Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bod yn gyd-gyfrannog â hwy o'r un natur, ansawdd, sylwedd, h.y., ein bod o'r un deunydd. I ddefnyddio gair y gwna Shakespeare ddefnydd ohono rhaid ein bod wedi ein llunio o'r un stwff ("we are of such stuff as dreams are made of") cyn y byddwn yn perthyn i neb.

Disgrifia Thomson yr electron fel un o'r priddfeini y ffurfir mater ohonynt. Y mae holl ffurfiau aneirif mater sy wybyddus i ni yn perthyn i'w gilydd i gyd, oblegid (ymysg rhesymau eraill) ddarfod iddynt gael eu hadeiladu o electronau cydryw. Dyna'r ddolen gydio. Er pob gwahaniaeth rhyngddynt, y maent yr un a'r unrhyw yn y bôn. Dyna sail eu bod, a rhwymyn eu hundeb.

Fe berthynwn ni i Dduw oblegid ein llunio o stwff dwyfol. Meini a naddwyd o'r Ddwyfol Graig ydyw ysbrydoedd dynion. Ysbryd yw Duw. Y mae ysbryd mewn dyn.

Gwahaniaethir weithiau rhwng Ysbryd Duw ac ysbryd dyn o ran eu natur, a seilir y gwahaniaeth ar y dybiaeth wyrgam fod un yn ddi-grëedig (neu fel y dywedai Milton, increate) a'r llall yn grëedig. Ond y mae'r gwahaniaethu yn ddi-raid; a gwaeth na hynny, yn gamarweiniol. Ni chrewyd erioed mo ysbryd dyn. Ef yw yr unig ran ohono na bu iddo ddechreuad; y