaid ein dwyn i iawn berthynas â Duw mewn addoliad cyn y digwydd dim gwellhad a fo o werth parhaol. Y peth pwysicaf yw edfryd y goruwchnaturiol i'n bywyd. Mynnai Spengler, yn union wedi'r Rhyfel Mawr, i'r Almaenwyr gyfnewid y celfyddydau cain am forwriaeth,