Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nas gwybuwyd cyn Ei ddyfod gan Israel nac un genedl arall.

Y syniad cywir ydyw bod Ei holl ddysgeidiaeth yn newydd, ac yn gwireddu'r geiriau a lefair amdano Ei hun, "Wele yr ydwyf yn gwneuthur pob peth yn newydd." I fod yn broffwyd nid yw'n ofynnol, o Y angenrheidrwydd, datguddio pethau newydd. mae dyn yn broffwyd os yn egluro i gylch ehangach, wirionedd nas gwybyddid o'r blaen ond gan ychydig; neu, os adfer i ymwybyddiaeth dynion wirionedd coll; neu, os dwg i amlygrwydd wirionedd a gornelid; neu, os dyd gymhwysiad newydd i wirionedd cyfarwydd. Gwnaeth Iesu Grist hyn i gyd, a mwy. Yr oedd Crist yn fwy na proffwyd. Newyddwr mawr ydoedd. Defnyddiai hen eiriau, a rhoddi iddynt ystyr newydd, fel y trawsnewidiwyd ac y dyrchafwyd ganddo holl syniadau Israel am Dduw, dyn, y byd, cyfiawnder, teyrnas Dduw, y Meseia, anfarwoldeb ac addoliad; eto heb ymwrthod â dim o'r gwirionedd a oedd yn nysgeidiaeth y rhai a'i rhagflaenai.

Yn wir, fe hawlid newydd-deb yn Ei ddysgeidiaeth, ac fe'i gwarentid gan y ffaith ei fod Berson unique. Ef yw Mab Duw—y Datguddydd a'r Datguddiad. Daw'r gair Almaeneg einmahligkeit (yn llythrennol, onceness) yn nes at y gwir syniad y ceisir ei fynegi yn y