Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Tad a'i câr ef, a nyni a ddeuwn ato ef ac a wnawn ein trigfa gydag ef. Myfi ynddynt hwy a Thithau ynof Fi, fel y byddont wedi eu perffeithio yn un.
Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol, ac at fyrddiwn o angylion, i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf—anedig, y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y Cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd, ac at Iesu, Cyfryngwr y testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel."
A hyn oll, sylwer, yn awr, yn y byd sydd yr awr hon, ac nid wedi yr elont i'r nefoedd. Profiad Cyfrinwyr sydd yn y geiriau. Pa ryfedd mai hwynt-hwy yw yr addolwyr perffeithiaf?