welodd Duw yn dda ddatguddio Ei Fab i mi. Nid ymgynghorais â chig a gwaed. A nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis drwy ddrych, a newidir i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd. Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, eithr ar y pethau ni welir, canys y pethau a welir sydd dros amser a'r pethau ni welir sydd dragwyddol."
Ac yn enwedig yn ysgrifeniadau Ioan a'r Llythyr at yr Hebreaid daw Cyfriniaeth yn amlycach fyth. Y mae gagendor rhwng y nefol a'r daearol. Felly hefyd rhwng cnawd ac ysbryd. "Yr hyn a aned o'r cnawd sydd gnawd a'r hyn a aned o'r ysbryd sydd ysbryd. Yr hwn sydd yn dyfod o'r nefoedd sydd goruwch pawb. Yr ydych chwi o'r byd hwn. Nid wyf fi o'r byd hwn." Nid y pethau nefol eu hunain yw pethau'r byd ar y gorau. Pethau a ysgydwir yw pethau'r ddaear ac yn y man a symudir. Y mae pethau nid ysgydwir ac oblegid hynny yn para byth. "Y mae gennych chwi yr eneiniad oddi wrth y sanctaidd hwnnw, a chwi a wyddoch bob peth. Nid rhaid dysgu o neb chwi. Yr ydym ni o Dduw. Y mae yr hwn sydd o Dduw yn ein gwrandaw ni. Yn gweled yr anweledig." Ac un yw y geni o newydd, y gwybod newydd a'r cariad. "O châr neb Fi, efe a geidw Fy ngair, a'm