Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyd "wirionedd." Ysbryd ydyw'r unig fynydd a'n cyfyd at Dduw. Y mae'n rhaid dringo. Nid Jerwsalem yn ystlysau'r gogledd, nac unrhyw le arall, pa mor gysegredig bynnag, ond Dinas y Gwirionedd. Os am fod yn wir addolwyr gorfydd inni rodio ei heolydd hi: y gwirionedd yn wrthgyferbyn i ffug, rhith, ymddangosiad, twyll, celwydd. Nid oes addoli lle bo'r pethau yna.

Fe gynnwys perffeithiad y saint fwy na glanhad oddi wrth bechod: golyga y byddant ryw ddydd wedi anghofio pechod. Pan faddeuo Duw i bechadur y mae yn gollwng eu camweddau dros gof: "a'ch pechodau a'ch hanwireddau ni chofiaf ddim ohonynt mwyach." Nid ydynt yn bod mwyach, hyd yn oed yn Ei feddwl. Y mae delw Duw ar yr hon y'n crewyd yn cynnwys llawer mwy, mae'n ddiau, na'r hyn a ddywaid Charles —"cyfiawnder, gwybodaeth a gwir sancteiddrwydd." Fe gynnwys, ni gredwn, ymhlith pethau eraill, y byddwn megis Yntau wedi llwyr anghofio pechod, am ddarfod inni brofi o'i faddeuol ras.

Gobeithiwn ryw fore gyrraedd y stâd honno mewn perffeithrwydd pan fyddom wedi anghofio ein bod erioed wedi pechu; a gorfoleddwn yn awr wrth feddwl am y bore hwnnw, a gweled, drwy ffydd, ei wawr yn torri ar y bryniau pell. Ni bydd pechod mwyach