Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae yn rhywbeth a achubodd y blaen ar bob elfen sydd yn y cread, ac ni fyn dalu gwrogaeth i'r heuliau er hyned hwy.

"Vital spark of heavenly flame."

Ie, rhagor—of a divine flame. Gwreichionen o'r oddaith ddwyfol ydyw ysbryd dyn, ac nis diffoddir oni ddiffydd Duw. Y ffaith na bu iddo ddechreuad sydd yn wystl ei barhad bythol; oblegid y mae diwedd rhywbryd i fod yn hanes popeth y bu iddo ddechreuad. Anadl Duw yw ysbryd dyn. "A Duw a anadlodd yn ei ffroenau ef anadl einioes, a'r dyn a aeth yn enaid byw." "Ysbryd yr Arglwydd a'm bywiocaodd." Ysbryd ydyw hanfod a sail ein bod. Yr ydym yn perthyn i Dduw am ein bod yn unrhyw. Y mae gwreiddiau ein bywyd yn y tragwyddol, oblegid ein bod o'r un deunydd â Duw.

Beth, yn ôl dysgeidiaeth Iesu Grist yw addoli? Dychweliad y dwyfol sy ynom at Dduw. Y mae hyn yn anhraethol fwy na diolch, mawl, parchedig ofn, myfyrdod, canol—bwyntio'r meddwl, defosiwn, gwasanaeth, aberth a hunan—aberth. Addoli'r Tad yr ydym. Dychweliad yw addoli. Dyfod adref yw addoli. Y mae i'r llwynog ei ffau, i'r aderyn ei nyth, fe eheda'r wreichionen i fyny, fe dreigla'r nant i'r afon, ac fe lif