Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fugeiliodd wirioneddau coll a'u corlannu, eithr dug Dduw y pellterau i'n hymyl. Addoli'r agos yr ydym —addoli Tad. Yn Ei Berson unique, a'i ddatguddiad unique fe ddaeth y byd ysbrydol i fod yn Dŷ ein Tad; y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu yn garreg aelwyd, a gorsedd Duw yn gadair freichiau Tad. Mwyach, cartref yw tragwyddoldeb—y Tad yn Ei gadair a'r plant o'i gwmpas. Do, rhoddes Iesu Grist wedd aelwyd ar dragwyddoldeb. Bod yn agos at Dduw, trigo yn llewyrch Ei wyneb, ymddigrifo yn Ei gymdeithas, a byw i'w ogoneddu yn rhyddid gogoniant y plant—dyna yw addoli. Addoli'r Tad.

Ond beth, atolwg, a ddynodir gan y gair Tad?

(i). Fe olyga ofal, tynerwch a chalon faddeugar Duw.

(ii). Fe olyga berthynas. Os Ef yw ein Tad yr ydym ninnau yn blant iddo.

(iii). Ac eto nid dyna'r gwirioneddau sylfaenol, llywodraethol yn y syniad o dadolaeth. Gwir Ei fod yn gofalu amdanom gyda dwyfol fwynder, a bod rhyngom ag Ef berthynas. Ond y mae yna rywbeth sydd yn rhagflaenu'r berthynas ac yn ei gwneuthur yn bosibl. Yn niffyg gwell gair fe alwn y rhywbeth hwnnw yn unrhywiaeth deunydd. Hawliwn ac arddelwn berthynas ag eraill, yn unig ar sail y ffaith ein