Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Addoli (Y Ddarlith Davies 1935).djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIV
AWGRYMIADAU YMARFEROL

MEWN munud neu ddau o ddistawrwydd y dylai ein defosiwn personol ddechrau; a dylid ystyried y distawrwydd yn rhan o'r addoli ac nid yn unig fel paratoad ar ei gyfer. Hyd y galler, dewiser yr un lle a'r un adeg, oblegid y mae y man a'r amser yn cael eu cysegru gan addoliad ac yn gwneuthur addoli yn haws rhagllaw. Cyn gweddio, darllener cyfran fer o'r Ysgrythur: bydd darllen hanner dwsin o adnodau yn well o'u darllen yn bwyllog na phe darllenid pennod gyfan dan redeg; a gwell fyth os darllenir ddwywaith. Pan benliniwn gadawer i'r meddwl yn y distawrwydd ganolbwyntio mewn rhyw un ffaith yn hanes yr Arglwydd Iesu Grist, neu mewn un ymadrodd o'r hyn a ddarllenwyd. Pan weddïom, mawl sydd i fod gyntaf, nid diolch; ac ni ddylem byth ollwng dros gof mai rhoddi, nid derbyn yw y peth rheitiaf. Wrth ddiolch, meddwl amdanom ein hunain yr ydym; wrth foli, meddwl am Dduw a wnawn—y Rhoddwr, nid y rhoddion. O edrych ar yr Arglwydd yn y Gwyddfod