Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y crefftau am filitariaeth, a chrefydd am wleidyddiaeth. Bu'r genedl yn ddigon ynfyd i wrando arno ef a gau broffwydi eraill, a gwyddom beth fu'r canlyniad. Er bod gan yr Almaen ei hawliau cyfiawn ar genhedloedd eraill, wedi gwadiad ymarferol o Gristnogaeth, a gosod cenedlgarwch cul a gwleidyddiaeth ar yr orsedd yn lle addoli nid oedd dim i'w ddisgwyl amgen na Hitleriaeth wallgof; ac ni bydd y gyfundrefn fawr o dro cyn myned â'i phen iddi gan nad oes dim a saif ond a fo wedi i adeiladu ar y Sylfaen a osodwyd gan y Tad. Cyfiawnder yn unig a ddiogela ac a ddyrchaif genedl.

Dyledwr ydwyf i laweroedd—yn wir, i fwy nag a allaf gofìo, chwaethach enwi, canys yr wyf wedi bod yn derbyn yn gyson drwy gydol oes. Pa beth sy gennyf a'r nas derbyniais? Yn niwedd y llyfr nodaf y rhai yr wyf drymaf yn eu dyled. Gan gydnabod fy rhwymedigaeth iddynt oll dymunaf yn arbennig ddiolch yn wresog i gyfeillion am lawer o oleuni a gafwyd mewn awgrym a chyngor.

10 Reedville,
Birkenhead,
Mawrth 20, 1937.